Prosiect yn anelu i roi hwb gwerth miliynau o bunnoedd i'r canolbarth

Craig GochFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd datblygiad Llynnoedd Cwm Elan yn gwella profiad ymwelwyr â'r ardal

  • Cyhoeddwyd

Bydd y prosiect cyntaf i sicrhau cefnogaeth gan fargen twf canolbarth Cymru yn anelu at roi hwb gwerth miliynau o bunnoedd bob blwyddyn i'r economi leol.

Bydd datblygiad Llynnoedd Cwm Elan yn gwella profiad ymwelwyr â'r ardal, gan hybu refeniw, tra hefyd yn diogelu bioamrywiaeth yng nghwm Elan.

Ddydd Gwener cadarnhaodd llywodraethau'r DU a Chymru y bydd £11.8m yn cael ei ryddhau wrth i'r prosiect cyntaf o dan y fargen twf symud o gyfnod cynllunio i ddechrau ar y gwaith o gyflawni'r prosiect.

Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar ddau faes allweddol – yn gyntaf, cysylltu ac adfer 117 hectar o goetir fel rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru. Bydd llwybrau newydd i bobl gerdded yn y coetiroedd hefyd yn cael eu creu.

Hefyd, mae cynigion i ailddatblygu'r ganolfan ymwelwyr yng nghwm Elan er mwyn gwella profiad ymwelwyr, gyda'r nod o gynyddu eu nifer.

Jen Newman
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Jen Newman, rheolwr ystâd yng Nghwm Elan ar ran Dŵr Cymru y bydd y buddsoddiad yn gwneud gwahaniaeth mawr i dwristiaeth

Rhagwelir y bydd cam cyntaf y prosiect yn sicrhau effaith economaidd flynyddol o £4m, gydag amcangyfrif o gyfraniad o £17m i'r economi ranbarthol erbyn 2040.

Cefnogir bargen twf Canolbarth Cymru gan £110m gan lywodraethau Cymru a'r DU sydd â'r nod o ddenu mwy o fuddsoddiad o'r sectorau cyhoeddus a phreifat.

Dywedodd Jen Newman, rheolwr ystâd yng Nghwm Elan ar ran Dŵr Cymru y bydd y buddsoddiad yn gwneud gwahaniaeth mawr i dwristiaeth.

"Mae'n brosiect hynod gyffrous oherwydd mae'n mynd i'n helpu ni gyda thwristiaeth gynaliadwy a gwarchod ein hamgylchedd naturiol, yn fwyaf amlwg ein coedwig law Geltaidd yng nghwm Elan, sy'n gynefin hynod o brin.

"Byddwn yn gallu ehangu'r coedwigoedd hynny ar draws yr ystad, gan agor llwybrau newydd i bobl gerdded yn y coetiroedd a'u mwynhau.

"Mae'n gwneud twristiaeth yn fwy cynaliadwy hefyd, felly'n caniatáu i'n 400,000 o ymwelwyr y flwyddyn gynyddu er budd yr economi leol, ac i allu arddangos ein llwybrau cerdded gwych a'n llwybrau beicio, fel y gall pobl ddod i fwynhau cwm Elan cymaint â ni."

Ymweliad gweinidogol â chwm Elan.
Disgrifiad o’r llun,

Buodd gweinidogion yn ymweld â'r ardal ddydd Iau

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi Llywodraeth Cymru, Rebecca Evans, fod gweld dechrau y prosiect yn gyfnod cyffrous ar gyfer y fargen twf.

Mae hi hefyd yn dweud y bydd y fargen twf yn cefnogi prosiectau fydd yn sicrhau gwelliannau sylweddol i bobl a busnesau yn y canolbarth.

"Mae sawl llinyn gwahanol i fargen twf y canolbarth - un sy'n gyffrous iawn i mi yw'r prosiect sy'n edrych ar eiddo masnachol.

"Felly gwneud yn siŵr bod busnesau sy'n cael eu tyfu yma yn y canolbarth yn gallu dod o hyd i'r eiddo masnachol sydd ei angen arnyn nhw, hyd yn oed er mwyn iddyn nhw ddechrau allan mewn busnes.

"Hefyd, ry'n ni'n gwybod bod yna rannau o'r canolbarth o hyd lle mae'n wirioneddol anodd cael cysylltedd digidol.

"Felly mae'r fargen twf yn edrych ar fynd i'r afael â rhai o'r heriau penodol hynny a fydd yn wirioneddol bwysig i bobl sy'n byw yma, ond hefyd unwaith eto, i fusnesau yn yr ardal."

Y Fonesig Nia GriffithFfynhonnell y llun, Tŷ’r Cyffredin
Disgrifiad o’r llun,

Mewn perthynas â phrosiectau bargen twf eraill dywedodd Nia Griffith: "Mae'n fater o feddwl beth mae pobl eisiau yn y dyfodol"

Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, y Fonesig Nia Griffith, ei bod yn gobeithio y bydd prosiect cwm Elan yn dod â mwy o ymwelwyr i'r ardal ac y byddan nhw'n aros yn hirach gydag atyniadau cynyddol a newydd.

"Yn hytrach na bod pobl efallai'n treulio amser byr yma, byddan nhw'n llawer mwy tebygol o dreulio diwrnod yma, a mwynhau'r holl wahanol agweddau o'r gwaith sy'n mynd ymlaen yn fawr.

"Gallwch weld y trydan yn cael ei gynhyrchu yma, gyda'r tyrbeini yn cael eu troi gan y dŵr trwy ddisgyrchiant."

Mewn perthynas â phrosiectau bargen twf eraill dywedodd Nia Griffith: "Mae'n fater o feddwl beth mae pobl eisiau yn y dyfodol?"

"Sut ydym ni eisiau ei becynnu a pha fathau o dechnegau pa fath o swyddi cadwyn gyflenwi sydd yno, a rhoi pecynnau at ei gilydd a all wneud llawer mwy i gynhyrchu incwm yn yr ardal leol."