Pwy yw Seiniau Miwsig 2025?

  • Cyhoeddwyd

Ar Radio Cymru nos Fercher, fel rhan o ddathliadau Dydd Miwsig Cymru, cafodd enwau Seiniau Miwsig 2025 eu cyhoeddi – sef yr artistiaid i edrych allan amdanyn nhw eleni.

Dyma'r tri artist a ddaeth i'r brig:

Buddug

BuddugFfynhonnell y llun, Buddug

Cantores o Frynrefail a saethodd ar y sîn yn 2023 gyda'i sengl gyntaf, Dal Dig, mae hi'n parhau i greu argraff.

Cafodd yr artist 18 oed haf prysur yn 2024 o recordio a pherfformio mewn gwyliau mawr fel Tafwyl a'r Eisteddfod Genedlaethol - a gwneud ei arholiadau Lefel A!

Mae hi'n un o 34 artist sydd wedi derbyn arian o Gronfa Lansio Gorwelion ar gyfer 2025.

Taran

TaranFfynhonnell y llun, Taran

Band roc ifanc o Gaerdydd a gigiodd yn gyson yn 2024.

Cafodd y band eu ffurfio fel rhan o brosiect 'Yn Cyflwyno' Tafwyl a Menter Caerdydd yn 2023.

Maen nhw eisoes wedi rhyddhau EP – Dyweda, Wyt Ti..., ac mae ganddyn nhw fwy o gigio o'u blaenau eleni.

Talulah

TalulahFfynhonnell y llun, Talulah

Artist sydd hefyd wedi derbyn arian o Gronfa Lansio Gorwelion, a gafodd flwyddyn brysur yn 2024, yn gigio a rhyddhau EP ym mis Medi.

Mae 2025 yn argoeli'r un mor lwyddiannus i'r DJ, cyfansoddwr a'r canwr o Wrecsam, fel yr eglurodd wrth Ifan Davies ar BBC Radio Cymru:

"Mae o 'di bod mor cŵl yn cydweithio efo artistiaid eraill yn y sîn Gymraeg – mae hwnna'n exciting.

Talulah yn gigio yn Sŵn yn 2024Ffynhonnell y llun, Molly Palmer
Disgrifiad o’r llun,

Talulah yn gigio yn Sŵn yn 2024

"Dwi wedi bod yn gwneud lot o stwff sy'n 'neud fi'n hapus. Recordio a trio ffeindio sŵn fi.

"Dwi'n gwneud gig FOCUS Wales yn Wrecsam [ym mis Mai] lle es i i'r ysgol a thyfu fyny; mae hwnna'n rili pwysig i fi allu mynd i chwarae gig rili cŵl, mewn gŵyl o'n i'n mynd i pan o'n i'n teenager."

Mae gigs a digwyddiadau cerddorol yn cael eu cynnal ledled Cymru ar 7 Chwefror i ddathlu Dydd Miwsig Cymru.

Pynciau cysylltiedig