Seithfed diffynnydd yn gwadu llofruddiaeth Tonysguboriau

Cafodd Joanne Penney, 40, ei darganfod ag anafiadau difrifol mewn fflat yn Nhonysguboriau ym mis Mawrth
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 38 oed wedi pledio'n ddieuog i gyhuddiad o lofruddio menyw yn Rhondda Cynon Taf.
Bu farw Joanne Penney, 40, ar 9 Mawrth ar ôl cael ei saethu mewn fflat yn Llys Illtyd, Tonysguboriau.
Fe ymddangosodd Renaldo Baptiste gerbron Llys y Goron Casnewydd trwy gysylltiad fideo ddydd Gwener, gan wadu cyhuddiad o lofruddio a chyhuddiad o fod â rhan mewn gweithrediadau grŵp troseddol.
Mr Baptiste yw'r 12fed person i gael ei gyhuddo mewn cysylltiad â'i marwolaeth, a'r seithfed i wynebu cyhuddiad o lofruddio.
- Cyhoeddwyd27 Mehefin
Fe fydd yna wrandawiad wythnos nesaf i ystyried a ddylai sefyll ei brawf gyda diffynyddion eraill.
Mae disgwyl i'r achos yn erbyn naw o'r diffynyddion ddechrau ar 20 Hydref, ac i achos ar wahân yn erbyn dau berson sydd wedi eu cyhuddo o roi cymorth o droseddwr, ddechrau ddiwedd Tachwedd 2026.
Clywodd cwest ym mis Mawrth bod Ms Penney wedi marw ar ôl cael ei saethu yn y bron a chael anafiadau i'r galon a'r ysgyfaint.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.