Cerdded o Gaerdydd i Fôn, i godi arian i Steddfod yr Urdd

Iwan Kellett a Mistar UrddFfynhonnell y llun, Iwan Kellett
  • Cyhoeddwyd

Mae Iwan Kellet newydd gwblhau taith gerdded o Gaerdydd i Ynys Môn.

Dros gyfnod o 10 diwrnod, cerddodd 190 o filltiroedd o'r brifddinas - ble mae wedi bod yn byw ers pedair blynedd - i'w gartref genedigol, a hynny i godi arian i Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026.

Iwan sydd wedi rhannu ychydig o hanes a lluniau'r siwrne gyda BBC Cymru Fyw.

Ffynhonnell y llun, Iwan Kellett
Disgrifiad o’r llun,

Llyn Trawsfynydd - un o'r golygfeydd hyfryd y gwelodd Iwan yn ystod ei daith o un pen Cymru i'r llall

Dwi wedi cerdded o Gaerdydd adra i Ynys Môn dros 10 diwrnod; dyna deimlad braf cael sôn am hynny yn y gorffennol, a bellach gyda fy nhraed i fyny ar y soffa.

Dechreuais ar fore digon braf o fy nhŷ yng Nghaerdydd gan wybod fy mod i’n symud adra ar ôl byw yn y ddinas ers pedair blynedd.

Wrth fynd yn syth am Ferthyr roedd hi’n ddiwrnod heriol o hir; un o'r rhai hiraf yn y sialens i gyd. Un diwrnod ac roedd rhan fwyaf o boblogaeth Cymru yn barod y tu ôl i mi.

Braf oedd gweld ychydig o Gwm Rhymni, rhywle nad oeddwn wedi gweld rhyw lawer, na dim o’r Cymoedd a dweud y gwir.

Ond hawdd oedd gweld y hoel diwydiannol. Yn syth bin wrth gyrraedd pen mynydd Cefn Onn, roedd chwarel calch, ac o fan hyn cefais fy ngolwg olaf ar y brifddinas.

Ffynhonnell y llun, Iwan Kellett
Disgrifiad o’r llun,

Mae diwydiant wedi gadael ei farc ar dirwedd y gogledd hefyd; yr olygfa lawr tuag at Ryd-ddu a Llyn y Gadair, gyda'r llechi i'w gweld yn glir

Ffynhonnell y llun, Iwan Kellett
Disgrifiad o’r llun,

Yn edrych tuag at gopa Pen y Fan

Ymlaen o Ferthyr dilynais drywydd yr A470 at Libanus, y pellter lleiaf unrhyw ddydd ond ar i fyny bron yr holl ffordd wrth fynd fewn i Fannau Brycheiniog.

Er mai ond yr ail diwrnod oedd hi, roedd h’n un anodd oherwydd dyma pryd roedd realiti'r her yn dod yn amlwg ac fe wnes i droi fy nhroed tua hanner ffordd. Er i hynny fy ofni 'chydig, roedd pob dim yn iawn ar ôl rhyw awr o gerdded ac ymlaen yr es.

Roedd y diwrnodau i ddilyn yn rhai haws wrth i mi ffeindio fy rhythm. Roeddwn yn cerdded am awr cyn cael brêc, byta banana a chymryd jel egni.

Roedd hynny’n gweithio’n dda i fy nghadw i fynd. Wrth wneud hynny doedd dim angen cael stop hirach i fyta cinio chwaith dim ond byta wrth fynd.

Ffynhonnell y llun, Iwan Kellett
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y bananas yn hanfodol er mwyn cael digon o egni

Llanymddyfri a Thregaron oedd y dau stop rhwng Libanus ac Aberystwyth; dau gartref diweddar eisteddfodau cenedlaethol.

Ar hyd y ffordd fues i ar ambell i lôn Rufeinig a heibio Craig y Bwci; digon i lonni’r nerd hanes yndda i.

Es heibio ambell i Fistar Urdd a hoel harddu’r Eisteddfod dal i’w weld.

Ffynhonnell y llun, Iwan Kellett
Disgrifiad o’r llun,

Mistar Urdd yn dymuno pob lwc

Yn Aberystwyth roeddwn nawr hanner ffordd a chefais ddiwrnod i ymlacio a chael bwyd gyda ffrindiau yn y nos. Roedd angen llwyth o egni cyn mynd y diwrnod wedyn am dro 29 milltir i Finffordd.

Ffynhonnell y llun, Iwan Kellett
Disgrifiad o’r llun,

Saib haeddiannol yn Aber

Y diwrnodiau wedi Aber oedd y caletaf oherwydd dyma oedd y rhai hiraf a nawr roeddwn yn mynd trwy fynyddoedd Eryri. Gwaith caled iawn oedd y fyny a lawr o hyd.

Diolch byth fy mod i efo cwmni teulu a ffrindiau bob milltir ar ôl Y Ganllwyd.

Ffynhonnell y llun, Iwan Kellett
Disgrifiad o’r llun,

Da oedd cael cwmni hen ffrindiau ar y daith...

Ffynhonnell y llun, Iwan Kellett
Disgrifiad o’r llun,

... ac ambell i ffrind newydd

Roedd hi’n braf gweld yr holl natur ar hyd y ffordd, gan ddechrau efo llygod mawr Cathays…

Ar hyd y daith fe welais gannoedd o anifeiliaid fferm ac ambell i ferlyn gwyllt. Cefais amser rhwng Aber a Minffordd i droi un dafad oddi ar ei chefn. Gwelais ddau farcud coch, ieir, hwyaid, gwyddau Canada, llwynog a thwrch daear.

Ffynhonnell y llun, Iwan Kellett
Disgrifiad o’r llun,

Yr Wyddfa ar y gorwel

Ffynhonnell y llun, Iwan Kellett
Disgrifiad o’r llun,

Carreg filltir ar Sarn Helen rhwng Y Ganllwyd a Thrawsfynydd

Rhwng hynny i gyd roedd y golygfeydd a welais yn hollol anhygoel gan gynnwys mynd heibio Pen y Fan, Cader Idris a’r Wyddfa.

Heb os yr olygfa gorau oll oedd rhwng Y Ganllwyd a Thrawsfynydd ar Sarn Helen. Roedd hi’n fynyddoedd i bob cyfeiriad a phrin unrhyw bentref i'w weld, dim ond Trawsfynydd ei hun a’r horwth o beth wrth ei hymyl.

Roedd yr olygfa mor dda, fe wnes i anghofio tynnu llun! Rheswm da i fynd yn ôl.

Ffynhonnell y llun, Iwan Kellett
Disgrifiad o’r llun,

Y filltir olaf i Frynteg

Gorffennais ddydd Sul 7 Gorffennaf, gan gyrraedd tafarn y California, Brynteg. Peint yn disgwyl amdana i a ffrindiau a theulu yno i’m llongyfarch.

Diolch i bawb am y gefnogaeth anhygoel ac i bob un am noddi. Mae hi wedi bod yn siwrne fythgofiadwy ac yn ddechrau da iawn at godi pres Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Môn 2026.

Pynciau cysylltiedig