'Rheolau etifeddiaeth i newid, er ymateb y byd amaeth'
- Cyhoeddwyd
Mae Ysgrifennydd Cymru wedi cydnabod y bydd "rhai ffermwyr yng Nghymru ddim yn hapus" gyda newidiadau treth etifeddiaeth y Gyllideb, ond dywedodd na fydd y mesurau'n cael eu tynnu'n ôl.
Mae cynlluniau i ddileu'r eithriad mewn cysylltiad â thir ffermio rhag talu treth etifeddiaeth wedi eu beirniadu gan y gymuned amaethyddol, sy'n dweud bod y cyhoeddiad wedi eu "bradychu".
Dan gynlluniau'r Canghellor, o'r flwyddyn nesaf bydd treth etifeddiaeth o 20% yn berthnasol i werth asedau y tu hwnt i'r trothwy o £1m.
Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens wedi amddiffyn y cynlluniau ar raglen BBC Politics Wales, gan ddadlau bod "llawer o bobl heb unrhyw beth yn agos at £1m pan maen nhw'n marw".
Dywedodd y bydd "tri chwarter y ffermwyr ddim yn cael eu heffeithio - dim ond ffermwyr mwyaf cyfoethog y Deyrnas Unedig ac rydym yn gwybod bod mwyafrif llethol ein ffermwyr yng Nghymru â ffermydd bach".
Ychwanegodd: "Dydyn ni ddim yn rhagweld y bydd yna effaith sylweddol ar ffermwyr yng Nghymru."
- Cyhoeddwyd7 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd18 Hydref
Mae hi wedi bob yn bosib trosglwyddo ffermydd o genhedlaeth i genhedlaeth heb orfod talu treth etifeddiaeth fel yn achos asedau eraill.
Mae cyhoeddiad y Canghellor, Rachel Reeves, yn y Gyllideb ddydd Mercher yn golygu na fydd £1m cyntaf unrhyw ystâd yn cael ei drethu, ond fe fydd yn rhaid talu treth o 20%, dros gyfnod o 10 mlynedd, ar unrhyw swm ar ben hynny.
Ond oherwydd eithriadau o ran tai a pharau priod yn trosglwyddo asedau i ddisgynyddion uniongyrchol, fe allai olygu bod £2m yn cael ei eithrio cyn gorfod talu'r dreth.
Dywed undeb amaeth NFU Cymru y bydd y newidiadau'n nid yn unig yn achosi "niwed parhaol i ffermio yng Nghymru a chwalu ffermydd teuluol, ond hefyd yn gadael ffermwyr heb yr arian, hyder ac ysgogiad i fuddsoddi yn nyfodol eu busnes".
Yn ôl Llywodraeth y DU ni fydd yn rhaid talu treth etifedditaeth yn achos 75% o ffermydd, ond mae undebau amaeth yn deud y bydd y newidiadau'n "dod â mwyafrif ffermydd teuluol Cymru o fewn terfynau'r dreth yma".
Does gan y Trysorlys ddim amcangyfrif o'r effaith ar ffermydd yng Nghymru ond maen nhw'n rhagweld y bydd 2,000 o ystadau ar draws y DU yn cael eu heffeithio o 2026-27 ymlaen, gyda tua 500 o'r rheiny'n hawlio rhyddhad eiddo amaethyddol.
'Adfer y sylfeini'
"Roedd hon yn Gyllideb ble roedd rhaid adfer y sylfeini," meddai Jo Stevens.
"Roedd yn rhaid i ni wneud penderfyniadau anodd.
"Rydym wedi gorfod gofyn i'r bobl â'r ysgwyddau mwyaf llydan i dalu ychydig yn fwy fel ein bod â'r arian hwnnw i leihau rhestrau aros, buddsoddi yn ein hysgolion a gwneud ein strydoedd yn fwy diogel."
Pan ofynnwyd iddi a fyddai'r ymateb yn gorfodi'r llywodraeth i ailystyried, atebodd Stevens: "Fe gafodd ei gyhoeddi yn y Gyllideb yr wythnos yma, a dyna fydd yn digwydd."
Mae'r cyfweliad llawn gyda Jo Stevens ar raglen Politics Wales ar BBC One Wales am 10:00 ddydd Sul, ac yna ar iPlayer.