Cyhuddo saith dyn wedi anhrefn dreisgar mewn dwy dref

Cafodd yr heddlu eu galw i Stryd Fawr y Coed Duon, cyn cael eu galw i Drecelyn yn fuan 10 munud yn ddiweddarach
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gwent wedi cyhuddo saith dyn mewn cysylltiad â digwyddiad o anrhefn dreisgar mewn dwy dref ddydd Iau.
Cafodd swyddogion eu galw i'r Stryd Fawr yn y Coed Duon am 14:45, ac yna i ddigwyddiad arall ar Stryd Fawr Trecelyn 10 munud yn ddiweddarach, yn dilyn adroddiadau o anhrefn.
Fe gafodd wythfed dyn ei arestio ond mae'n parhau yn yr ysbyty yn derbyn triniaeth.
Mae disgwyl i'r saith dyn ymddangos o flaen Llys Ynadon Casnewydd ddydd Llun 17 Chwefror ar ôl cael ei arestio ar amheuaeth o anhrefn dreisgar.
Dywedodd y llu bod eu hymholiadau yn parhau ac maen nhw'n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Chwefror