Pryder fod rhai bargeinion twf yn cyflawni 'ychydig iawn'

Mae'r penderfyniad i beidio â datblygu adweithyddion niwclear modiwlaidd bach yn Nhrawsfynydd wedi gadael bwlch mawr yn y cynllun yn y gogledd
- Cyhoeddwyd
Mae pryderon difrifol wedi'u codi ynghylch perfformiad rhai o fargeinion twf Cymru.
Rhybuddiodd pwyllgor y Senedd fod dau o'r pedwar prosiect wedi methu â chyflawni'r disgwyliadau, a bellach mewn perygl o fethu â chyflawni eu haddewidion economaidd.
Dywedodd y Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig fod bargen twf Gogledd Cymru wedi cyflawni "ychydig iawn" hyd yn hyn.
Ychwanegodd bod prosiect Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i ailddatblygu Gorsaf Bŵer Aberddawan mewn perygl o ddod yn "fenter wastraffus sy'n amsugno arian cyhoeddus".
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn parhau i gefnogi a monitro pob bargen twf ochr yn ochr â Llywodraeth y DU.
'Dim ond 35 o swyddi'
Mae bargeinion twf yn rhaglenni buddsoddi ar y cyd rhwng llywodraethau ac awdurdodau lleol a phartneriaid eraill, gyda'r nod o greu swyddi a denu buddsoddiad preifat.
Uchelgais Gogledd Cymru yw'r corff sydd â'r dasg o gyflawni bargen twf Gogledd Cymru, gan gydlynu awdurdodau lleol a phrifysgolion i reoli buddsoddiad a goruchwylio prosiectau.
Mae'n gyfrifol am droi cyllid y llywodraeth yn ganlyniadau economaidd pendant, ond dywedodd y pwyllgor fod y cynnydd wedi bod yn araf, a bod targedau allweddol yn cael eu methu.
Yn ôl y pwyllgor, "dim ond 35 o swyddi sydd wedi'u creu" hyd yma.
Dywedodd fod y penderfyniad i beidio â datblygu adweithyddion niwclear modiwlaidd bach yn Nhrawsfynydd, a oedd gwerth 40% o darged buddsoddi bargen gogledd Cymru a 12.5% o'i nod creu swyddi, wedi gadael bwlch mawr yn y cynllun.
Dywedodd Uchelgais Gogledd Cymru wrth y pwyllgor eu bod bellach yn gorfod dileu neu ailddosbarthu prosiectau a chreu rhestr wrth gefn i gynnal hyblygrwydd.
Daeth ansicrwydd ynghylch cyllid i'r amlwg hefyd.
Dywedodd y pwyllgor ei fod yn "siomedig" o glywed nad oedd Uchelgais Gogledd Cymru wedi derbyn ei chyllid blynyddol am ddwy flynedd yn olynol, ac roedd bellach eisiau eglurder gan y ddwy lywodraeth ynghylch a fyddai'r £240m llawn a ddyrannwyd yn wreiddiol ar gael o hyd.
'Wedi wynebu heriau sylweddol'
Yn siarad ar Dros Frecwast fore Mercher fe bwysleisiodd Alwen Williams, prif weithredwr Uchelgais Gogledd Cymru, sy'n arwain gwaith Bargen Twf Gogledd Cymru, mai "gweledigaeth hirdymor" yw'r cynllun.
Ychwanegodd "ein bod ni wedi wynebu heriau sylweddol ac annisgwyl dros y blynyddoedd diwethaf".
"Mae hyn yn cynnwys effeithiau Covid-19, yr argyfwng chwyddiant costau, a wedyn oedi mewn cynllunio a chyllido penodol i brosiectau.
"Dwi'n meddwl bod y ffactorau hyn i gyd wedi effeithio yn anochel ar allu i gyflawni yr hyn oedden ni wedi'i osod allan yn y lle cyntaf, ac yn galluogi prosiectau i symud ymlaen yn arafach nag oedden ni wedi'i gynllunio'n wreiddiol."

