Ail gydio â cherddoriaeth ar ôl diagnosis Clefyd Addison's

Rhian JorjFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Rhian Jorj ei tharo'n wael adeg Pasg 2003

  • Cyhoeddwyd

"Do'n i methu cerdded erbyn y diwedd. O'n i mewn cadair olwyn, a Mam druan yn gorfod pwsho fi o gwmpas."

Geiriau Rhian Jorj o'r Bala yw rhain, yn edrych yn ôl ar gyfnod anodd yn ei bywyd pan gafodd ddiagnosis o Glefyd Addison's.

Mae Addison's yn effeithio ar y chwarennau adrenal sy'n cynhyrchu dau hormon angenrheidiol.

Wrth gofio'r cyfnod cyn y diagnosis, dywedodd: "Do'n i'm yn gwybod be' oedd yn bod efo fi," meddai ar Bore Cothi ar BBC Radio Cymru.

"Doedd o'm yn dangos ar yr holl bethau oedd y doctoriaid yn trio ffeindio allan. Felly oeddwn i jysd yn mynd yn fwy gwan.

"Y symptomau hefyd ydi bod lliw dy groen di yn troi yn eitha' brown. Mae hwnna'n un o'r symptomau, a cholli pwysau hefyd."

EP Rhi JorjFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Rhian - neu Rhi Jorj - yn rhyddhau cerddoriaeth am y tro cyntaf ers ei salwch

Athrawes oedd Rhian wrth ei gwaith ond bu rhaid iddi roi'r gorau i'w swydd "er lles [fy] hun".

Ochr yn ochr â dysgu, mae Rhian yn feiolinyddes fedrus hefyd, ac wedi cyfansoddi, recordio a pherfformio gyda'r bandiau Ust, Amledd a Huw Symmonds.

Ond eleni, mae'n camu i flaen y llwyfan ar ei phen ei hun gyda EP tair cân a hynny am y tro cyntaf ers derbyn ei diagnosis.

"Mae cyfansoddi 'di bod yn rhan o'r gwella," meddai wrth sôn am ail gydio yn ei phartneriaeth gerddorol â Billy Thompson yn haf 2023 a chyfansoddi'r gân Amser.

"Roedd Billy ar y gitâr a nes i ddod fyny efo'r alaw a'r geiriau.

"Mae'r gân Llyn Tegid … yn golygu lot fawr i fi achos pan doeddwn i methu cerdded yr unig beth o'n i isio 'neud – a mae Llyn Tegid, cofia, ganllath o'r tŷ – oedd mynd at y llyn. Pan nes i lwyddo i gerdded at y llyn oedd hynne jysd yn 'waw'."

Llyn TegidFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Llyn Tegid: Man sy'n agos iawn at galon - a chartref - Rhian

Roedd cael mynd yn ôl i'r stiwdio, er mai yn y tŷ mae'r stiwdio, yn brofiad newydd o ddysgu eto.

"Ar y dechrau doedd fy anadl i dal ddim yn dda iawn," meddai.

"Dwi wedi cael gwersi gan Sion Goronwy. Mae o'n ffantastig. Mae o mor garedig ac yn amyneddgar iawn efo fi. Mae o wedi helpu lot efo'r anadlu ac i beidio poeni. A hefyd i fynd o llais pen, i'r gwahanol leisiau… dwi 'di dysgu lot gan Sion."

Bydd Rhi Jorj yn rhyddhau EP ar yr 21 Chwefror, gyda gig yn Theatr Derek Williams i ddilyn ar 28 Chwefror.

Pynciau cysylltiedig