Dynes o Gaerdydd wedi marw o anafiadau trywanu - cwest

Paria VeisiFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Paria Veisi ar 18 Ebrill, clywodd y gwrandawiad

  • Cyhoeddwyd

Bu farw dynes sy'n destun ymchwiliad llofruddiaeth o ganlyniad i anafiadau trywanu i'w gwddf a'i brest, mae cwest wedi clywed.

Clywodd Llys Crwner Canol De Cymru y bu farw Paria Veisi, 37 oed o ardal Cathays yng Nghaerdydd, ar 18 Ebrill.

Cafodd ei hadrodd ar goll ar 12 Ebrill, ar ôl iddi gael ei gweld am y tro olaf yn gadael ei gwaith.

Ar 19 Ebrill, cadarnhaodd Heddlu'r De bod ei chorff wedi cael ei ddarganfod mewn cyfeiriad ym Mhen-y-lan, Caerdydd.

Yn agoriad y cwest, nododd patholegydd mai achos y farwolaeth oedd "trywanu i'r gwddf a rhan uchaf y frest".

Disgrifiodd y crwner y farwolaeth fel un "dreisgar ei natur," ac fe gafodd y cwest wedi ei ohirio tan ddiwedd yr achos troseddol.

Mae dau berson wedi ymddangos yn y llys wedi'u cyhuddo mewn cysylltiad â'i marwolaeth - un o'r rheiny ar amheuaeth o lofruddiaeth.

Cafodd Alireza Askari, 41 o Ben-y-lan, ei gyhuddo o lofruddiaeth, atal claddu corff marw yn gyfreithlon a gweddus ac o ymosod ar berson gan achosi gwir niwed corfforol iddyn nhw.

Mae Maryam Delavary, 48 o Llundain, wedi'i chyhuddo o atal claddu corff marw yn gyfreithlon a gweddus ac o gynllwynio i wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Mae'r ddau wedi cael eu cadw'n y ddalfa ac mae disgwyl iddyn nhw ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener.

Pynciau cysylltiedig