'Potensial gan Gymru i fod yn arweinydd byd-eang ym maes AI'

Logo AIFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae gan Gymru'r potensial i fod yn arweinydd byd-eang mewn deallusrwydd artiffisial, neu AI, yn ôl arbenigwr yn y maes.

Mae'r dechnoleg eisoes yn cael ei defnyddio mewn gwasanaethau cyhoeddus yma, fel y Gwasanaeth Iechyd.

Mae cwmnïau preifat hefyd yn defnyddio AI i arbed amser ac arian drwy wneud pethau'n gyflymach.

Er y gallai rhai swyddi fod mewn perygl, mae'r gweinidog sy'n gyfrifol yn dweud bod cyfleoedd enfawr.

Mae cwmni Planna newydd agor swyddfa yng Nghaerdydd.

Un o'i wasanaethau yw darparu gwybodaeth sy'n cael ei chynhyrchu gan AI am eiddo ar gyfer banciau neu gwmnïau yswiriant.

Mewn un achos, mae'n gwneud dadansoddiad manwl o faint, strwythur a phroblemau gyda tho ar ben tŷ preswyl.

Brooke WilliamsFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Brooke Williams y gallai'r dechnoleg arbed oriau o waith i bobl

Dywedodd Brooke Williams o'r cwmni mai dyma'r math o waith a fyddai'n cymryd oriau i berson ei roi at ei gilydd.

"O god post yn unig, mae'r system yn mynd ati i gasglu gwybodaeth o ddelweddau lloeren, delweddau o'r awyr, data ffynonellau y mae'r llywodraeth yn eu darparu, ac yna mae'n sganio'r eiddo a darparu'r data hwnnw yn ôl i'r yswiriwr neu'r banc.

"Felly, mae'n rhoi cipolwg i chi ar safle eiddo na fyddech chi fel arfer yn ei weld", meddai.

Ychwanegodd ei fod yn rhoi syniad o "eiddo ar amser penodol ond mae'n rhoi manylion i chi na allai person eu gweld neu efallai nad yw perchennog y tŷ yn ymwybodol ohonynt".

Walter PasquarelliFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

"Mae Cymru'n barod i elwa o'r chwyldro AI" yn ôl Walter Pasquarelli, sy'n aelod o banel cynghori Llywodraeth Cymru yn y maes

Mae Walter Pasquarelli yn arbenigwr cydnabyddedig rhyngwladol ar strategaeth AI, ac yn aelod o banel cynghori Llywodraeth Cymru ar y mater.

Dywedodd fod Cymru'n barod i elwa o'r chwyldro AI: "Rwy'n credu bod hwn wir yn faes lle mae gan Gymru gyfle i arwain a gall hefyd lanw un o'r safleoedd uchaf o ran cystadleuaeth fyd-eang mewn deallusrwydd artiffisial, yn enwedig gan fod ganddi fynediad at dalent o'r radd flaenaf."

Ychwanegodd ei fod yn hollbwysig bod y dechnoleg yn gallu cael mynediad at y canolfannau data bellach.

"Mae'r ffaith bod ganddi ecosystem mor gynyddol o'i chwmpas, yn enwedig yng Nghymru, yn dangos yn fy marn i'r potensial sydd ganddi."

'Mae heriau ond hefyd cyfleoedd'

Mae AI eisoes yn chwarae rhan mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, ac er y gallai rhai swyddi fod mewn perygl, mae Gweinidog yr Economi Rebecca Evans yn croesawu'r ffordd newydd hon o weithio.

"Rydym yn gweld AI yn cael ei ddefnyddio yn ein Gwasanaeth Iechyd er enghraifft, i wella sgrinio canser y prostad, sgrinio canser y fron.

"Mae rheiny i gyd yn bethau cyffrous iawn, iawn a gall wneud y swyddi hynny'n fwy gwerth chweil pan fyddwch chi'n gallu helpu pobl yn gynharach.

"Mae yna heriau yn sicr ond hefyd cyfleoedd enfawr."

Ond mae Ms Evans yn cyfaddef bod yna risgiau: "Mae rhai o'r risgiau'n ymwneud â chamwybodaeth er enghraifft."

Dywedodd na ddylen ni "ymddiried mewn AI i roi'r holl atebion i bopeth".

"Mae'n rhaid i AI gael mewnbwn dynol yn y lle cyntaf, fel bo chi'n gofyn y cwestiynau cywir ac y'ch chi'n meddwl am yr atebion y'ch chi'n cael.

"Ac yna ar y diwedd pan fydd gennych chi'r allbwn o AI, cael person i wirio sut y bydd hyn yn gweithio yn y byd go iawn. A yw'n gwneud synnwyr i ni fel pobl?"

Y datblygiad mawr nesaf fydd cyhoeddiad ynghylch ble yng Nghymru y bydd Parth Twf AI yn cael ei sefydlu.

Dywedodd Llywodraeth y DU eu bod yn pori trwy fwy na 200 o geisiadau o bob cwr o'r DU, ac yn gobeithio gwneud cyhoeddiad cyn gynted â phosibl.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig