Pum munud gyda Bardd y Mis: Gareth Evans-Jones

Gareth Evans-JonesFfynhonnell y llun, Gareth Evans-Jones
Disgrifiad o’r llun,

Gareth Evans-Jones

  • Cyhoeddwyd

Rydych yn wreiddiol o Draeth Bychan, Ynys Môn. Ydy'r ardal honno wedi dylanwadu arnoch chi?

Ydi, yn bendant! Dwi wedi byw yno am ran helaeth o'm hoes, a fan'na ydi adra.

Mae byw ar lan y môr, gyda Llandudno yn y pellter a'r tyrbinau gwynt fel pegiau ar y gorwel, yn rhywbeth dwi'n ei werthfawrogi, ella nid cymaint ag y dylwn, ac mae'i ddylanwad yna; a byd tyddyn fy mhrifiant a'r carafanau ar hyd caeau Traeth Bychan.

Yn y delweddau, y geiriau a'u synau wrth imi sgwennu, mae Traeth yno. Ac mae'r hyn dwi'n tueddu i sgwennu yn amrywio'n fawr iawn, o ran genre, llais, a naws. A dyna, ella, ydi dylanwad mwyaf byw yng ngolwg y môr – yr un ydi'r môr ond â thonnau gwahanol drwy'r amser.

Ffynhonnell y llun, Gareth Evans-Jones
Disgrifiad o’r llun,

Traeth Bychan

Rydych wedi ennill y Fedal Ddrama ddwywaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol – fe drodd y Fedal Ddrama yn dipyn o ddrama yn Eisteddfod Pontypridd. Beth yw eich gobeithion i ddyfodol y Fedal Ddrama?

Dwi'n ofnadwy o ddiolchgar imi fod wedi ennill y Fedal Ddrama (sy'n dal yn beth od i'w ddweud!).

Roedd cael beirniaid yn darllen fy ngwaith yn anhysbys ac yn meddwl fod y sgriptiau'n o lew yn rhyfeddol.

Felly hefyd oedd cael cydweithio â chriw o actorion arbennig a Branwen Davies fel cyfarwyddydd crefftus a chynnes i weld cynhyrchiad digidol o Adar Papur (drama Eisteddfod Llanrwst 2019). Roedd hynny, a gweithio efo Judith Humphreys a Theatr Cymru i ddatblygu darlleniad o Cadi Ffan a Jan (drama Eisteddfod AmGen 2021) yn hwb enfawr!

Mae hyn wedi arwain at nifer o gyfleoedd faswn i ddim wedi eu cael heb fod wedi ennill y medalau – ges i sgriptio sioe gywaith Ynys Alys efo Frân Wen a, bellach, dwi wrthi'n datblygu drama newydd â nawdd cychwynnol gan Gyngor y Celfyddydau sy'n ystyried beth ydi'r profiadau LHDTCRhA+ yng ngogledd-orllewin Cymru heddiw: GogLais.

Ffynhonnell y llun, Gareth Evans-Jones
Disgrifiad o’r llun,

Gareth yn seremoni'r Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Conwy, 2019

Mae'r hyn sydd wedi digwydd yn sgil diddymu cystadleuaeth y Fedal Ddrama llynedd wedi codi cwestiynau dyrys ac wedi esgor ar gryn ymateb.

Mae'r cwestiynau ynghylch pwy sydd â'r hawl i sgwennu am bobl o ddiwylliannau, o gefndiroedd, ac o fydolygon gwahanol i rai'r dramodydd eu hunain, yn rhai eithriadol bwysig. Er y gwrthdaro sydd wedi bod ynghylch drama'r Fedal, mae'r ffaith fod trafodaethau cynyddol ynghylch her, hawl a chyfrifoldeb sgwennu a chreu yn beth i'w croesawu'n fawr.

Dwi wedi bod yn cynnal cyrsiau byrion am sut mae osgoi meddiant diwylliannol ers chydig flynyddoedd, a'r hyn sy'n cael ei fynegi'n aml gan bobl am y pwnc ydi ansicrwydd ac ofn gwneud rhywbeth 'anghywir' yn ddamweiniol.

Y duedd gan lawer o'r herwydd, yn anffodus, ydi anwybyddu'r agwedd ddyrys honno ac osgoi cynnal trafodaeth allai fod yn ddigon heriol. Mewn difri, siarad a thrafod ydi'r hyn sydd ei angen.

