'Mae'r Beatles rhy fodern i fi!': Jack Amblin ac apêl cerddoriaeth vintage

  • Cyhoeddwyd

Yn chwarae'r drymiau ers ei fod yn 10 oed, mae Jack Amblin, sy'n wreiddiol o Landeilo, yn arbenigo mewn cerddoriaeth vintage – o jazz yr 1920au i rock 'n' roll yr 1950au, ac yn teithio Ewrop gyda'r band Postmodern Jukebox, sydd yn diddanu cynulleidfaoedd ledled y byd gyda fersiynau retro o ganeuon poblogaidd.

Jack AmblinFfynhonnell y llun, Jack Amblin

Yn ei drowsus uchel a'i fresys, mae Jack Amblin yn edrych fel drymiwr band o'r 1930au. Mae ei gasgliad o gitiau drymiau sy'n dyddio o'r 20au a'r 40au yn cwblhau'r edrychiad a'r naws mae'n ceisio ei gyfleu ar y llwyfan, meddai.

"Mae'n teimlo'n gywir pryd ti'n chwarae hen ddrymiau; ti'n trio bod mor authentic â ti'n gallu. Pan ti'n perfformio mewn trowsus uchel a bresys fel hyn, mae'n teimlo'n wahanol; dyna sut oedd pobl y 30au yn teimlo tu ôl i'r drymiau yna.

"Dwi'n hoffi cymryd pobl nôl mewn amser gyda fi."

Mae Jack yn ceisio mynd â'r gynulleidfa yn ôl i 'oes euraidd' cerddoriaeth degawdau cynnar yr 20fed ganrif; cyfnod artistiaid fel yr arloeswr drymiau Gene Krupa o'r 30au, a ganodd y gân a ysbrydolodd Jack i ddysgu'r drymiau gyntaf, meddai, sef Sing Sing Sing.

"Dwi'n dwlu ar chwarae hen jazz neu rock 'n' roll cynnar. Pan ti'n dweud 'jazz' mae pobl yn meddwl am Miles Davies o'r 70au, oedd yn eitha highbrow. Dim hwnna ydi'r jazz dwi'n hoffi.

"Yn yr 1910au, 20au, 30au, dyma oedd y gerddoriaeth bop rili; nhw oedd rock stars eu dydd."

Jack AmblinFfynhonnell y llun, Charles Batenburg

Astudio

Mae Jack yn drymio mewn steil benodol, sy'n golygu nad yw'n gyfarwydd â chwarae cerddoriaeth mwy modern, meddai, ac yn dueddol o gadw at beth mae'n ei adnabod:

"Dwi'n dweud wrth bobl mod i'n stopio gyda'r Beatles. Mae'r Beatles rhy fodern i fi!

"Mae rhai pobl yn meddwl fod drymio'n edrych yn hawdd; "you only hit things"! Ond dwi ddim yn taro'r drymiau, dwi'n chwarae'r drymiau! Weithiau mae cerddorion jazz modern yn meddwl bod beth dwi'n ei wneud yn syml, ond mae llawer o dechnegau... dydyn ni jest ddim yn mynd dros ben llestri.

"Pan ti'n astudio'r drymiau, mae'n mynd yn gymhlethach ac anoddach, a dwi'n dwlu ar y manylion mewn cerddoriaeth – y mwya' ti'n gwneud y mwya' diddorol ydi e."

Tua 14 oed oedd Jack pan benderfynodd ei fod eisiau parhau â'r drymio, ac o bosib wneud gyrfa ohono.

"O'n i'n lwcus iawn i gael athro da yng Nghaerfyrddin, Peter James. Mae e dal yn fentor i fi. Roedd e'n broffesiynol o'r 60au nes yr 80au.

"Roedd e'n ysbrydoliaeth gwych i fi; mod i'n gallu cael swydd mewn cerddoriaeth ac ennill arian."

Jack AmblinFfynhonnell y llun, Jack Amblin
Disgrifiad o’r llun,

Jack (gyda'i ffon drwm yn yr awyr) yn mwynhau ar y llwyfan

Postmodern Jukebox

Aeth i astudio drymio yn y brifysgol yn Leeds, ac mae nawr yn offerynnwr llawn amser, gyda'i gysylltiadau o'i gyfnod yn y coleg wedi helpu i wthio ei yrfa ymlaen yn y blynyddoedd diweddar, gan roi'r cyfle iddo i gael chwarae gyda'r band byd-enwog, Postmodern Jukebox.

