Dau yn y llys mewn cysylltiad â llofruddiaeth menyw o Gaerdydd

Alireza AskariFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Mae Alireza Askari o ardal Penylan, Caerdydd wedi ei gyhuddo o lofruddio Paria Veisi

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn a dynes wedi ymddangos o flaen llys mewn cysylltiad â llofruddiaeth menyw 37 oed o Gaerdydd.

Fe gadarnhaodd yr heddlu ddydd Sadwrn fod corff Paria Veisi, o ardal Cathays, wedi ei ganfod mewn eiddo ym Mhenylan.

Roedd Ms Veisi wedi bod ar goll ers cael ei gweld ddiwethaf ar 12 Ebrill pan adawodd ei man gwaith yn ardal Treganna.

Mae Alireza Askari, 41, wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth, o beidio claddu corff marw mewn modd cyfreithlon a gweddus, ac ymosod ar berson gan achosi gwir niwed corfforol.

Mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Fawrth fe siaradodd ond i gadarnhau ei enw, ei ddyddiad geni a'i gyfeiriad.

Fe wnaeth Maryam Delavary, 48 oed o Lundain, ymddangos yn y llys hefyd wedi ei chyhuddo o beidio claddu corff marw mewn modd cyfreithlon a gweddus ac o gynllwynio i wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Bydd y ddau yn cael eu cadw yn y ddalfa tan y gwrandawiad nesaf ar 16 Mai.