Prentisiaethau: Toriadau 'syfrdanol' yn 'ddi-resymeg'

  • Cyhoeddwyd
Prentis caregwaithFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae dros 60 o gyflogwyr o bob rhan o Gymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiogelu cyllid ar gyfer prentisiaethau er mwyn osgoi "toriadau trychinebus".

Daw'r alwad mewn llythyr agored sydd wedi ei gyhoeddi gan yr elusen addysg ôl-16 ColegauCymru, sy'n lleisio pryderon ynghylch effeithiau cyllideb ddrafft y llywodraeth.

Mae'r cynlluniau i dorri prentisiaethau wedi eu disgrifio fel rhai "syfrdanol" allai "dynnu carped o dan yr holl waith da sydd wedi ei wneud".

Dywed Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n "parhau i fuddsoddi mewn prentisiaethau o safon" er bod cyllidebau'n gostwng.

Toriad 'syfrdanol' i brentisiaethau

Mae 65 o gwmnïau wedi ychwanegu eu henwau i'r llythyr, gan alw am ddiogelu cyllid ar gyfer rhaglen brentisiaethau Llywodraeth Cymru a "sicrhau dyfodol llewyrchus ar gyfer economi Cymru".

Yn eu plith mae'r cwmni dŵr Wales & West Utilities, Porthladd Aberdaugleddau, y cwmni technoleg Nexperia yng Nghasnewydd, a chymdeithas dai fwyaf y gogledd, Adra.

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast ddydd Mercher, dywedodd Dafydd Evans, prif weithredwr y grŵp colegau Llandrillo Menai fod y diwydiant prentisiaethau yn "wynebu toriad o 25% yn y niferoedd 'da ni'n medru derbyn i mewn i brentisiaeth fis Medi nesa'".

Fe ddisgrifiodd y toriad fel un "syfrdanol", gan ddweud y gallai "dynnu carped o dan yr holl waith da sydd wedi ei wneud dros y 10 mlynedd diwethaf".

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dafydd Evans fod prentisiaeth "bellach wedi dod yn llwybr cydnabyddedig gan bobl ifanc, rhieni a chyflogwyr"

Wrth edrych ar effaith y toriad, dywedodd fod hynny'n golygu bod "10,000 yn llai o bobl ifanc yn mynd mewn i brentisiaethau, ac mewn cyd-destun lleol mae hynny'n golygu 200 yn Ynys Môn, 300 yng Ngwynedd a 300 yng Nghonwy".

Aeth ymlaen i ddweud bod y niferoedd hynny yn rhai "sylweddol".

"Maen nhw [y bobl ifanc] am fod yn ddraen ar y llywodraeth felly ma' hyn yn benderfyniad hollol ddi-resymeg."

'Parhau i fuddsoddi'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Er gwaethaf y cyllidebau sy'n gostwng, byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn prentisiaethau o safon ac yn darparu dyfodol llwyddiannus i'n pobl ifanc.

"Rydyn ni'n gweld manteision hirdymor prentisiaethau i unigolion - drwy adeiladu gyrfaoedd cryf ac ennill gwell cyflog yn y tymor hir - yn ogystal â manteision i'r economi gyfan.

"Gyda gostyngiad yn llawer llai nag mewn llinellau cyllideb eraill, byddwn yn buddsoddi £138m y flwyddyn nesaf mewn prentisiaethau o safon sy'n darparu buddion tymor hir a gyrfaoedd cryfach."

Pynciau cysylltiedig