Galw am gyfarfod dros dro pedol Ysgol Heol Goffa

Protest Ysgol Heol Goffa
Disgrifiad o’r llun,

Daeth tua 30 o ymgyrchwyr ynghyd ddydd Mercher i brotestio yn erbyn penderfyniad Cyngor Sir Caerfyrddin

  • Cyhoeddwyd

Mae tro pedol dadleuol dros gynlluniau i adeiladu ysgol newydd i ddigyblion gydag anghenion dysgu ychwanegol wedi ennyn galwadau am drafodaethau dros y penderfyniad.

Mae Comisiynydd Plant Cymru wedi gofyn i Gyngor Sir Caerfyrddin am gyfarfod dros eu cynlluniau ynghylch Ysgol Heol Goffa yn Llanelli, a’u heffaith ar blant a phobl ifanc.

Daw hyn wedi i Gyngor Sir Gâr ddatgan ym mis Mai nad oedd modd parhau â’r cynllun i adeiladu ysgol newydd oherwydd bod y costau adeiladu wedi cynyddu’n sylweddol o’r amcangyfrif gwreiddiol.

Bydd adolygiad annibynnol o’r ddarpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn Llanelli yn dechrau yn ystod y tymor ysgol nesaf, yn ôl y cyngor.

Disgrifiad o’r llun,

"Ni moyn ysgol newydd i’n plant ni," medd Alex Dakin, sy'n rhiant i blentyn yn yr ysgol

Ar drothwy cyfarfod cyngor llawn ddydd Mercher, daeth tua 30 o ymgyrchwyr ynghyd i brotestio yn erbyn penderfyniad Cyngor Sir Caerfyrddin i beidio adeiladu ysgol newydd ar gyfer Ysgol Heol Goffa.

Yn ôl Owen Jenkins, Cadeirydd y Llywodraethwr yn Ysgol Heol Goffa: “Ni wedi aros saith mlynedd a’n neges ni’n glir yw so ni’n moyn rhoi lan nawr.

"Ni’n gwybod bydd rhaid i ni gyfaddawdu ar y ddarpariaeth yn symud ymlaen ond un peth 'nawn ni ddim cyfaddawdu arno yw sicrhau hawliau a llais ein disgyblion ni.”

Dywedodd Alex Dakin, 44, sydd â phlentyn 6 oed, Jac, yn yr ysgol: “Ni 'ma heddi i drial newid meddwl y cyngor. Ni moyn ysgol newydd i’n plant ni.

"Ma' Caerdydd wedi cael ysgol newydd i’w plant ALN, Abertawe wedi cael un nhw, Sir Benfro wedi cael un nhw.

"Sai’n gwybod pam dyw Caerfyrddin ddim yn fodlon gwneud hynna.”

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Hannah Coles sy'n rhiant i blentyn mewn cadair olwyn: "Mae’r ysgol yn ffantastig ond dyw’r ysgol ddim yn accessible"

Ategodd Hannah Coles, 35, sydd hefyd yn rhiant i blentyn yn Ysgol Heol Goffa: “Fi’n drist a’n grac at y council.

"Mae fy mab Seb yn mynd i Ysgol Heol Goffa, mae e’n 8 oed ac wedi bod yn yr ysgol am bum mlynedd.

"Mae e'n defnyddio wheelchair a mae complex medical needs ganddo fe.

"Mae’r council wedi dweud wrthon ni y bydden ni’n cael ysgol newydd, wheelchair accessible.

"Mae’r ysgol yn ffantastig ond dyw’r ysgol ddim yn accessible.

"Mae rhaid i ffrindiau Seb helpu fe i fynd mas ar yr iard, dyw’r drysau ddim yn agor, does dim flooring.”

