Datganiad y Gwanwyn: Tlodi 'gwaeth nag adeg y rhyfel' i ddod

- Cyhoeddwyd
Wrth i ystadegau Llywodraeth y DU awgrymu y gallai 250,000 yn fwy o bobl ddisgyn i dlodi yn sgil datganiad y Canghellor ddydd Mercher, mewn sawl rhan o Gymru mae cymunedau eisoes yn teimlo'r wasgfa.
Fe gyhoeddodd Rachel Reeves ddydd Mercher y bydd prawf cymhwysedd llymach ar gyfer taliadau annibyniaeth bersonol - y prif fudd-dal anabledd ar hyn o bryd - o fis Tachwedd 2026.
Gyda'r stoc dai yn hŷn, sy'n golygu nad ydyn nhw'n cadw gwres cystal, mae sir Gwynedd ac ardal Arfon o blith y gwaethaf yng Nghymru i ddioddef tlodi tanwydd.
Yn ôl gwaith ymchwil, mae trafnidiaeth gyhoeddus, bwyd, tanwydd a gofal plant oll yn ddrytach, a nifer yn ei chael hi'n anodd cadw dau ben llinyn ynghyd.

Yn ôl Stephanie O'Neill, dyw hi ddim yn gweithio ar hyn o bryd gan fod costau gofal plant mor uchel
Yn ardal Dyffryn Nantlle mae sawl cynllun ar y gweill i geisio helpu unigolion sy'n profi cyfnodau heriol, ond er hyn mae nifer yn dal i brofi sgil effeithiau'r argyfwng costau byw.
Mae Stephanie O'Neill yn fam sengl i ddau o blant, gyda'r ieuengaf yn ddwy oed.
Wedi symud o ardal Blaenau Ffestiniog, mae hi bellach yn byw ym Mhenygroes ac yn dweud nad yw'n bosib iddi weithio ar hyn o bryd gan fod costau gofal plant mor uchel.
'Mynd i gwaith i dalu cyflog rhywun arall'
"Mae [costau] childcare yn ridiculous... Fyswn i'n mynd i gwaith just i dalu cyflog rhywun arall", meddai Ms O'Neill.
"Dwi'n single mother i ddau o blant efo no money.
"Dwi'm yn gwybod sut mae rhieni eraill yn ei wneud o... O'n i yn gorfod rhoi fyny gwaith.
"Dwi just wedi gorfod ffigro allan sut i gael mwy o incwm."
Yn ôl Ms O'Neill, dydi gweithio ar hyn o bryd, gyda'r plant yn ifanc, ddim yn opsiwn ac mae hi'n dweud bod chwyddiant a phrisiau cynyddol yn cael effaith enfawr.
"Mae gas ac electric fi tua £260 y mis, ma'n mental," ychwanegodd.
"Dwi'm yn gwybod sut mae pobl yn gallu dweud bod yr hyn ti'n ei gael ar minimum wage, bo' ti'n gallu byw... oherwydd ti ddim. Ti'n scrapio."

Mae Betty Williams wedi sylwi ar gynnydd mawr mewn prisiau bwyd yn enwedig
O'r to ifanc i'r to hŷn, mae chwyddiant i'w weld yn cael effaith ar bob cenhedlaeth.
Yn ôl Betty Williams, sy'n byw yn yr ardal ac yn derbyn ei phensiwn, mae hi wedi gorfod gwneud toriadau er mwyn arbed arian.
"Dwi 'di torri ar bob dim a dweud y gwir... Mae bwyd 'di mynd allan o bob rheolaeth, fedra rhywun ddim fforddio bwyd iach mwyach," meddai.
"Mae ffrwythau 'di mynd a phrisiau 'di mynd drwy'r to. Dio'm yn hawdd, ac i feddwl bo' rhywun wedi gweithio ar hyd eu hoes.
"O'n i'n meddwl bo' ni 'di cael ein magu'n dlawd adeg y rhyfel ond ma'n mynd yn waeth ar y generation nesa."

Dywedodd Osian Piercy fod ceisio arbed arian i allu prynu tŷ yn anodd iawn
O blith y genhedlaeth nesaf mae pobl fel Osian Pirecy sydd yn ei 20au.
Wrth aros am fws yng nghanol Penygroes mae'n dweud bod o hefyd yn gwneud penderfyniadau anodd, a bod y sefyllfa yn fwy acíwt yn y rhan hwn o Gymru.
"Mae'n anodd i bobl ifanc ffeindio swyddi yma a hefyd anodd i maintainio swydd da oherwydd bod o'n fwy seasonal," meddai.
"Dwi'n meddwl fysa fwy yn gallu cael ei wneud. Ma'n anodd feindio gwaith steady ac eto ffeindio pres i ddod mewn yn steady ac mae'n gallu bod yn challenge ynddo'i hun."
Ychwanegodd ei fod bellach wedi symud yn ôl at ei fam er mwyn ceisio arbed arian i brynu tŷ, gan ddisgrifio'r broses o gynilo fel un anodd iawn.
Mae Llywodraeth y DU yn dweud y bydd datganiad y Gwanwyn yn sicrhau bod cyfrifon yn cydbwyso a bod twf lefel chwyddiant yn gostwng.
Ond i gymunedau fel yr un yma mae'r wasgfa ariannol i'w theimlo'n arw, a phobl yma yn galw am newid yn y dref ac ar y llywodraeth am gymorth.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2024