Llawer mwy yn gwneud prentisiaethau yn y Gymraeg

Un sydd wedi bachu ar y cyfle am brentisiaeth ydy Gwydion Wyn Williams o Gaeathro, sydd bellach yn dechnegydd ceir
- Cyhoeddwyd
Mae nifer y bobl ifanc sy'n gwneud rhan o'u prentisiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg wedi mwy na threblu dros y degawd diwethaf.
Yn ôl y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, bellach mae 32.7% o'r holl brentisiaid yng Nghymru yn gwneud peth o'r cyfle drwy'r Gymraeg, a hynny o gymharu â 10% yn 2016.
Ond mae un perchennog busnes sy'n cynnig prentisiaethau yn dweud bod gwaith i'w wneud eto er mwyn hybu cyfleoedd mewn ysgolion a newid delwedd y sector.
Yn ôl Llywodraeth Cymru mae'n rhaid i ysgolion gyflwyno "ystod lawn o opsiynau" i ddisgyblion.
Dros gyfnod o 10 mlynedd mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn dweud eu bod wedi derbyn dros 50 o grantiau ac yn buddsoddi'n helaeth wrth hybu cyfleoedd drwy'r Gymraeg.
'Cyfle i ddysgu tra'n gweithio'
Yn 21 oed, mae Enlli Jones bellach yn brentis gyda Chyngor Gwynedd yn gweithio ym maes cyfrifeg.
Ar ôl treulio amser yn y brifysgol, mi benderfynodd adael gan fentro ar y cyfle i fod yn brentis drwy gyfrwng y Gymraeg.
"O'n i'n meddwl bod o'r peth iawn i mi," meddai.
"Dwi'n cael y cyfle i ddysgu tra'n gweithio ar yr un pryd, a gallu gofyn cwestiynau i bobl sydd yn y proffesiwn.
"Ma'n ffordd rili da i ddatblygu'n hun mewn byd gwaith proffesiynol cyn cael cymhwystra."
Mae Enlli yn gwneud ei phrentisiaeth yn llwyr drwy gyfrwng y Gymraeg, ac yn annog eraill i wneud hynny hefyd.

Mae Enlli Jones yn brentis gyda Chyngor Gwynedd yn gweithio ym maes cyfrifeg
Yn berchennog ar fusnes gwerthu a thrwsio ceir ym mhentref Bethel, dywed Gari Wyn fod angen gwneud mwy i ddenu pobl ifanc yn syth i'r byd gwaith, a bod prentisiaethau yn gyfle gwych.
"Mae angen mwy o adeiladwyr, crefftwyr, plymwyr, trydanwyr ac yn enwedig technegwyr ceir," meddai.
"Mae 'na or-bwyslais ar anfon pobl i brifysgolion, ac ar ddiwedd dydd 'da ni gyd yn gwybod yr argyfwng sydd mewn prifysgolion oherwydd bod 'na bob math o bynciau wedi datblygu dros yr 20 mlynedd ddiwethaf sydd ddim yn ymarferol i'r byd 'da ni'n byw ynddo.
"Felly 'da ni angen mynd yn ôl i'r pynciau craidd."

Dywed Gari Wyn fod 'na "or-bwyslais ar anfon pobl i brifysgolion"
Un a fachodd ar y cyfle am brentisiaeth gan Gari Wyn oedd Gwydion Wyn Williams o Gaeathro, sydd bellach yn dechnegydd ceir.
"Nes i ddod mewn i brentisiaeth ond i ddweud y gwir nes i drio cadw ffwrdd ohono am yn hir oherwydd i bobl dd'eud wrtha i pan o'n i'n tyfu fyny bod 'na ddim llawer o gyflog a bod o ella yn joban fudur, ond dydi o ddim," meddai.
"'Sa well gen i ennill cyflog tra'n dysgu."
Ychwanegodd ei fod yn "gobeithio fod pethau yn dechrau newid [o ran delwedd prentisiaethau] ond dwi yn meddwl bod ysgolion angen gwthio fo mwy".

"'Sa well gen i ennill cyflog tra'n dysgu," meddai Gwydion Wyn Williams
Wrth drafod y cynnydd sydd wedi bod yn y nifer sy'n gwneud prentisiaethau yn y Gymraeg, dywed Lisa O'Connor o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol bod nifer o gyfleoedd ar gael.
Dywedodd: "Mae'r Coleg Cymraeg wedi buddsoddi yn y sector gyda grantiau er mwy datblygu capasiti staffio ac i ddatblygu isadeiledd o fewn y sector a darparwyr i sicrhau ethos Gymraeg a bod cefnogaeth ddwyieithog a Chymraeg i brentisiaid."
Rhaid i ysgolion gyflwyno 'ystod' o opsiynau
A hithau'n wythnos prentisiaethau drwy Gymru, dywed Llywodraeth Cymru eu bod wedi cyflwyno canllawiau statudol newydd sy'n golygu bod yn rhaid i ysgolion gyflwyno "ystod lawn o opsiynau" i ddisgyblion.
Mae hynny'n cynnwys "ond heb fod yn gyfyngedig i barhau ag addysg yn yr ysgol, coleg neu ymgymryd â phrentisiaeth".
"Yn ogystal, mae Gyrfa Cymru bellach yn cynnig cyfweliad canllaw gyrfaoedd i bob person ifanc cyn iddynt adael blwyddyn 11," meddai llefarydd.
"Mae hyn yn sicrhau bod pobl ifanc yn cael y cyfle i dderbyn arweiniad gyrfa diduedd a phroffesiynol wedi'i deilwra i'w hanghenion unigol, ac felly mae'n cynnwys gwybodaeth sy'n ymwneud â phrentisiaethau.
"Rydym yn ariannu rhaglenni prentisiaethau Cymraeg a dwyieithog yn llawn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Chwefror
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2024
- Cyhoeddwyd24 Medi 2024