AS Llafur Cymru yn beirniadu cynlluniau i dorri gwariant lles

Mae AS Sir Drefaldwyn a Glyndŵr, Steve Witherden, yn dweud fod datganiad y Gwanwyn gan Rachel Reeves yn "cymryd budddaliadau o bobl sydd mwyaf agored i niwed"
- Cyhoeddwyd
Mae AS Llafur Cymru wedi beirniadu'n hallt cynlluniau'r Canghellor i dorri gwariant ar les dros y blynyddoedd nesaf.
Daw wrth i'r Canghellor Rachel Reeves ymweld â de Cymru yn ddiweddarach heddiw.
Ar sawl achlysur, mae AS Sir Drefaldwyn a Glyndŵr, Steve Witherden, wedi galw am dreth cyfoeth i fynd i'r afael â diffyg arian parod llywodraeth y DU.
Dywedodd fod datganiad y Gwanwyn gan Rachel Reeves yn "cymryd budd-daliadau o bobl sydd mwyaf bregus."
Mewn datganiad fideo ar X, Twitter gynt, dywedodd fod y system les "ar ei choesau olaf" a byddai cynigion llywodraeth y DU yn arwain at "fwy o ddioddefaint ac yn byrhau mwy o fywydau."
'Siomedig'

Cyhoeddodd hefyd y bydd gwariant ar amddiffyn, a oedd i fod i godi £2.9bn y flwyddyn nesaf, yn cynyddu £2.2bn arall
Mr Witherden yw'r unig AS Llafur Cymru i gwestiynu polisi lles llywodraeth y DU yn gyhoeddus.
Dywedodd yn y fideo: "Mae datganiad y Gwanwyn heddiw yn tynnu budd-daliadau o'n rhai sydd mwyaf agored i bregus.
"Bydd hyn ond yn arwain at fwy o ddioddefaint ac yn byrhau mwy o fywydau.
"Mae'n rhaid i'r llywodraeth gyflwyno treth ar bobl fwyaf cyfoethog ein cymdeithas, nid torri budd-daliadau ymhellach na'r Torïaid".
Yn ystod ei hymweliad â de Cymru, mae disgwyl i'r Canghellor Rachel Reeves wynebu cwestiynau am y toriadau pellach i fudd-daliadau ar ôl i brif weinidog Llafur, Eluned Morgan, ddweud ei bod yn "siomedig" o beidio â chael asesiad o'r effaith ar Gymru.
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
Cyhoeddodd y Canghellor sawl newid budd-daliadau, gan gynnwys tynhau rheolau cymhwyster ar gyfer Taliadau Annibyniaeth Bersonol, y prif fudd-dal anabledd, sy'n cael eu hawlio gan fwy na 250,000 o bobl oedran gweithio yng Nghymru.
Yn y cyfamser, mae Plaid Cymru wedi galw am "ddadl frys" yn y Senedd yn dilyn cyhoeddiad y toriadau lles ac yn gofyn i'r Prif Weinidog i nodi sut y bydd hi'n "amddiffyn Cymru" rhag y toriadau.
Dywed Plaid Cymru y byddai'r toriadau yn effeithio'n anghymesur ar Gymru, gan fod gan y wlad gyfraddau uwch o bobl anabl o oedran gweithio na chyfartaledd y DU a rhai o'r lefelau uchaf o anweithgarwch economaidd oherwydd salwch hirdymor.