Ffynhonnell y llun, Gareth Evans-Jones
Disgrifiad o’r llun,

Cymdeithasu gyda chlwb darllen Llyfrau Lliwgar - sy'n trafod llenyddiaeth LHDTC+ yn Gymraeg a Saesneg (gan gynnwys cyfieithiadau)

Cefais gyfrannu at sgwrs am gynrychiolaeth ym myd y theatr a gynhaliwyd ddiwedd y llynedd gan yr Eisteddfod Genedlaethol.

Un feirniadaeth gafwyd oedd bod y drafodaeth yn canolbwyntio'n bennaf ar y theatr. Gwnaed hynny oherwydd mai gyda chystadleuaeth y Fedal Ddrama y taniwyd y sgwrs, a bod drama yn gyfrwng gweledol, un a allai gael effaith union. Ond mae'n werth cofio nad yng nghyd-destun y ddrama yn unig y dylid cynnal trafodaethau fel hyn.

Mae yna lyfrau Cymraeg a Saesneg, fel mewn amryw ieithoedd eraill, sy'n dal i weld golau dydd ag iddynt agweddau problemus.

Gellid sgwennu o bersbectif gwahanol i'ch un personol, yn sicr. Ond wrth wneud hynny, mae'n rhaid cofio'r her sy'n wynebu'r awdur a'r cyfrifoldeb arnynt wrth greu gwaith. Mae'n fater dyrys, yn fater anghyfforddus, ella, ond yn fater y gellid ei droi'n iachus.

O ran dyfodol y Fedal Ddrama; mae'n dda iawn gen i weld bod yna gystadleuaeth Tlws y Dramodydd yn cael ei chynnig ac iddi wobr sy'n cynnig ffordd glir i'r enillydd ddatblygu eu crefft a gweld eu gwaith yn cael ei roi ar lwyfan (boed fel darlleniad sgript-mewn-llaw neu'n gynhyrchiad llawn). Mae'r opsiwn o gael mwy nag un yn cystadlu ar un cais (ar ffurf cystadleuaeth fel Cân i Gymru) yn ddifyr iawn, ac mi fydd yn ddiddorol gweld be ddaw o hynny.

O ran cystadlaethau'r dyfodol, dwi'n gobeithio'n fawr y bydd yna strwythur yn gallu bodoli lle na fydd sefyllfa fel y llynedd yn digwydd eto gyda'r Eisteddfod.

Ffynhonnell y llun, Gareth Evans-Jones
Disgrifiad o’r llun,

Gareth mewn sesiwn drafod yn yr Eisteddfod

Wrth eich gwaith rydych yn ddarlithydd athroniaeth a chrefydd. O le daeth eich diddordeb mewn crefydd ac athroniaeth?

Mae gen i ddiddordeb mawr mewn pobl a diwylliannau gwahanol, a sut gall y ffordd mae pobl yn gweld y byd, eu credoau a'u daliadau, effeithio ar eu bywydau a'u cymdeithas.

Ches i ddim fy magu'n grefyddol fel y cyfryw, ond pan o'n i'n 11 oed, mi benderfynais gael fy medyddio a chael fy nerbyn yn fuan wedyn.

Ffynhonnell y llun, Gareth Evans-Jones
Disgrifiad o’r llun,

Un o gyfrolau Gareth

Ro'n i'n selog yn mynd i'r eglwys am nifer o flynyddoedd, ond gydag amser, mi newidiodd hynny i fod yn achlysurol.

Yn fy arddegau hefyd, mi syrthiais mewn cariad ag Iddewiaeth ac mae astudiaethau Iddewig yn un o'r meysydd dwi'n gweithio fwyaf ynddo bellach.

Digwydd bod, yn fuan ar ôl imi gyhoeddi fy nofel gyntaf, Eira Llwyd, yn 2018 (nofel am yr Holocost), mi ges wybod (gan gefnder imi a luniodd ein coeden teulu) fod fy hen, hen nain ar ochr fy mam yn Iddewes.

Yn hynny o beth, felly, rydw i'n Iddewig drwy dras. Ond mae gen i hefyd ddiddordeb mewn crefyddau eraill, gan gynnwys Neobaganiaeth, Bwdhaeth, y Ffydd Baha'ai, Islam, ac ysbrydolrwydd Affricanaidd.

