ASau'n cytuno ag egwyddorion rheolau newydd ar y Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae Aelodau Senedd Cymru wedi cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil y Gymraeg ac Addysg.
Nid oedd yr un Aelod o'r Senedd yn gwrthwynebu'r cynnig ddydd Mawrth, felly ni fu'n rhaid cynnal pleidlais ar y mater.
Dyma ddiwedd y cyntaf o bedwar cyfnod yn y broses ar gyfer ystyried bil cyhoeddus o'r fath - gyda phwyllgorau'r Senedd yn ystyried y bil yn fanwl yn yr ail gyfnod.
Prif amcan Bil y Gymraeg ac Addysg yw "ceisio sicrhau bod pob disgybl yn cyrraedd diwedd oedran ysgol gorfodol fel defnyddiwr iaith Gymraeg annibynnol".
Cafodd cynnig arall oedd yn nodi y byddai'r Senedd yn cytuno "i unrhyw gynnydd mewn gwariant... sy'n codi o ganlyniad i'r bil" - ei basio heb unrhyw wrthwynebiad hefyd.
- Cyhoeddwyd11 Ionawr
- Cyhoeddwyd3 Ionawr
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2024
Dywedodd Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, ei fod "wedi fy mherswadio" gan gasgliadau'r pwyllgor plant, pobl Ifanc ac addysg "y byddai'n ddefnyddiol darparu mwy o fanylion am yr ystod tebygol o ddarpariaeth iaith yr ydym yn rhagweld y byddwn yn ymgynghori arno".
Cyhoeddodd hefyd y bydd Llywodraeth Cymru yn "cyflwyno gwelliannau i sicrhau bod y fframwaith cenedlaethol yn cynnwys addysg drydyddol".
"Bydd y memorandwm esboniadol, fel roedd y pwyllgor yn awgrymu, yn egluro'r berthynas rhwng yr athrofa a'r sector addysg drydyddol, gan gynnwys Medr a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol," meddai.
'Heriau allweddol yn parhau'
Ar ran y Ceidwadwyr, dywedodd Samuel Kurtz: "Er ein bod yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y bil, mae deddfwriaeth effeithiol yn gofyn am graffu manwl i sicrhau ei bod yn cyflawni ei nodau."
Dywedodd fod "heriau allweddol yn parhau, yn enwedig o ran capasiti y gweithlu" a rhybuddiodd ei bod yn "annhebygol y bydd y grant Cymraeg mewn addysg bresennol o £6.7 miliwn yn ddigon i gyflawni nodau uchelgeisiol y bil".
Ychwanegodd Mr Kurtz fod "cludiant i ysgolion cyfrwng Cymraeg yn parhau i fod yn rhwystr sylweddol, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig a difreintiedig".
Ar ran Plaid Cymru, dywedodd Cefin Campbell: "Nid yw uchelgais y bil ar ei ffurf bresennol ddim yn cyrraedd yr hyn y byddwn i eisiau iddo fe fod, ac mewn rhai adrannau, rwy'n ofni bod y llywodraeth wedi rhwyfo nôl ar rai elfennau o'r papur gwyn gwreiddiol.
"Mae'n rhaid cryfhau nifer o agweddau'r bil, ond, serch hynny, mae egwyddorion cyffredinol i'w croesawu fel man cychwyn, a bydd Plaid Cymru yn pleidleisio o blaid yr egwyddorion hynny.
"Ond, i fod yn glir, mi fyddwn ni'n defnyddio'r wythnosau a'r misoedd nesaf i gynnig gwelliannau er mwyn sicrhau bod gan bob plentyn yng Nghymru gyfle i ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus."
Mae Cymdeithas yr Iaith o'r farn bod diffygion yn y bil, ac er mwyn tynnu sylw at hynny gosododd y mudiad gadwyn bapur o ddeg o blant y tu allan i'r Senedd fore Mawrth, gydag wyth yn las a dau yn goch.
Eglurodd eu cadeirydd Joseff Gnagbo: "Pwrpas y weithred yma yw atgoffa'n gwleidyddion o'u dyletswydd i blant Cymru a methiant ein system addysg i roi'r Gymraeg i bob plentyn".
"Ar hyn o bryd, mae 80% o'n plant yn cael eu hamddifadu o'r hawl i siarad ein hiaith genedlaethol, a phlant o gefndiroedd cymdeithasol difreintiedig, lleiafrif ethnig ac o ardaloedd penodol sy'n cael eu hamddifadu fwyaf.
"Y perygl yw y bydd y bil yma'n dal i amddifadu rhan helaeth plant Cymru am ddegawdau i ddod."
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd28 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd27 Mawrth 2023
Yn ystod y ddadl hefyd, cyfaddefodd cyn-Weinidog y Gymraeg Alun Davies: "I fod yn hollol onest gyda chi... pan roeddwn i yn Weinidog y Gymraeg, a hyd heddiw, dwi dal ddim yn siŵr fy mod i'n deall yr holl gategorïau o ysgolion sydd gyda ni.
"Dwi'n credu, ambell waith, ein bod ni'n cymhlethu pethau gormod, a buaswn i'n hoffi gofyn i'r gweinidog i edrych eto ar rai o'r categorïau sydd gyda ni, a beth mae hynny yn ei feddwl i blant, i athrawon, ac i'r cymunedau."
Yn ôl Llywodraeth Cymru, cyfanswm y costau sy'n gysylltiedig â'r ddeddfwriaeth fydd £103m dros y ddeg mlynedd o 2025-26, sy'n cynnwys costau'r llywodraeth, awdurdodau lleol, ysgolion, Estyn, a'r Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol a fydd yn cael ei sefydlu gan y Bil.
Mae disgwyl i'r Bil dderbyn Cydsyniad Brenhinol i'w wneud yn gyfraith yn ystod Haf 2025.
Mewn datganiad blaenorol, dywedodd Llywodraeth Cymru: "Nod Bil y Gymraeg ac Addysg, erbyn 2050, yw rhoi cyfle teg i holl blant Cymru ddod yn siaradwyr Cymraeg annibynnol a hyderus erbyn iddynt gyrraedd diwedd oedran ysgol gorfodol.
"Mae'r nod hwn waeth beth fo'u cefndir a pha bynnag gategori iaith y maent yn ei mynychu fel ysgol. Bydd yn cymryd amser i weithredu'r Bil yn llawn ac rydym wedi amlinellu i'r Senedd ein hamserlen bresennol sy'n dangos sut y bydd elfennau allweddol o'r Bil yn cael eu rhoi ar waith hyd at 2036."