Agor cwest i farwolaeth deifiwr aeth ar goll ym Mhen Llŷn
- Cyhoeddwyd
Mae cwest wedi cael ei agor i farwolaeth deifiwr aeth ar goll oddi ar arfordir Pen Llŷn.
Clywodd y gwrandawiad yng Nghaernarfon fod corff Imrich Magyar, o Warrington, wedi ei ganfod gan aelod o'r cyhoedd ar y lan ger Llangwnadl.
Roedd adroddiadau bod y dyn 53 oed wedi mynd ar goll ar 28 Tachwedd ar ôl i fwi deifio gael ei weld yn arnofio oddi ar Borth Ysgaden ger Tudweiliog.
Dywedodd y Crwner Cynorthwyol Sarah Riley fod offer anadlu wedi ei ganfod o dan y bwi, a'i fod yn dal i weithredu.
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2024
Bu timau achub o Borthdinllaen, Aberdaron ac Abersoch, gan gynnwys hofrennydd, bad achub, a'r heddlu yn chwilio amdano.
Clywodd y cwest fod Mr Magyar wedi ei gadarnhau yn farw pan gafodd ei ddarganfod ar y lan ar 7 Rhagfyr.
Dywedodd Ms Riley er gwaethaf archwiliad post-mortem, bod achos cychwynnol y farwolaeth yn parhau i fod yn "anhysbys".
Cafodd y cwest ei ohirio wrth i ymchwiliadau pellach gael eu cynnal.