Cyhoeddi rhestr fer Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2025

- Cyhoeddwyd
Mae Adwaith, Buddug, Breichiau Hir, Melin Melyn a Sage Todz ymhlith yr artistiaid sydd ar restr fer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig eleni.
Mae 15 o artistiaid wedi eu cynnwys ar y rhestr fer, gyda'r enillydd yn cipio gwobr ariannol o £10,000.
Y llynedd LEMFRECK enillodd y wobr am ei albwm, Blood, Sweat & Fears.
Bydd yr enillydd eleni yn cael ei gyhoeddi mewn digwyddiad yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar 6 Hydref - mewn seremoni fydd yn cael ei harwain gan gyflwynydd BBC Radio 1, Sian Eleri.

LEMFRECK enillodd y wobr y llynedd am ei albwm, Blood, Sweat & Fears
Mae Adwaith - enillwyr y wobr yn 2019 a 2022 - wedi eu cynnwys ar y rhestr fer gyda'u trydydd albwm, Solas.
Mae Gwenno - a enillodd y wobr yn 2015 - hefyd ar y rhestr ar ôl rhyddhau ei phedwerydd albwm hi, Utopia.
Yn ymddangos ar y rhestr fer am y tro cyntaf mae Panic Shack guda'u halbwm o'r un enw, Tai Haf Heb Drigolyn gydag Ein Albwm Cyntaf Ni, Buddug gyda Rhwng Gwyll a Gwawr, Siula gyda Night Falls on the World a Melin Melyn gyda Mill on The Hill
Mae sawl genre gwahanol yn ymddangos ar y rhestr hefyd, gyda'r artist rap, Sage Todz, a'r cynhyrchydd electronig Kelly Lee Owens - enillydd y wobr yn 2021 - wedi eu cynnwys.
Cafodd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig ei sefydlu yn 2011 gan y cyflwynydd Huw Stephens a'r ymgynghorwr cerddoriaeth John Rostron, gyda phanel o farnwyr arbenigol o'r diwydiant yn dewis yr enillydd.
Beirniaid y wobr eleni ydy Sofia Ilyas, Roisin O'Connor, Molly Palmer, Zakia Sewell, Natalia Quiros Edmunds, Jude Rogers, Davie Morgan a Tim Jonze.
Y rhestr fer yn llawn
Adwaith – Solas
Buddug – Rhwng Gwyll a Gwawr
Breichiau Hir - Y Dwylo Uwchben
Cerys Hafana - Difrisg
Don Leisure - Tyrchu Sain
Gwenno - Utopia
Kelly Lee Owens- Dreamstate
KEYS – Acid Communism
Melin Melyn – Mill On The Hill
Panic Shack – Panic Shack
Sage Todz – Stopia Cwyno
Siula – Night Falls on the World
Tai Haf Heb Drigolyn – Ein Albwm Cyntaf Ni
The Gentle Good – Elan
The Tubs – Cotton Crown
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd2 Medi 2024