Aelodau staff carchar yn cael eu diswyddo ar ôl negeseuon amhriodol

- Cyhoeddwyd
Mae pump aelod o staff mewn carchar yn ne Cymru wedi cael eu diswyddo ar ôl ymchwiliad i negeseuon sy'n eu dangos yn chwerthin ar ddigwyddiadau treisgar sy'n ymwneud â charcharorion.
Fe gafodd aelodau staff Carchar y Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr eu harestio fis Medi a mis Ionawr diwethaf.
Bellach mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau fod yr achos troseddol wedi dod i ben ac mae'r unigolion wedi eu rhyddhau heb gyhuddiad.
Dywedodd G4S, sy'n rhedeg y carchar preifat bod pum gweithiwr o'r wyth a gafodd eu harestio wedi cael eu diswyddo, fe wnaeth dau ymddiswyddo yn ystod yr ymchwiliad, ac mae un wedi cael rhybudd ysgrifenedig terfynol.
- Cyhoeddwyd2 Ebrill
- Cyhoeddwyd20 Medi 2024
- Cyhoeddwyd1 Mehefin 2024
Cafodd y negeseuon eu rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol yr haf diwethaf.
Maen nhw'n cynnwys gweithwyr yn gwneud hwyl am ben digwyddiadau hunan-niweidio ac un gweithiwr yn chwerthin am ddyrnu carcharor.
Ym mis Ebrill daeth adroddiadau i'r amlwg bod un aelod o staff yn y carchar wedi ymateb i gŵyn am garcharor gan ddweud: "Mae angen torri'r carcharorion yn feddyliol ac yn gorfforol."
Wrth gyfeirio at un carcharor fe ddywedodd y negeseuon: "Fe wnaeth XXX agor y drws ac fe wnaethon nhw ei daro i mewn i'r gawod lol."
Mae ymateb i'r neges honno yn dweud: "Da iawn! Dwi'n gobeithio y gwnaethon nhw ei frifo hefyd."
Ar achlysur arall cafodd rheg ei defnyddio wrth ddisgrifio gweithiwr yn dyrnu carcharor "ar ôl iddo fy mrathu," ynghyd ag emoji chwerthin.
Roedd negeseuon eraill yn cynnwys jôcs am rywun oedd â risg o ladd ei hun a throseddwr arall oedd yn hunan-niweidio.
Ar y pryd, dywedodd G4S: "Mae gennym bolisi dim goddefgarwch wrth ddelio ag unrhyw ymddygiad staff sydd ddim yn cyrraedd ein safonau".
'Tîm ymroddedig yn archwilio'
Mewn ymateb i'r negeseuon dywedodd Heddlu De Cymru eu bod wedi sefydlu tîm ymroddedig er mwyn "archwilio'n drylwyr i'r holl gyfathrebiadau sy'n gysylltiedig â chamymddwyn yng Ngharchar y Parc".
Roedden nhw am ganolbwyntio ar honiadau o ymosod a chamymddwyn mewn swydd gyhoeddus.
Dywedodd yr heddlu eu bod wedi anfon canfyddiadau eu hymchwiliad ymlaen at G4S i fynd i'r afael ag unrhyw "broblemau ymddygiad mewnol a allai godi".
Camau i atal ymddygiad amhriodol
Ym mis Medi 2024, fe gafodd pedwar swyddog y ddalfa eu harestio ar amheuaeth o ymosod a chamymddwyn mewn swydd gyhoeddus.
Yn ystod cyfnod arestio ychwanegol ym mis Ionawr 2025, cafodd un dyn ei ryddhau dan ymchwiliad a phump unigolyn eu rhyddhau ar fechnïaeth er mwyn cynnal ymholiadau pellach.
Mewn diweddariad ddydd Iau, dywedodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru: "Yn dilyn adolygiad cynhwysfawr, mae'r holl achosion troseddol yn erbyn y rhai a arestiwyd bellach wedi dod i ben.
"Ar sail arweiniad Gwasanaeth Erlyn y Goron, mae'r unigolion hyn wedi cael eu rhyddhau heb gyhuddiad."
Dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Dean Taylor: "Rwyf am fod yn glir ein bod ni, ynghyd â'n partneriaid yn G4S, yn cymryd camau sylweddol i sicrhau na fydd ymddygiad amhriodol yn cael ei dderbyn yng Ngharchar y Parc."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.