Ffliw adar yn 'anochel', meddai busnesau sy'n poeni am eu dyfodol

Pe bai ffliw adar yn cyrraedd fferm Victoria Shervington-Jones, byddai'n costio £2m ac yn dod â'i busnes i ben, meddai
- Cyhoeddwyd
Mae pobl sy'n cadw adar wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno gorchymyn Tai Cymru gyfan er mwyn atal lledaeniad ffliw adar.
Wrth i achosion o ffliw adar barhau i ledaenu ar draws Lloegr a'r Alban, byddai cyflwyno gorchymyn o'r fath yn golygu fod rhaid i bobl gadw eu dofednod a'u hadar caeth dan do.
Yng Nghynhadledd Dofednod NFU Cymru yn Llanelwedd, dywedodd rhai sy'n cadw dofednod ei bod yn "anochel" y bydd achosion o'r ffliw yn cael eu cofnodi yma.
Dywedodd y Prif Swyddog Milfeddygol, Richard Irvine eu bod yn "adolygu lefel y risg yn rheolaidd ac yn defnyddio'r wybodaeth yna wrth asesu pa fesurau sydd eu hangen".
'Gallai cau'r drws achub ein busnes'
Yn ôl Victoria Shervington-Jones, perchennog Country Fresh Eggs yng Nghasnewydd, mae achos dros y ffin yn Henffordd yn "peri pryder mawr gan ei fod mor agos".
"Pe bai ni yn ei gael yma, pe bai'n llwyddo i gyrraedd un o'n siediau ni byddai'n costio tua £2m i ni," meddai. "Os ydy hynny'n digwydd, yna dyna fyddai diwedd ein busnes.
"Rydym angen i Lywodraeth Cymru weithredu gorchymyn tai ar unwaith i geisio amddiffyn busnesau Cymru rhag effeithiau ffliw adar."
Ar hyn o bryd dim ond mewn siroedd yn Lloegr lle mae achosion o'r feirws wedi'u cadarnhau y mae gorchmynion tai mewn grym.
Mae hyn yn cynnwys ardaloedd sy'n ffinio â Chymru fel Sir Amwythig a Sir Henffordd.

Dydi Endaf Morris heb lwyddo i ddod o hyd i yswiriant ar gyfer ffliw adar hyd yma
Mae Endaf Morris yn cadw 32,000 o ieir ar ei fferm deuluol yng Ngherrigydrudion, ac mae'n cytuno y byddai'n well ganddo gadw ei adar y tu mewn.
"Mae'n bwysig eu bod nhw'n cael eu gadael allan oherwydd maen nhw'n mwynhau ond mae'n fy ngwneud i mor bryderus bob tro maen nhw allan," meddai.
"Os ydw i'n gallu gyrru awr o fy fferm i ardal sydd â ffliw adar, mae hi'r un mor hawdd i adar gwyllt hedfan yma hefyd. Dydi o ddim yn costio ceiniog i gau'r drws, mae'n fesur ataliol, ond gallai achub ein busnes.
"Dydyn ni methu eu cadw i mewn nes bod Llywodraeth Cymru yn ein gorfodi i wneud hynny, gan ein bod yn cadw adar maes."
Dywed Victoria Shervington-Jones ac Endaf Morris nad ydyn nhw wedi gallu dod o hyd i yswiriant ar gyfer ffliw adar, sy'n ychwanegu at y pryder.
'Straen emosiynol ac ariannol'
Mae'r risg o ffliw adar mewn adar gwyllt yn uchel iawn ar hyn o bryd - mae'n golygu bod y risg o ddod i gysylltiad â dofednod hefyd yn cael ei ddynodi yn 'uchel'.
Gallai ffactorau gwahanol effeithio ar ledaeniad ffliw adar - fel patrymau mudo.
Ond mae'r tywydd hefyd yn cael effaith - gyda lledaeniad y feirws yn cynyddu yn ystod misoedd y gaeaf.
Cyflwynodd Llywodraeth Cymru fesurau bioddiogelwch llymach ym mis Ionawr, gan gynnwys cyfyngu mynediad i bobl nad ydynt yn hanfodol, newid dillad ac esgidiau cyn mynd i mewn i gaeau adar, a glanhau a diheintio cerbydau.
Mae'r rheolau'n berthnasol i bob ceidwad dofednod neu adar sydd â mesurau llymach ar gyfer rhai sy'n cadw mwy na 500 o adar.

Cafodd cynhadledd dofednod NFU Cymru ei gynnal yn Llanelwedd brynhawn Mawrth
Mae NFU Cymru hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu "mesur tai ledled Prydain Fawr" ar frys.
"Er bod mesurau tai wedi'u hymestyn i Sir Henffordd, Sir Gaerwrangon, Sir Gaer, Glannau Mersi a Sir Gaerhirfryn, rydym yn gofyn i'r gwahanol lywodraethau gymryd camau pellach a gweithredu mesurau tai ar gyfer Prydain Fawr ar fyrder.
"Byddai'r rhain yn rhan bwysig o gyfres o fesurau i helpu i atal unrhyw achosion pellach o'r clefyd dinistriol hwn.
"Gall achosion o ffliw adar roi straen emosiynol ac ariannol enfawr ar deuluoedd ffermio.
"Mae ffermwyr yn cymryd cymaint o ofal i ddiogelu iechyd a lles eu hadar ac mae'n ddinistriol gweld hynny'n cael ei gyfaddawdu."

Mae lefel risg ffliw adar yn cael ei fonitro yn gyson, meddai Richard Irvine
Dywedodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Richard Irvine mewn datganiad: "Mae gorchmynion tai mewn grym mewn rhannau o Loegr ar hyn o bryd.
"Diolch i'r drefn, yng Nghymru dydyn ni ddim wedi cofnodi achosion o'r ffliw.
"Rydyn ni'n adolygu lefel y risg yn rheolaidd ac yn defnyddio'r wybodaeth yna wrth asesu pa fesurau sydd eu hangen, a pha newidiadau dylid eu cyflwyno.
"Beth sydd yn rhaid i ni ei gofio, dim ots faint o adar sy'n cael eu cadw gyda'i gilydd, mai cynnal safonau glendid a mesurau bioddiogelwch yw'r amddiffyniad gorau rhag ffliw adar."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Ionawr