Dwi wrth fy modd ag athroniaeth hefyd oherwydd ei bod yn hanfodi bob dim.

O sut i wneud paned i sut mae llunio maniffesto plaid wleidyddol, i sut mae gwella afiechydon, mae athroniaeth yn hanfodol wrth holi cwestiynu a datblygu syniadau.

Dwi'n ofnadwy o lwcus fy mod i'n gallu trafod hyn wrth fy ngwaith bob dydd ym Mhrifysgol Bangor, ac yn rhinwedd fy rôl fel un o gyfarwyddwyr Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru, rydw i'n gallu ymgysylltu'n aml ag ysgolion i drafod athroniaeth a chrefydd o bob math!

Ffynhonnell y llun, Gareth Evans-Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dr Gareth Evans-Jones wrth ei waith

Am beth fyddwch yn barddoni?

O ran testunau, dwi'n barddoni am bob math o bethau – o berthnasau amrywiol i anghyfiawnderau cymdeithasol, i themâu mwy oesol, fel y cof, teimlad, amser, a newid.

Dwi wedi bod yn barddoni ers blynyddoedd ond wedi teimlo'n eitha di-hyder am fy ngherddi (nid fy mod i'n berson hynod hyderus fel arfer chwaith!).

Cerddi mewn llyfrau nodiadau yma ac acw, ac mewn sawl dogfen Word dan gadw, ydyn nhw, ond dwi hefyd wedi cyhoeddi ambell un ar fy nghyfri Instagram – yn bennaf i'w rhannu gyda ffrindiau.

Ac yn 2022, mi ges i gynnwys chydig o fy marddoniaeth ar ffurf rhyddiaith mewn cyfrol fues i'n lwcus o gael ei chyhoeddi, Cylchu Cymru. Dwi hefyd wedi cyhoeddi ambell gerdd (ar ffurf cerdd!) yn Y Stamp gynt ac yn Ffosfforws – dau gyhoeddiad lle roeddwn i'n teimlo'n saff gwneud hynny. Gobeithio fydda i'n bwrw ati fwy o ddifri 'leni ...!

Beth arall fyddwch chi'n hoff o'i wneud yn eich amser sbâr?

Yn ogystal â sgwennu, dwi'n hoffi mwydro, darllen, mynd am dro, nofio, mynd i'r theatr, gwrando ar gerddoriaeth (un o uchafbwyntiau 2024 oedd gweld Stevie Nicks yn perfformio Rhiannon yn Hyde Park!), cefnogi Llyfrau Lliwgar, ac ers mis Tachwedd y llynedd, mae aelod newydd wedi cyrraedd Fron Goch – Nowsyn, ci defaid direidus dros ben – sy'n hawlio dipyn o sylw!

Ffynhonnell y llun, Gareth Evans-Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mynd am dro

Gwaith pa fardd sy'n eich cyffroi ar hyn o bryd?

Ga i ddewis dau?

Cyfrol dwi'n troi ati'n aml ydi Nes Draw gan Mererid Hopwood – am ysbrydoliaeth ac am noddfa. Bardd arall sydd o ddiddordeb enfawr ar hyn o bryd (ac sydd wedi bod ers 2023) ydi Jay Bernard.

Mi wnes i ddarllen Surge ganddyn nhw yn 2023 a chael fy llorio gan y gyfrol.

Y gerdd ddiweddaraf gan Jay Bernard ydi Flowers ac mae ar gael i'w darllen ar wefan Poetry Book Society. Plis, darllenwch chi. A theimlo!

Fel bardd mis Ionawr, oes gennych chi unrhyw addunedau flwyddyn newydd?

Mae gen i dri (er mod i'n un garw am dorri addunedau!):

Cadw gwell trefn ar amser.

Ffensio'r cae cefn.

Gorffen sgwennu dilyniant i nofel gyhoeddais yn 2023: Y Cylch. Mae'r dilyniant hefyd yn dilyn cylch o wrachod modern, ond mae'n mynd tu hwnt i ogledd Cymru (yn ogystal ag yn mynd am dro i'r hen Woolworth ym Mangor y '90au!)

Ffynhonnell y llun, Gareth Evans-Jones
Disgrifiad o’r llun,

Gareth Evans-Jones yn lansiad ei nofel Cylchu gyda Ffion Dafis

Pynciau cysylltiedig