'Staff S4C yn hapus a'r diwylliant mewnol wedi gwella'

Disgrifiad,

Kate Crockett fu'n holi Geraint Evans ar raglen Dros Frecwast

  • Cyhoeddwyd

Mae prif weithredwr newydd S4C yn dweud bod diwylliant mewnol y sianel wedi gwella a "bod staff yn hapus, yn parchu ei gilydd ac yn falch o fod yn gweithio i S4C".

Ym mis Rhagfyr 2023 roedd adroddiad ar fwlio o fewn S4C yn cynnwys honiadau bod cyn-brif weithredwr y sianel yn ymddwyn mewn modd "unbenaethol" ac yn creu diwylliant o ofn.

Yn ei gyfweliad cyntaf ers ei benodi'n brif weithredwr newydd, dywedodd Geraint Evans fod y sianel "wedi 'neud tipyn o waith ar ein diwylliant mewnol".

Ychwanegodd ar raglen Dros Frecwast fod "lot wedi newid yn S4C" ers yr honiadau.

"Dwi'n credu bod y ffaith bo' ni wedi cael cwmni allanol mewn i edrych ar be' sy'n bwysig i ni yn S4C ac i edrych ar ein gwerthoedd ni, wedi'n gadael ni ar ôl y broses yma i gyd yn gryfach na beth fydden ni wedi bod cynt," meddai.

"Ni wedi gwrando ar staff i weld beth oedd eu pryderon nhw, ni wedi adolygu ein gwerthoedd ni.

"Dwi'm yn meddwl bod neb yn glir iawn beth oedd ein gwerthoedd ni cyn hyn.

"Heb ddiwylliant cryf 'newch chi ddim perfformio ar eich gorau."

Dywedodd Mr Evans ei fod yn credu ei bod yn "gryfder" bod rhywun mewnol wedi'i benodi'n brif weithredwr.

"Dwi'n 'nabod y staff i gyd yn dda," meddai, gan ychwanegu bod "ymddiriedaeth wedi cael ei adeiladu" rhyngddo ef a gweddill y gweithlu.

Dyfodol cwmnïau annibynnol?

Sicrhau cyllid digonol ar gyfer S4C fydd un o flaenoriaethau y prif weithredwr newydd.

Daw wrth i drafodaethau cyson gael eu cynnal ar ddyfodol y ffi drwydded ac wrth i nifer o gwmnïau annibynnol a chriwiau llawrydd boeni am eu dyfodol.

Dywed Mr Evans y bydd S4C yn parhau i gomisiynu yr un faint o raglenni, a bod y diwydiant yn dioddef yn sgil llai o wariant yng Nghymru gan ddarlledwyr eraill.

"Dwi wedi cael sawl cwmni yn dod ata i yn y chwe mis diwethaf yn poeni am eu dyfodol," meddai.

"'Dan ni'n mynd i gomisiynu ar yr un lefel ond mae'n bosib bydd llai o gwmnïau [yn y dyfodol]."

Ychwanegodd bod S4C yn "gatalydd gwych i'r genedl", gydag adroddiad yn awgrymu eu bod yn cynnal 1,900 o swyddi a gwario dros 50% o'u cyllid y tu allan i Gaerdydd.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Geraint Evans fod S4C "wedi 'neud tipyn o waith ar ein diwylliant mewnol"

Mae Geraint Evans yn olynu Sioned Wiliam a fu'n brif weithredwr dros dro.

Ers ymuno â'r sianel yn 2019 mae wedi bod yn Gomisiynydd Newyddion a Materion Cyfoes cyn dod yn Brif Swyddog Cynnwys dros dro.

Yn ei swydd fel Comisiynydd Newyddion a Materion Cyfoes S4C fe wnaeth Geraint Evans ddatblygu y gwasanaeth newyddion digidol, a'i fwriad yw ehangu ar hynny.

"Mae'n bwysig cofleidio y byd newydd a rhaid mynd yn bellach," meddai.

"Rhaid i'r deunydd fod ar Clic ac iPlayer ond ar YouTube hefyd er mwyn denu y gynulleidfa hynny."

Ond pwysleisiodd nad oedd am amddifadu y gynulleidfa draddodiadol.

Amddiffynnodd hefyd y penderfyniad i leoli ambell raglen dramor - yn eu plith y gyfres Amour & Mynydd, gan ddweud nad oedd cost eu cynhyrchu yn ddrutach ac nad "jolihoits" mo'r cynyrchiadau, ond yn hytrach cyfle haeddiannol i wylwyr Cymraeg gael cynnwys o bob cwr o'r byd.

Pynciau cysylltiedig