'Dydi canu'n Gymraeg ddim angen dal eich gyrfa yn ôl'

Llun o Mali Haf yn perfformio yn TafwylFfynhonnell y llun, Mali Hâf
Disgrifiad o’r llun,

"Os ni'n cyrraedd Glastonbury dyna fydd y tro cyntaf i ni berfformio'n Lloegr, ma' hwnna'n tipyn o flex" meddai Mali Hâf

  • Cyhoeddwyd

Mae Cymraes yn gobeithio profi i'r diwydiant cerddoriaeth ac i'r byd nad yw canu'n Gymraeg yn dal eich gyrfa yn ôl.

Mae Mali Hâf o Gaerdydd yn cystadlu yn rownd derfynol Emerging Talent Glastonbury ddydd Sadwrn - gyda'r enillydd yn cael perfformio yn yr ŵyl eleni a gwobr ariannol gwerth £5,000.

Fe ymgeisiodd 7,000 o gantorion a bandiau ond bellach dim ond wyth o artistiaid sydd ar y rhestr fer, ac mae'r Gymraes 27 oed yn eu plith.

"Dydw i ddim fel arfer yn mynd yn nerfus ond ma' bola fi in bits achos ni moyn e gymaint," meddai.

'Canu yn Gymraeg yn rhoi pwrpas i mi'

Wrth drafod ei phenderfyniad i ganu'n Gymraeg, dywedodd: "Ni wastad yn clywed pobl yn y diwydiant yn dweud 'you shoot yourself in the foot' a 'mae'n dal gyrfa chi yn ôl'.

"Os ydyn ni'n cyrraedd Glastonbury, bydd e'n gwneud i nhw feddwl 'hmm yw e'n dal gyrfa chi nol?'"

I gyrraedd y rownd derfynol fe anfonodd Mali Hâf ei chân wreiddiol 'Esgusodion' at y trefnwyr.

Yn y rownd nesaf fe fydd hi a'r saith artist arall ar y rhestr fer - Air Drawn Dagger, Ari Tsugo, Eli Dayo, Nat Oaks, Master Peace, Sarah Meth a Westside Cowboy - yn gorfod perfformio'n fyw.

Mae Mali Hâf yn gobeithio ei bod wedi ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf yn barod ac yn dangos iddyn nhw bod canu'n Gymraeg yn agor drysau.

"Fi 'di clywed llwyth o weithiau - pobl yn dweud 'pan chi'n canu'n Gymraeg chi just yn neud y usual circuits; Eisteddfodau, Tafwyl ond ble chi'n mynd wedyn?'

"Wel, mae llwyth o lefydd a gwledydd eraill eisiau clywed cerddoriaeth Gymraeg nid just Cymru."

Llun o Mali Hâf yn perfformio ar ei phennau-gliniau ar lwyfan, yn canu i mewn i feicroffon wrth edrych i fyny.Ffynhonnell y llun, Mali Hâf
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mali Hâf yn disgrifio'i cherddoriaeth fel Celtic Pop

"Fi isie dangos i bobl ifanc fod canu'n Gymraeg ddim angen dal eich gyrfa yn ôl.

"Mae'n rhywbeth sy'n gallu eich helpu chi, ac yn rhywbeth i chi fod yn browd ohono fe".

Ychwanegodd: "Canu yn Gymraeg yw beth sy'n helpu fi i gario ymlaen i ganu, mae'n rhoi pwrpas i mi".

Mi fydd Mali Hâf a'i band yn cael gwybod os ydyn nhw wedi llwyddo i sicrhau eu lle ar un o brif lwyfannau Glastonbury yn dilyn yr holl berfformiadau byw nos Sadwrn.