Cyhuddo chweched person o lofruddiaeth wedi achos saethu

Joanne PenneyFfynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu farw Joanne Penney ar 么l cael ei saethu mewn fflat yn Llys Illtyd, Tonysguboriau

  • Cyhoeddwyd

Mae chweched person wedi cael eu cyhuddo o lofruddiaeth ar 么l i ddynes gael ei saethu'n farw yn Rhondda Cynon Taf.

Roedd pump o bobl eisoes wedi cael eu cyhuddo mewn cysylltiad 芒 llofruddiaeth Joanne Penney, 40, mewn fflat yn Llys Illtyd, Tonysguboriau.

Bu farw nos Sul, 9 Mawrth, ar 么l cael ei saethu.

Roedd Kistina Ginova, yn wreiddiol wedi'i chyhuddo o gynorthwyo troseddwr, drwy gael gwared ar dystiolaeth oedd yn gysylltiedig 芒'r lofruddiaeth.

Ond mae'r ddynes 21 oed o Oadby, Sir Gaerl欧r, bellach wedi cael ei chyhuddo o lofruddiaeth.

Roedd Marcus Huntley, 20 o Laneirwg, Caerdydd; Melissa Quailey-Dashper, 39 o Gaerl欧r; Joshua Gordon, 27 o Oadby, Sir Gaerl欧r; Jordan Mills-Smith, 32 o Bentwyn, Caerdydd; a Tony Porter, 68, o Braunstone Town, Sir Gaerl欧r eisoes wedi'u cyhuddo o lofruddiaeth mewn cysylltiad 芒'r achos.

Mae Mr Porter hefyd yn wynebu cyhuddiad o gymryd rhan mewn gweithgareddau troseddol gr诺p troseddu (organised crime gang).