Datganiad y Gwanwyn: Toriadau i arbed £4.8bn o'r gyllideb les

"Mae'r economi fyd-eang wedi dod yn fwy ansicr," meddai Rachel Reeves wrth ASau
- Cyhoeddwyd
Mae'r Canghellor Rachel Reeves wedi cyhoeddi ei chynlluniau ar gyfer economi'r DU yn ystod Datganiad y Gwanwyn yn Nhŷ'r Cyffredin, gan gynnwys toriadau i arbed £4.8bn o'r gyllideb les.
Bydd prawf cymhwysedd llymach ar gyfer taliadau annibyniaeth bersonol - y prif fudd-dal anabledd sy'n cael eu hawlio ar hyn o bryd gan fwy na 250,000 o bobl yng Nghymru - o fis Tachwedd 2026.
Cyhoeddodd hefyd y bydd gwariant ar amddiffyn, a oedd i fod i godi £2.9bn y flwyddyn nesaf, yn cynyddu £2.2bn arall, gyda busnesau amddiffyn mewn ardaloedd fel Casnewydd a Glannau Dyfrdwy yn elwa o gyfran o'r arian ychwanegol ar gyfer technoleg filwrol flaengar, meddai'r canghellor.
"Mae'r economi fyd-eang wedi dod yn fwy ansicr," meddai wrth ASau.
Ond dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig mai Llafur yw plaid "marweidd-dra", a dywedodd Ben Lake ar ran Plaid Cymru bod llywodraeth Lafur y DU "yn dewis cyni dros uchelgais, toriadau dros fuddsoddiad".
Dywedodd Prif Weinidog Cymru Eluned Morgan y "byddwn ni nawr yn asesu'n fanwl beth fydd goblygiadau Datganiad y Gwanwyn ar gyfer ein cynlluniau gwariant yn y dyfodol".

Nid yw Llywodraeth Cymru yn gwybod eto sut y bydd y toriadau lles yn effeithio ar Gymru, meddai Eluned Morgan
Nid yw Llywodraeth Cymru yn gwybod eto sut y bydd y toriadau lles yn effeithio ar Gymru, yn ôl y prif weinidog.
Ysgrifennodd Eluned Morgan at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau Liz Kendall ar 11 Mawrth yn gofyn am asesiad effaith penodol i Gymru.
Fodd bynnag, ddydd Mercher, dywedodd Eluned Morgan wrth BBC Cymru: "Dydyn ni dal ddim wedi clywed pa mor uniongyrchol mae hynny'n mynd i effeithio ar Gymru, sy'n siomedig."
Disgwyl twf is eleni
Cadarnhaodd y canghellor y bydd credyd cynhwysol cysylltiedig ag iechyd ar gyfer hawlwyr newydd, a oedd eisoes i'w haneru o fis Ebrill 2026 o dan becyn a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, bellach yn cael ei rewi ar ei lefel is newydd o £50 yr wythnos tan 2030.
Ar hyn o bryd mae tua 150,000 o bobl yng Nghymru yn hawlio elfen iechyd y credyd cynhwysol.
Ni fydd pobl dan 22 oed bellach yn gallu hawlio'r ychwanegiad budd-dal analluogrwydd o gredyd cynhwysol.
Dywedodd y bydd gwariant milwrol yn gyrraedd 2.36% o incwm cenedlaethol y flwyddyn nesaf, cyn ei godi i 2.5% erbyn 2027.
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2024
O ran economi y DU, mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol (OBR) wedi israddio'r twf a ragwelir ar gyfer eleni o 2% i 1%.
Ond mae wedi uwchraddio twf amcangyfrifedig ar gyfer y pedair blynedd nesaf, i 1.9% y flwyddyn nesaf, 1.8% yn 2027, yna 1.7% yn 2028, ac 1.8% yn 2029.
Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn rhagweld chwyddiant o 3.2% ar gyfartaledd eleni, i fyny o 2.6% a ragwelwyd yn flaenorol, cyn disgyn yn ôl i 2.1% yn 2026.
Disgwylir i chwyddiant gyrraedd targed y llywodraeth o 2% o 2027.

