Carchar y Parc: Cludo tri charcharor i'r ysbyty
- Cyhoeddwyd
Mae tri o garcharorion wedi cael eu cludo i'r ysbyty yn dilyn digwyddiadau mewn carchar lle mae deg o bobl wedi marw ers mis Chwefror.
Dywedodd cwmni diogelwch G4S, sy'n rheoli Carchar y Parc ym Mhen-y-bont, eu bod wedi delio â "dau ddigwyddiad ar wahân" ar y safle ddydd Gwener.
Roedd y cyntaf, meddai G4S, yn ymwneud â thua 20 o garcharorion a chafodd ei ddirwyn i ben yn ddiogel gyda chymorth gan y gwasanaeth carchardai.
Cafodd tri o bobl eu cludo i'r ysbyty gydag anafiadau sydd ddim yn peryglu bywyd wedi'r ail ddigwyddiad - sydd wedi ei ddisgrifio fel "ffrwgwd".
- Cyhoeddwyd19 Mai 2024
- Cyhoeddwyd2 Mai 2024
- Cyhoeddwyd16 Mai 2024
Dywedodd llefarydd ar ran G4S: "Fe wnaeth staff Carchar y Parc ymateb yn sydyn i ddelio â dau ddigwyddiad byr yn ymwneud â charcharorion ddydd Gwener. Ni chafodd unrhyw swyddogion eu hanafu.
"Bydd y rhai oedd yn gyfrifol yn cael eu cosbi yn llym, ac mae erlyniadau troseddol yn bosib."
Ers 27 Chwefror mae 10 carcharor wedi marw yng Ngharchar y Parc - gyda'r diweddaraf - Warren Manners, 38 - yn marw ddydd Mercher.
Yn gynharach yr wythnos hon, fe gafodd protest ei chynnal gan deuluoedd yn galw am "gyfiawnder".
Y gred yw bod pedwar o'r marwolaethau ar y safle yn ymwneud â chyffuriau, tra bod un aelod o staff y carchar wedi cael ei arestio ar amheuaeth o droseddau'n ymwneud â chyffuriau.
Mynnodd G4S bod ganddyn nhw "bolisi dim goddefgarwch tuag at gyffuriau".