Adwaith am gymryd saib 'ar ôl y 10 mlynedd mwyaf anhygoel'

AdwaithFfynhonnell y llun, Adwaith
  • Cyhoeddwyd

Mae'r band poblogaidd Adwaith wedi cyhoeddi y byddan nhw'n cymryd saib ar ôl "y 10 mlynedd mwyaf anhygoel a boddhaus y gallai unrhyw un ofyn amdanyn nhw".

Fe gafodd y grŵp o Gaerfyrddin - Hollie Singer, Gwenllian Anthony a Heledd Owen - ei sefydlu yn 2015.

Fe enillon nhw'r Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2019 a 2022 - yr artist cyntaf i ennill y wobr ddwywaith.

Maen nhw hefyd ar y rhestr fer eleni.

Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol dywedon nhw eu bod "wedi bod rownd y byd a nôl yn rhannu ein cerddoriaeth, iaith a diwylliant mewn llefydd anhygoel a gyda pobl anhygoel".

Ond dywedon nhw ei bod yn amser i "gymryd saib bach".

"I fyw bywyd normal, i wneud pethau arall, i ffeindio ysbrydoliaeth unwaith eto."

Ychwanegon nhw eu bod "mor ddiolchgar am bob cyfle, gig, ffan" am eu cefnogaeth.

Fe fydd y grŵp yn dal i berfformio yn y gigs sydd ganddyn nhw wedi'u trefnu cyn diwedd y flwyddyn.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.