Datgelu cynllun Kop Wrecsam i 'atgyfnerthu' awyrgylch y Cae Ras
- Cyhoeddwyd
Mae cynlluniau ar gyfer eisteddle newydd yn stadiwm Clwb Pêl-droed Wrecsam wedi eu cyhoeddi.
Yn ôl y clwb, fe fydd y Kop newydd yn y STōK Cae Ras yn dal hyd at 5,500 o bobl.
Y gobaith yw y gallai'r eisteddle newydd olygu bod modd denu gemau rhyngwladol yn ôl i'r gogledd ac ateb gofynion UEFA.
Dywedodd y clwb y byddai'r eisteddle newydd yn "atgyfnerthu'r awyrgylch" o fewn y stadiwm, ac yn "cynyddu sain y cefnogwyr tuag at y cae".
Y tu allan, mae dyluniad o frics yn nodi hanes ardal Wrecsam o greu brics a theils, yn enwedig brics coch Rhiwabon.
Mae'r cynllun hefyd yn cynnwys sgwâr cyhoeddus y tu allan i'r stadiwm er mwyn i gefnogwyr gyfarfod ar ddiwrnod gêm - ac yma bydd cofeb i drychineb pwll glo Gresffordd yn 1934.
Dywedodd prif weithredwr y clwb, Michael Williamson, bod y dyluniad yn nodi "hanes a threftadaeth Wrecsam" ac y bydd yn creu "lleoliad eiconig" yn y ddinas.
Dywedodd Declan Sharkey o gwmni penseiri Populous bod y dyluniad wedi elwa o arbenigedd "ymgynghorwyr sain er mwyn gwneud y mwyaf o'r awyrgylch".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd25 Mai 2023