Amodau cynllunio 'yn ddigon cryf' i ddiogelu natur Bae Ceibwr

Mae Bae Ceibwr o fewn ardal cadwraeth arbennig
- Cyhoeddwyd
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol wedi dweud bod amodau caniatâd cynllunio ar gyfer hwb antur newydd yn Sir Benfro yn ddigon cryf i amddiffyn yr ardal o gadwraeth forol arbennig.
Mae'r adolygiad barnwrol yn parhau yn Hwlffordd i benderfyniad i roi caniatâd cynllunio ar gyfer canolfan gweithgareddau awyr agored yn Nhrewyddel ger Bae Ceibwr.
Llynedd, fe gafodd caniatâd cynllunio ei roi i gwmni Adventure Beyond i godi'r adeilad ar hen orsaf bysiau yn y pentref, ond mae ymgyrchwyr yn bryderus am yr effaith posib ar fywyd gwyllt.
Mae'r ganolfan honno yn cael ei hadeiladu ar hyn o bryd.
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd16 Hydref 2024
Mudiad Wild Justice sydd wedi dwyn yr achos yn erbyn Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Maen nhw'n bryderus y gallai gweithgareddau fel arforgampau (coasteering) fydd ynghlwm â'r ganolfan yn amharu ar forloi llwyd mewn ardal o gadwraeth arbennig ym Mae Ceredigion.
Mae'r grŵp wedi cyflwyno pum her gyfreithiol i'r caniatâd gwreiddiol sydd yn cynnwys:
Methiant i roi gwybodaeth briodol neu ystyriaeth i "risg y datblygiad o achosi effeithiau niweidiol tebygol"
Amodau cynlluniau "anghyfreithlon" neu "afresymol", a
Methiant i roi ystyriaeth i safle lleol o ddiddordeb gwyddonol arbennig (SoDdGA) Aberarth Carreg Wylan.
Ond yn y gwrandawiad ddydd Iau, fe fynnodd bargyfreithiwr yr awdurod, Emyr Jones KC, bod yr amodau cynllunio yn ddigon cryf i amddiffyn yr ardal o gadwraeth forol arbennig.
Dywedodd hefyd bod cynllun rheoli trafnidiaeth yn darparu ffordd o gyfyngu ar y gweithgaredd ym Mae Ceibwr.

Dyma'r safle mae Adventure Beyond am ei ddatblygu ym mhentref Trewyddel
Yn ôl Mr Jones, doedd y ffaith bod yna darfu ar forloi unigol ddim o reidrwydd yn golygu bod statws cadwraeth yr ardal gyfan yn ei cael danseilio.
Gwrthododd Mr Jones yr awgrym gan David Wolfe KC y byddai mwy o weithgaredd ym Mae Ceibwr yn sgil codi'r ganolfan newydd yn Nhrewyddel.
Yn ei ymateb i ddadleuon yr Awdurdod, dywedodd David Wolfe KC y byddai yna fwy o weithgaredd ym Mae Ceibwr yn sgil yr adeilad newydd a "nad oedd unrhyw beth i atal hynny".
Yn ôl Mr Wolfe, roedd peth tystiolaeth bod grwpiau o dros 20 mewn nifer wedi bod yn gwneud arforgampau yn y bae.
Roedd tystiolaeth, yn ôl Mr Wolfe, y byddai'r gweithgareddau yn cael eu cynnal saith diwrnod yr wythnos.
Er nad oedd yr adeilad yn yr ardal o ddiddordeb gwyddonol arbennig, mi fyddai'n sbarduno gweithgaredd o fewn yr ardal honno, yn ôl David Wolfe KC, a doedd aelodau'r awdurdod, meddai, ddim wedi cael y cyngor cywir gan swyddogion ar y canllawiau cynllunio perthnasol.
Dywedodd y Barnwr, yr Ustus Eyer, y byddai'n "meddwl am y dadleuon" ac yn oedi cyn cyhoeddi ei ddyfarniad.
Ei brif ffocws, meddai oedd ystyried "pwy mor gyfreithlon oedd y penderfyniad, nid ei ragoriaethau".
Dywedodd y byddai'n cyflwyno ei ddyfarniad ymhen "mis neu ddau".
Mae Prif Weithredwr Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Tegryn Jones, ynghyd â swyddogion y parc, wedi bod yn bresennol ar gyfer y gwrandawiad, ynghyd â degau o ymgyrchwyr natur.