Mae'r pwyllgor yn ofni y gallai Gorsaf Bŵer Aberddawan droi'n "fenter wastraffus sy'n amsugno arian cyhoeddus"
Daeth craffu hefyd ar gytundeb Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (PRC) ynghylch ei ailddatblygiad o Orsaf Bŵer Aberddawan.
Clywodd y pwyllgor fod angen £30m i ddymchwel y safle, ar ôl ei brynu am £8.6m, a gallai fod angen dros £1bn arno i'w ailddatblygu'n llawn.
Arweiniodd anghydfod cyfreithiol yn gynharach eleni i'r PRC dalu setliad o £5.25m, ac er bod y pwyllgor wedi cydnabod bod diddordeb cryf gan fuddsoddwyr yn y safle, rhybuddiodd am "risg i enw da" a'r perygl y byddai'r prosiect yn dod yn "fenter gwastraffus sy'n amsugno arian cyhoeddus heb reolaeth".
Diffyg eglurder am ffigyrau swyddi
Cododd y pwyllgor bryderon hefyd ynghylch diffyg eglurder ynghylch ffigyrau creu swyddi.
Naw mlynedd ar ôl i gytundeb Caerdydd gael ei lofnodi, dim ond 1,537 o swyddi uniongyrchol a grëwyd.
Dywedodd PRC wrth y pwyllgor ei fod "mwy nag ar y trywydd iawn" i gyrraedd ei darged o greu 25,000 o swyddi yn y pendraw.
Dywedodd arweinwyr Prifddinas-Ranbarth Caerdydd eu bod wedi'u siomi gan bryderon pwyllgor y Senedd, gan ddadlau bod y fargen ddinesig wedi cyflawni canlyniadau cryf ers 2017, gan gynnwys dros 4,300 o swyddi, £236m mewn cyd-fuddsoddiad a chefnogaeth i gannoedd o fusnesau bach a chanolig.
Dywedodd mai dim ond un o 27 o brosiectau oedd Aberddawan, a bod disgwyl i'w ailddatblygiad ddenu buddsoddiad preifat sylweddol.
Roedd adolygiad annibynnol i broses gaffael y safle ar y gweill, a dywedodd CCR fod ei swyddogion yn ceisio sicrwydd y byddai gwersi'n cael eu dysgu.

Roedd clod i gytundeb dinas Bae Abertawe am gefnogi gweithwyr Tata Steel ym Mhort Talbot
Er y pryderon, roedd canmoliaeth i gytundeb dinas Bae Abertawe am ei gynnydd, ac fe groesawodd y pwyllgor ei gefnogaeth i weithwyr a gafodd eu heffeithio gan gau ffwrneisi chwyth Tata Steel ym Mhort Talbot.
Dywedwyd fod bargen twf Canolbarth Cymru, sydd ond wedi dechrau yn gymharol ddiweddar, yn wynebu heriau economaidd unigryw gan gynnwys mynediad cyfyngedig at fuddsoddiad preifat ac economi llai amrywiol.
- Cyhoeddwyd21 Mawrth
- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2022
Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, Andrew RT Davies AS: "Dylai'r pedwar Bargen Dinas a Thwf fod yn sbardun allweddol ar gyfer twf economaidd yng Nghymru a bod yn creu dyfodol economaidd disglair.
"Er bod arwyddion addawol, yn enwedig ym Mae Abertawe, rhaid inni fynd i'r afael â phryderon difrifol yn enwedig yng Ngogledd Cymru a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd, ac rydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU am eglurder brys ynghylch y cyllid sydd ar gael ar gyfer cytundeb Gogledd Cymru.
"Mae monitro priodol ac arweinyddiaeth gyson yn hanfodol i sicrhau bod pob Bargen yn cael ei chefnogi i gyrraedd eu targedau uchelgeisiol a chyflawni'r buddsoddiad cyhoeddus sylweddol.
"Mae tryloywder, eglurder a gweledigaeth hirdymor yn hanfodol."
'Cefnogi a monitro pob cytundeb twf'
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn parhau i gefnogi a monitro pob cytundeb twf ochr yn ochr â Llywodraeth y DU.
Wrth drafod cytundeb Caerdydd, dywedodd fod y brifddinas yn gweithredu'n annibynnol yn ei phenderfyniadau buddsoddi, gan gynnwys safle Aberddawan.
Cadarnhaodd fod adolygiad annibynnol o'r broses gaffael ar y gweill, gyda swyddogion yn ceisio sicrwydd y bydd gwersi'n cael eu dysgu.
Ychwanegodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU fod cynlluniau twf "wedi creu miloedd o swyddi a phrosiectau sylweddol".
Dywedon nhw mai twf economaidd yw eu "prif flaenoriaeth", a'u bod yn disgwyl i bob cynllun twf "gyflawni ar gyfer pobl Cymru".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.