Pum munud gyda Rhys Iorwerth

Rhys yn cael ei goroni yn Eisteddfod Boduan 2023
- Cyhoeddwyd
Gyda dangosiadau o'r ffilm ddogfen 'Gwlad Bardd' yn y sinemâu ar hyn o bryd sy'n dilyn hynt y bardd Rhys Iorwerth wrth iddo deithio Cymru a thu hwnt i ddathlu'r sîn farddol Gymraeg, dyma gyfle am sgwrs gyda Rhys.
Rhys hefyd yw bardd mis Chwefror Radio Cymru.
Fel cofi dre ydy Caernarfon wedi dy siapio fel bardd?
Ar ddechrau'r ffilm Gwlad Bardd (mwy isod!), mae gen i englyn sy'n mynd fel hyn:
Caernarfon. Mae'n dre barddoni. Yn gaer
lle mae'r geiriau'n codi
o'r waliau ac o'r heli.
Fan hyn mae fy awen i.
Mae'r llinell ola'n dweud y cyfan, mae'n siŵr. Er bod llefydd eraill, fel Caerdydd, wastad yn y cefndir, mae Caernarfon yn rhan fawr o bwy ydw i fel unigolyn. Gan hynny, mae'n rhan o bwy ydw i fel bardd. Dwi'n sbio ar y byd drwy lygaid Cofi ac yn dibynnu'n drwm ar ieithwedd fy nhre wrth sgwennu fy ngherddi. Ond ddim ar bob gair, chwaith!

Darllen ei gerddi
Rwyt yn aelod o dîm talwrn Dros yr Aber gyda Iwan Rhys, Marged Tudur a Carwyn Eckley. Beth sy'n gwneud tîm talwrn da?
Mae angen cyfuniad amrywiol o ddoniau – beirdd sy'n dda am wneud gwahanol fathau o gerddi, ac sy'n meddwl am bethau mewn ffyrdd gwahanol i'w gilydd. Mae angen y parodrwydd i roi barn a derbyn barn eich cyd-aelodau, a hynny'n agored. Os ydach chi'n cyd-dynnu'n gymdeithasol, mae'n help. Ac mae angen bod yn barod i dorchi llewys – sgwennodd neb erioed farddoniaeth dda mewn pum munud, i'r Talwrn nac i ddim byd arall!

Tîm Dros yr Aber ar y chwith, gyda thîm Caernarfon yn 2018
Rwyt ti'n dipyn o ffan pêl-droed ac yn gefnogwr Lerpwl a Chymru. O le ddaeth dy gariad at bêl-droed ac wyt ti'n chwaraewr yn ogystal â gwyliwr?
Dwi ddim yn cofio adeg pan nad oedd pêl-droed yn rhan o fy mywyd i, felly mae'n anodd ateb y cwestiwn cynta. Mae timau Lerpwl a Chymru wedi bod yno erioed, fel tonnau'r Fenai drwy ffenest fy llofft. Dwi hefyd yn mwynhau dilyn Caernarfon ar yr Oval (mi fydda' i'n cael cyfle i sôn mwy am hynny mewn rhaglen arbennig ar Radio Cymru fis Ebrill).
Pan o'n i'n iau, mi o'n i'n streicar i Cae Gwyn United. Dyddiau da, ond yr unig bêl-droed dwi'n ei chwarae bellach ydi efo'r plant ar wair yr ardd. Ac mae'r safon yna yn fy siwtio i'n berffaith (mae'r plant yn bump a thair oed.)

Rhys - aelod ffyddlon o'r wal goch
Oes gen ti unrhyw ddiddordebau eraill difyr?
Dwi'n mwynhau rhedeg a seiclo, ond yn dueddol o fod yn rhedwr ac yn seiclwr tywydd teg. Dyna pam fy mod i'n pesgi bob gaeaf (mae'n hawdd beio'r gwynt a'r glaw).
Y diddordeb mawr arall ydi coginio. Ar ôl gweithio o flaen sgrin o fore gwyn tan nos, dwi wedi ffeindio bod canolbwyntio ar wneud pryd o fwyd yn y gegin yn ffordd wych o ollwng stêm (ac o greu stêm).
Fel un sy'n gweithio'n llawn amser, yn ŵr ac yn dad i ddau o blant bach, sut wyt ti'n gwneud amser i farddoni?
Ddim wastad yn hawdd, yn enwedig gan fy mod i hefyd yn gweithio efo geiriau mewn ffyrdd eraill wrth gyfieithu a sgwennu copi. Y dyddiau yma, dwi'n dueddol o farddoni lot wrth fynd: ar y stryd, yn y car, uwch y stôf, dros beint, ac yn unrhyw fan arall lle bydd yr hen awen fondigrybwyll yn taro.
Ar Ddydd Gŵyl Dewi bydd dy ffilm Gwlad Bardd, sy'n rhoi portread o'r sîn farddol Gymraeg gyfoes, yn cael ei darlledu ar S4C. Beth yw dy deimladau am y sîn ar hyn o bryd a pha enwau sy'n dy gyffroi?
Gobeithio bod y ffilm yn dangos bod y sîn farddol Gymraeg yn rhyfeddol o fywiog ac amrywiol ac iach; dathlu hynny ydi un o brif ddibenion y ffilm. Rydan ni'n clywed lleisiau bron i hanner cant o feirdd o bob math, ond dim ond darlun rhannol ydi hwnnw. O ran cael fy nghyffroi: yr hyn sy'n codi calon ydi bod y traddodiad hynafol yma o farddoni yn Gymraeg yn dal i fodoli, er gwaetha popeth. Mae yna don o feirdd ifanc sy'n dechrau hawlio'r llwyfan cenedlaethol, ac mae hynny'n gysur i fardd fel fi sydd ar drothwy'i ganol oed, yn britho fel dwni'm be, ac heb syniad sut mae defnyddio TikTok. Mae Bardd Gwlad yn mynd ati'n fwriadol i ddathlu'r parhad hwnnw.
Beth yw dy hoff linell o gynghanedd?
Boed yr anwybod i'r byd yn obaith, R. Williams Parry.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2017
- Cyhoeddwyd12 Chwefror
- Cyhoeddwyd7 Ionawr