Prif weithredwr Galeri yn gadael wedi achos stelcian

Steffan Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Steffan Thomas ei benodi'n brif weithredwr Galeri yn 2023

  • Cyhoeddwyd

Mae prif weithredwr canolfan gelfyddydol Galeri yng Nghaernarfon wedi gadael ei swydd, bedwar mis wedi iddo gael ei atal o'i waith ar ôl pledio'n euog i stelcian.

Derbyniodd Steffan Thomas orchymyn atal (restraining order) ym mis Ebrill ar ôl pledio'n euog i gyhuddiad o stelcian heb godi ofn, braw na gofid.

Ar ôl ei ddedfrydu cadarnhaodd bwrdd Galeri Caernarfon Cyf eu bod yn cynnal ymchwiliad, a bod Thomas wedi'i atal o'i waith ar gyflog llawn.

Mewn datganiad i BBC Cymru Fyw cadarnhaodd Galeri fod ei gyflogaeth wedi dod i ben ddydd Gwener.

Roedd wedi bod yn y swydd ers Ebrill 2023.

Dywedodd Galeri mewn datganiad: "Mae cyflogaeth Steffan Thomas fel Prif Weithredwr Galeri Caernarfon Cyf wedi dod i ben, ar y 9fed o Awst 2024.

"Bydd y broses o benodi Prif Weithredwr newydd Galeri Caernarfon Cyf yn cychwyn yn fuan."

Pynciau cysylltiedig