"O'n i'n 'nabod gitarydd o Leeds oedd yn chwarae gyda PMJ, a gofynnodd yn 2020 os oedd gen i ddiddordeb i chwarae hefyd, ond wrth gwrs digwyddodd Covid... felly yn 2022 oedd fy nhaith gyntaf. Rwy'n gwneud fy chweched taith ym mis Ebrill.

Jack yn chwarae ei fwrdd sgwrio ar y llwyfan gyda Postmodern JukeboxFfynhonnell y llun, Jack Amblin
Disgrifiad o’r llun,

Yn chwarae ei fwrdd sgwrio ar y llwyfan gyda Postmodern Jukebox

"Dwi'n mynd pobman yn Ewrop. Ry'n ni'n gwneud un dyddiad yng Nghaerdydd, a ry'n ni'n gwneud y Royal Albert Hall yn Llundain – dwi'n reit nerfus."

Tu ôl i'r drymiau ar gefn y llwyfan mae Jack i'w weld gan amlaf, ond mae hefyd yn cael y cyfle i arddangos ei sgiliau cerddorol eraill, wrth iddo wneud ychydig o ganu, dawnsio tap a chwarae'r bwrdd sgwrio (washboard) mewn gigs.

"Mae pobl yn mwynhau achos dydyn nhw ddim yn ei ddisgwyl e.

"Dwi'n chwarae drymiau ar y rhan fwyaf o'r gig, un gân ar y washboard, ac efallai ychydig o ganu a dawnsio tap. Dwi'n mwynhau gwneud hyn achos ei fod e'n teimlo fel variety show.

"Dwi'n hoffi cael y spotlight am ychydig bach... wedyn yn ôl at y drymiau!"

Nid yw’r post yma ar YouTube yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar YouTube
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys YouTube.
I osgoi fideo youtube gan PostmodernJukebox

Caniatáu cynnwys YouTube?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys YouTube.
Diwedd fideo youtube gan PostmodernJukebox

Ac yn 2024 cafodd Jack y cyfle i dreulio cyfnod yn Nashville a Chicago er mwyn recordio ei fideo ei hun gyda Postmodern Jukebox; yn canu fersiwn vintage o It's Not Unusual gan ei gyd-Gymro, Tom Jones.

"Roedd e'n wych. Mae llawer o'r gerddoriaeth dwi'n ei mwynhau yn dod o America, a dwi'n 'nabod llawer o bobl yno nawr.

"Dwi'n chwarae gyda Ashley Campbell, merch [y canwr] Glenn Campbell, ac arhosais i yn eu cartref pan o'n i draw. O'n i'n bwyta brecwast drws nesa' i ddisg platinwm Wichita Lineman!"

Jack yn eistedd mewn neuadd gyngerddFfynhonnell y llun, Jack Amblin
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jack yr un mor gartrefol yn chwarae mewn feniws bach ag y mae mewn feniws mwy

Dyfodol i gerddoriaeth yr oes a fu?

Mae gan Jack nifer o deithiau o'i flaen yn 2025, ac mae'n teimlo'n ffodus o gael y cyfleoedd yma, eglura, ond mae'n cydnabod fod y sin gerddoriaeth wedi newid yn ddiweddar, ac nid er gwell...

"Dwi'n teimlo'n lwcus iawn. Dyma'r band mwyaf enwog byddwn i'n gallu chwarae gyda, achos dwi'n niche!

"Ond mae'r gwaith wedi arafu llawer ers Covid ac argyfwng cost of living, felly mae ngwaith i wedi newid. Dwi'n gwneud mwy o deithiau hir a does dim llawer o gigs lleol. Cyn Covid, roedd mwy o gigs bach dros y penwythnosau.

"Bydd wastad sîn ar gyfer fy math i o gerddoriaeth... jest gobeithio fydd pobl yn gallu fforddio i ddod i'n gweld ni."

Pynciau cysylltiedig