Nid yw Paul Johnson (chwith) na Saxon Mainwairing (dde) yn falch newid ar gyfer taliadau annibyniaeth bersonol
Wrth ymateb i'r datganiad, dywedodd Paul Johnson, 63 o Abertawe, fod Rachel Reeves "wedi cymryd yr opsiwn anghywir".
"Dwi'n derbyn credyd cynhwysol, sydd bellach yn ôl y sôn yn elfen iechyd, ac mae wedi ei rewi o heddiw a bydd yn parhau wedi ei rhewi nes 2023, felly mae hynny yn bum mlynedd.
"Mae'n hollol anfoesol yn fy marn i, y peth moesol yw mynd ar ôl y bobl fwyaf cyfoethog."
Ychwanegodd Saxon Mainwaring, 35, sy'n gweithio fel gofalwr i bobl ag anableddau: "Nid yw'n hygyrch o gwbl, mae'n rhywbeth sydd ond yn galluogi pobl i fyw bywyd sylfaenol," meddai.
"Dy'n ni ddim yn siarad am bobl sy'n gyrru rownd y lle mewn ceir ffansi, yn fyw'r bywyd yna.
"Rydym yn siarad am bobl sy'n poeni ac yn meddwl beth sydd ganddyn nhw i fwydo eu plant."
'Camgymeriadau Llafur'
Ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, dywedodd eu llefarydd cyllid yn Senedd Cymru, Sam Rowlands: "Fe wnaeth cyllideb gyntaf Rachel Reeves arwain at economi sy'n crebachu a diffyg cyllidol, ond yn anffodus ni fydd ei chyllideb frys heddiw yn llwyddo i gywiro camgymeriadau Llafur".
Ychwanegodd: "Trwy ddewis codi trethi ar fusnesau a theuluoedd ffermio, mae Llafur wedi profi nad ydyn nhw'n blaid gwaith, nac yn blaid twf. Nhw yw plaid marweidd-dra."
Ymatebodd Ben Lake AS ar ran Plaid Cymru i'r datganiad trwy ddweud y dylai'r llywodraeth fod wedi trethu "pobl hynod gyfoethog".
Yn lle hynny, meddai: "Mae'r Canghellor yn targedu'r rhai sy'n agored i niwed gyda thoriadau dwfn i les a fydd yn sbarduno tlodi ac anghydraddoldeb yng Nghymru."
Ychwanegodd: "Er yr holl boen a achosir i gymunedau mae'n ymddangos mai ychydig o fudd economaidd sydd i'w gael: mae dadansoddiad y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn awgrymu y bydd y mesurau hyn yn annog twf diffygiol ar y gorau."
Dywedodd Aelod Seneddol y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, David Chadwick: "Gallai'r llywodraeth fod wedi codi arian drwy ofyn i'r banciau mawr, cewri'r cyfryngau cymdeithasol a chwmnïau gamblo ar-lein dalu eu cyfran deg.
"Mae Datganiad y Gwanwyn hefyd yn dangos nad yw'r llywodraeth hon yn deall ein cymunedau gwledig o gwbl.
"Maent wedi gwrthod canslo'r dreth fferm deuluol greulon."

Yn ystod y dydd bu protest yn Llundain yn erbyn y toriadau gan Pobl yn Gyntaf Cymru gyfan.
Wrth siarad a'r BBC dywedodd y Prif Weithredwr, Joe Powell fod nifer o bobl iawn yn nerfus iawn am y cyhoeddiad.
"Mae pobl yn ofnus iawn. Fydd pobl ag anableddau dysgu, er enghraifft, ddim yn sgorio digon o bwyntiau ar y system PIP, oherwydd nad oes ganddynt nam corfforol. Mae eu hanabledd nhw yn gudd," meddai.

Dywedodd Joe Powell, Prif Weithredwr Pobl yn Gyntaf Cymru gyfan, fod nifer o bobl iawn yn nerfus iawn
"Mae pobl ag anableddau yn gallu mynd i waith ond mae person ag anabledd dysgu neu awtistiaeth, er enghraifft, yn gallu wynebu bwlio ac mae hynny yn gallu achosi problemau iechyd meddwl gwaeth ac yna mae angen cymorth pellach," ychwanegodd.
"Rhaid hefyd cael seilwaith a chefnogaeth i sicrhau bod yna waith pwrpasol – ar hyn o bryd mae llawer o'n haelodau, yn cael eu gwrthod ar gyfer swyddi gwirfoddol, heb sôn am swyddi â thâl felly oni bai bod rhwystrau'n cael eu dileu, ni allwn symud pobl drosodd i'r gweithlu."