'Mwy o alwadau i dimau achub mynydd yn sgil lluniau hardd ar-lein'

tim achubFfynhonnell y llun, Sefydliad Achub Mynydd Dyffryn Ogwen
  • Cyhoeddwyd

Mae criwiau achub mynydd gwirfoddol yng ngogledd Cymru yn cael eu llethu oherwydd mwy o alwadau am gymorth, meddai'r heddlu.

Dywed swyddogion fod mwy o bobl yn cerdded y mynyddoedd a'r arfordir wedi iddyn nhw weld lluniau hardd o'r ardal ar gyfryngau cymdeithasol fel TikTok ac Instagram.

Mae criwiau achub mynydd yn dweud bod "galw digynsail" wedi bod eisoes eleni a bod dwy farwolaeth wedi digwydd o fewn deg diwrnod.

Mae ffrindiau Maria Eftimova, 28 oed a fu farw'r penwythnos diwethaf, wedi diolch i'r criwiau achub mynydd a geisiodd ei hachub.

Maria EftimovaFfynhonnell y llun, Jamie Graham
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Maria Eftimova - oedd yn gerddwraig brofiadol - tra'n cerdded mynydd Tryfan

Roedd y myfyriwr prifysgol, a oedd yn wreiddiol o Fwlgaria, yn gerddwraig brofiadol - roedd ganddi ddigon o offer ac roedd hi'n cerdded gyda grŵp.

Syrthiodd oddeutu 65 troedfedd wrth ddringo crib ogleddol Tryfan ar 22 Chwefror.

Dywedodd ei ffrind gorau Megan Griffiths: "Roedd Maria yn berson unigryw a oedd yn byw bywyd i'r eithaf - nid yn unig yr oedd hi'n anturus ac yn rhydd ei hysbryd ond roedd hi hefyd yn hynod garedig, deallus, ac anhunanol.

"Rydym mor ddiolchgar i ffrindiau Maria a thîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen am eu hymdrechion i'w hachub."

Roedd yr alwad i'w hachub yn un o nifer o'r rhai brys i'r timau achub a'r gwasanaethau brys eu derbyn yn ystod y pythefnos diwethaf.

TryfanFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae cerddwyr yn aml yn mynd i drafferthion ar fynydd Tryfan

Dywed Heddlu Gogledd Cymru fod nifer y galwadau gafodd eu gwneud i dimau achub mynydd dros y ddau benwythnos "bron yn ddigynsail," ac maen nhw'n dweud mai poblogrwydd yr ardal ar TikTok ac Instagram sydd ar fai yn rhannol.

Dywedodd y Prif Uwch-arolygydd Owain Llewellyn: "Yr hyn rydyn ni'n ei weld yw cynnydd dramatig mewn lluniau a fideos o'r ardal yn ymddangos ar gyfryngau cymdeithasol - yn aml yn cael eu postio gan ddylanwadwyr.

"Mae rhai o'r lluniau maen nhw'n eu rhannu yn syfrdanol. Mae wir yn amlygu'r hyn sydd gan Eryri i'w gynnig, ond yn anffodus mae peth o'r ffilm yna yn cael ei dynnu ar ddiwrnod da pan nad yw hi'n bwrw glaw.

"Wedyn rydyn ni'n gweld ymwelwyr yn dod yma, ac ar y diwrnod maen nhw'n cyrraedd, dydy'r tywydd ddim cweit mor braf pan maen nhw'n mynd allan o'r car – a dydyn nhw ddim bob amser yn deall y gall amodau i fyny yn y mynyddoedd fod hyd yn oed yn waeth."

Mae mwy o gerddwyr yn golygu bod y gwirfoddolwyr sy'n rhan o'r criwiau achub mynydd yng ngogledd Cymru yn cael eu galw allan yn amlach.

Y llynedd, cafodd Tîm Achub Mynydd Llanberis eu galw allan 320 o weithiau - ac ymhlith y galwadau roedd un ar ddydd Nadolig.

Nod Dr Emma Edwards-Jones, o'r strategaeth Adventure Smart, yw gwella diogelwch ar y mynyddoedd.

"Mae llawer o alwadau yn 'ddigwyddiadau y gellir eu hosgoi' – pe bai gan bobl ychydig mwy o wybodaeth a sgiliau, neu pe byddent wedi gwneud ychydig mwy o waith paratoi," meddai.

"Os ydych chi'n gorfod ffonio 999, mae yna dîm achub gwirfoddol sy'n gorfod dod i'ch achub chi.

"Maen nhw eisiau mynd i helpu pobl sydd yr un mor frwdfrydig am yr awyr agored ag y maen nhw ond does dim amheuaeth bod y pwysau cynyddol gan bobl na sydd wedi paratoi'n ddigonol yn rhoi straen aruthrol arnyn nhw ac mae angen i ni gofio bod y gwirfoddolwyr yn peryglu eu hunain i achub eraill."