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd deiseb gyda dros 5,000 o lofnodion ei chyflwyno, yn nodi bod angen cyfleusterau addysgol newydd ar y plant "yn druenus"

Yn ystod cyfarfod y cyngor sir, cafodd deiseb gyda dros 5,000 o lofnodion ysgrifenedig a digidol ei chyflwyno, oedd yn galw ar y cyngor i wyrdroi ei benderfyniad.

Roedd y ddeiseb yn nodi bod yr ysgol y tu hwnt i’w chapasiti a bod angen cyfleusterau addysgol newydd ar y plant "yn druenus".

Derbyniodd yr aelod cabinet dros addysg, Glynog Davies, y ddeiseb, gan ddweud eu bod wedi ymrwymo i adolygu darpariaeth ADY yn ardal Llanelli, a hynny drwy arbenigwr allanol ac annibynnol.

Bydd unrhyw gynigion a fydd yn cael eu datblygu yn y dyfodol, yn dilyn yr adolygiad annibynnol, yn destun ymgynghoriad cyhoeddus llawn ar yr adeg briodol, meddai.

Comisiynydd Plant yn galw am gyfarfod

Mae’r ysgol yn darparu addysg ar gyfer dros 120 o blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol.

Yn 2017, fe wnaeth y cyngor llawn gymeradwyo darparu adeilad newydd ar gyfer Ysgol Heol Goffa a hynny’n dilyn ymgyrch hir am gyfleusterau gwell.

Fis Mai eleni, fodd bynnag, cyhoeddodd y cyngor nad oedd modd parhau â’r cynllun oherwydd pwysau ariannol.

Bellach, mae Comisiynydd Plant Cymru Rocio Cifuentes wedi ysgrifennu at Gyngor Sir Caerfyrddin "er mwyn sefydlu manylion llawn eu cynlluniau a’u heffaith ar blant a phobl ifanc".

“Mae gan bob plentyn yr hawl i rannu barn ar y materion sy’n eu heffeithio nhw,” meddai, “a byddwn yn cyfarfod yn uniongyrchol â’r cyngor ysgol er mwyn i ni allu rhannu eu safbwyntiau a’u profiadau gyda rheiny sy’n gwneud penderfyniadau.”

Disgrifiad o’r llun,

Mae’r ysgol yn darparu addysg ar gyfer dros 120 o blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol

Dywedodd Aelod Seneddol Llafur Llanelli, Nia Griffith fod y ddeiseb yn "dangos cryfder y gwrthwynebiad i benderfyniad" y cyngor sir.

"Pam fod cynghorau eraill ledled Cymru wedi gallu gwneud hyn yn flaenoriaeth a pharhau i adeiladu ysgolion newydd tebyg i blant ag anghenion dysgu cymhleth, pan dyw Plaid [Cymru] yn Sir Gâr heb?"

'Blaenllaw ym meddyliau pawb'

Yn dilyn yr ymgyrchu, mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cyhoeddi bod ymrwymiad wedi cael ei wneud i weithio ar y cyd gyda’r ysgol er mwyn datblygu cynllun i ddarparu'r cyfleusterau gorau un ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol yn Llanelli.

“Gydag anghenion disgyblion Ysgol Heol Goffa yn flaenllaw ym meddyliau pawb, bydd adolygiad annibynnol o'r ddarpariaeth ADY bresennol yn Llanelli yn dechrau yn ystod y tymor ysgol nesaf, yn hydref 2024," meddai llefarydd.

“Bydd yr adolygiad hwnnw'n ystyried barn dysgwyr, rhieni, staff, llywodraethwyr a rhanddeiliaid ehangach.

"Bydd unrhyw gynigion a fydd yn cael eu datblygu yn y dyfodol, yn dilyn yr adolygiad annibynnol, yn destun ymgynghoriad cyhoeddus llawn ar yr adeg briodol.”

Ategodd arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, y Cynghorydd Darren Price drwy ddweud: “Hoffwn bwysleisio nad oes penderfyniad wedi'i wneud i gau'r ysgol bresennol.”

Pynciau cysylltiedig