'Chwilio am leoliadau cudd TikTok yn peryglu bywydau pobl ifanc'

Fe benderfynodd Nathaniel a Charlie ddringo mewn chwarel gyda dau ffrind - ond aethon nhw'n sownd ar ochr clogwyn
- Cyhoeddwyd
Mae anturiaethwyr sy'n chwilio am leoliadau cudd sy'n tyfu mewn poblogrwydd ar y cyfryngau cymdeithasol yn peryglu eu bywydau, yn ôl timau achub mynydd.
Mae nifer y galwadau i achub pobl dan 25 oed wedi cynyddu 90% dros y pum mlynedd diwethaf.
Y gred ydy bod fideos TikTok ac Instagram yn gyfrifol drwy arddangos mannau hardd a "chyfrinachol", ond sydd yn aml yn anghysbell a pheryglus.
Fe wnaeth rhaglen y BBC, SOS Extreme Rescues, dynnu sylw at achos un cwpl ifanc ddefnyddiodd fideos TikTok i drefnu taith i safle treftadaeth y byd yng ngogledd Cymru.
Aeth y cwpl o Leeds i drafferthion ar ochr clogwyn mewn chwarel, ac roedd storm ar y ffordd.

Lleoliad prydferth ond o bosib peryglus o chwarel yn y gogledd
"Rydyn ni'n defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol i weld yr holl leoliadau anhygoel yma, ac yna 'da ni'n trio gweld sut 'da am eu cyrraedd nhw," meddai Nathaniel, sy'n gweithio fel gyrrwr danfon nwyddau.
Fe wnaeth gwrdd â Charlie, sy'n nyrs dan hyfforddiant, yn yr ysbyty lle mae'r ddau yn gweithio.
"Ni'n deffro ac yn dweud 'Ok, awn ni i fan hyn'. Mae'n benderfyniad munud olaf drwy'r amser," ychwanegodd Charlie.
Fe deithion nhw i Barc Cenedlaethol Eryri gyda dau ffrind arall.
Doedd Nathaniel ddim wedi dweud wrth Charlie ble roedden nhw'n mynd gan ei fod am i'r lleoliad fod yn sypreis.

Dywedodd Nathaniel nad oedd ganddo eiriau wrth iddyn nhw gael eu hachub
Roedd y lleoliad cudd hwn ymhell i mewn i chwarel Dinorwig yng Ngwynedd - sef yr ail chwarel lechi fwyaf yn y byd pan agorwyd hi dros 200 mlynedd yn ôl.
Mae'n llawn llwybrau troellog a thwnneli ar blatfformau sydd wedi eu torri yn ochr y mynydd.
Caeodd y chwarel yn 1969, a chafodd ei henwi ar restr safleoedd treftadaeth y byd UNESCO yn 2021.
Yn ddiweddar, roedd cerddwyr yn ffodus i osgoi tirlithriad mawr yn chwarel Dinorwig
Mae'r rhan fwyaf o'r chwarel yn eiddo preifat ac mae'n cynnwys llwyth o arwyddion yn rhybuddio, ffensys a giatiau wedi'u cloi.
Er gwaethaf hyn mae wedi bod yn boblogaidd iawn gydag anturiaethwyr yn enwedig dringwyr creigiau.
Ond, ers i ddylanwad y cyfryngau cymdeithasol dyfu, mae'r lleoliad wedi bod yn denu miloedd o ymwelwyr llai profiadol.
Pobl sydd yn aml ddim yn ymwybodol o'r peryglon ynghlwm â chwareli ac ochrau mynyddoedd.

Dywedodd y nyrs dan hyfforddiant, Charlie nad oedd hi'n gwybod ble oedden nhw'n mynd gan fod Nathaniel wedi trefnu "sypreis"
"Pan gyrhaeddon ni, roedd fel lagŵn, glas, a dŵr clir. Roedd llwyth o ogofâu, ac yna fe welon ni'r sypreis, rhaeadr gudd," eglurodd Charlie.
"Roedd mor bert."
Dywedodd Nathaniel eu bod wedi dringo'n eithaf uchel i mewn i'r chwarel ac yn mwynhau'r diwrnod.
"Yna, wrth i ni fynd i lawr, dyna pryd aeth popeth o chwith," meddai.
"Roedd popeth roedden ni'n sefyll arno yn cwympo."
Er i'w dau ffrind ddod o hyd i ffordd allan, roedd Nathaniel a Charlie yn sownd yn y fan a'r lle.
Bu rhaid iddyn nhw ffonio 999 am help.

Fe gafodd Charlie ei hachub o ochr y chwarel gan aelod o dîm Achub Mynydd Llanberis
"Roedd gwyntoedd o 70mya", meddai Nathaniel.
"Darnau o lechi'n hedfan. O'n i'n cael cytiau bach wrth i'r gwynt chwythu darnau at ein hwynebau," ychwanegodd.
"Roedden ni mewn ardal mor agored, roedd hi'n rhewi. Yn amlwg o'n i'n ofnus - ac roedden ni'n dau'n dal 'mlan am ein bywydau," meddai Charlie.
Yn ôl Mountain Rescue England and Wales, y corff sy'n goruchwylio timau achub ar draws y ddwy wlad, bu cynnydd brawychus yn nifer y galwadau i achub pobl iau.
Yn 2019, roedd 166 o alwadau ar gyfer pobl rhwng 18 a 24 oed.
314 oedd y ffigwr bum mlynedd yn ddiweddarach - cynnydd o 90%.
- Cyhoeddwyd1 Mawrth
- Cyhoeddwyd21 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd15 Ebrill
Mae hynny wedi arwain at dimau achub mynydd yn rhybuddio dro ar ôl tro ynglŷn â dilyn tueddiadau ar y cyfryngau cymdeithasol.
"Rydw i wedi gweld fideos o bobl sy'n ei gwneud hi edrych yn hawdd", meddai Dave Murray o Dîm Achub Mynydd Llanberis.
"Ond mae rhywun yn gweld y fideo hwnnw - ac iddyn nhw - efallai ei fod ymhell y tu hwnt i'w gallu," ychwanegodd.
Wrth gyfeirio at achos Nathaniel a Charlie dywedodd eu bod wedi "darllen am lwybr penodol i'w ddilyn, wedi cymryd troad anghywir, ac efallai ddim wedi sylweddoli beth oedd y llwybr yn cynnwys".
"Gobeithio y byddan nhw'n dysgu o hyn", ychwanegodd.
Dywedodd Charlie fod y gwersi'n glir: "Os ydw i wedi dysgu unrhyw beth o'r hyn ddigwyddodd, byddwn i'n dweud bod angen cymryd y cyfarpar cywir, gwybod eich gallu ac ymchwiliwch."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.