'Rhan ohonof wedi marw pan ges i fy nhreisio' medd AS

  • Cyhoeddwyd
Jamie WallisFfynhonnell y llun, JUSTIN TALLIS
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jamie Wallis yn dweud bod ganddo ddysfforia rhywedd a'i fod wedi cael ei dreisio

Mae'r AS cyntaf i ddweud ei fod yn drawsryweddol wedi dweud ei fod yn gobeithio trawsnewid "cyn gynted ag sy'n bosib".

Fe rannodd Jamie Wallis neges ar gyfryngau cymdeithasol fis diwethaf yn dweud bod ganddo ddysfforia rhywedd a'i fod wedi cael ei dreisio a'i fygwth trwy flacmel.

Mewn cyfweliad ar raglen foreol Sky News ddydd Sul, dywedodd bod rhan ohono "wedi marw" ar ôl cael ei dreisio.

Mae'r AS Ceidwadol dros Ben-y-bont ers 2019 wedi dweud iddo gael "cefnogaeth anhygoel" ers iddo ddod allan.

Dywedodd wrth y rhaglen y byddai'r broses o drawsnewid yn cymryd blynyddoedd a'i fod yn dal yn well ganddo ddefnyddio'r rhagenw 'fe'.

Dywedodd Mr Wallis ei fod yn wyth mlwydd oed pan ddechreuodd "geisio deall beth oedd hyn", ond heb fynediad rhwydd i'r we, dywedodd nad oedd yn gwybod "os mai rhywbeth oedd ond yn effeithio fi oedd e neu os oedd pobl arall a oedd, efallai, yn teimlo fel hyn".

Dywedodd ei fod wedi dod i'r casgliad anghywir a'i fod yn credu "efallai bod 'na rhyw gamgymeriad ofnadwy neu bod rhywbeth wedi mynd yn anghywir".

Ychwanegodd: "Dw i'n meddwl nawr fy mod allan a phobl yn gwybod, dw i'n rhydd i ddechrau ar y siwrnai ar gyflymder sy'n gyfforddus i mi.

Cafodd Jamie Wallis ei eni ym Mhen-y-bont ac yn 2019 fe gafodd ei ethol yn Aelod Seneddol dros yr ardal.

Llwyddodd i gipio'r sedd oddi wrth y Blaid Lafur am y tro cyntaf ers 30 mlynedd.

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Jamie Wallis gipio etholaeth Pen-y-bont ar Ogwr oddi ar Lafur yn Rhagfyr 2019

Dywedodd Mr Wallis ei fod wedi ceisio "rhedeg i ffwrdd wrth bwy oedd e" ers blynyddoedd tan y chwe i 12 mis diwethaf.

Fe gynghorodd pobl ifanc i beidio "brysio i ddewis label".

Yn y neges ar Twitter fis diwethaf, fe ddywedodd Mr Wallis bod dyn wedi anfon lluniau i'w deulu yn 2020 a mynnu £50,000.

Ychwanegodd bod y person a wnaeth ei flacmelio wedi pledio'n euog i'r drosedd a chael dedfryd o ddwy flynedd a naw mis yn y carchar.

Roedd y trais yn ddigwyddiad ar wahân a does dim gwybodaeth bellach ynglŷn ag a oes unrhyw un wedi eu harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

'Di-rym'

Dywedodd Mr Wallis wrth gyflwynydd Sky News, Sophie Ridge, ddydd Sul ei fod wedi cwrdd â rhywun ond nad oedd yn "iawn gyda'r hyn dw i'n ystyried i fod yn arfer gyfrifol a diogel yn yr ystafell wely, felly fe wnes i dynnu fy nghaniatâd yn ôl".

Aeth ymlaen i ddweud sut wnaeth y dyn "benderfynu ei fod am wneud e beth bynnag ac roeddwn i'n ddi-rym i'w stopio.

"Yn y foment honno, fe wnaeth rhan ohonof farw a dw i wedi bod yn trio'i gael yn ôl ers hynny".

Dywedodd Mr Wallis ei fod yn dioddef hunllefau ac ôl-fflachiadau ers yr ymosodiad a'i fod wedi gofyn am help.

Cafodd Mr Wallis ei arestio'r llynedd ar amheuaeth o yrru pan nad oedd mewn cyflwr i wneud hynny.

Cafodd yr heddlu eu galw i "wrthdrawiad un cerbyd" ar Heol yr Eglwys ym mhentref Llanfleiddan, ger Y Bont-faen ychydig ar ôl 01:00 ddydd Sul 28 Tachwedd.

Dywedodd Mr Wallis ei fod wedi cael ei oresgyn gan ymdeimlad o ofn "llethol" a bod ganddo anhwylder straen wedi trawma (PTSD).

Mae Heddlu De Cymru wedi dweud bod y mater dal dan ymchwiliad.

Pynciau cysylltiedig