Athrawes yn creu ap newydd i helpu disgyblion i ganfod prentisiaeth

Catrin Rees
Disgrifiad o’r llun,

Mae Catrin Rees wedi creu ap newydd i helpu myfyrwyr ddod o hyd i gyrsiau prentisiaeth

  • Cyhoeddwyd

Mae athrawes ysgol uwchradd wedi creu ap newydd i ddisgyblion er mwyn pontio'r bwlch rhwng disgyblion a busnesau.

Bwriad Prentis+ yw paru pobl ifanc Ysgol Gymraeg Gwynllyw gyda busnesau sy'n chwilio am brentisiaid newydd a gwneud y broses o wneud cais yn haws.

Daw wrth i Golegau Cymru alw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mwy o arian ar gyfer gyrsiau prentisiaethau.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod eu cyllid craidd ar gyfer prentisiaethau wedi codi bob blwyddyn ers 2020 a'u bod yn blaenoriaethu buddsoddiad yn y sectorau sy'n cefnogi twf economaidd.

'Dod â'r cyfleoedd at sylw'r plant'

"Dwi'n dod ar draws llawer o gwmnïoedd sy'n dod mewn a ma' nhw gyd yn dweud yr un peth – bo' nhw methu cal prentisiaid i safio'u bywyd," meddai'r athrawes a chydlynydd gyrfaoedd Catrin Rees.

Esboniodd hefyd bod nifer o ddisgyblion yn chwilio am brentisiaeth ond "ddim cweit yn gwybod beth i wneud a ble i fynd".

"Nes i feddwl am Prentis+ le ma' fe yn gyfle i fusnesau hysbysebu eu cyfleoedd nhw ac wedyn ma' nhw yn cael eu danfon yn syth i'r ffôn felly ma' fe yng nghledr eich llaw chi.

"Y gynulleidfa darged yw pobl oedran 16 - 25 ond dyw e ddim yn egsgliwsif i hwnna.

"Pan chi'n ifanc chi falle ddim cweit yn siŵr ble i edrych am y cyfleoedd a wedyn chi ddim yn dod ar draws cymaint o gyfleoedd a be gallech chi.

"Pwrpas yr ap yw gallu dod â'r cyfleoedd yna at sylw'r plant."

Mollie
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mollie nad yw hi'n gwybod lle i edrych am y cwrs prentisiaeth cywir

Bwriad Mollie oedd gwneud cais i astudio yn y brifysgol ond bellach mae ganddi gynlluniau i edrych am gwrs prentisiaeth.

Wrth siarad â Cymru Fyw, dywedodd: "Fi ddim yn gwybod be fi eisiau 'neud a mae'n benderfyniad mawr i fynd i'r brifysgol jest i 'neud rhywbeth fi ddim yn siŵr bo fi'n hoffi.

"A mae'n rhaid talu lot o arian i fynd a mae ddim jest am flwyddyn.

"Felly mae'n benderfyniad mawr ac eithaf difrifol o ran arian so dwi'n credu galle bod prentisiaeth bach yn haws i ddewis na mynd i'r brifysgol."

Ond dyw Mollie "ddim rili yn gwybod lle i edrych" am y cwrs cywir.

"Achos bod lot o bwyslais ar fynd i'r brifysgol, does dim cymaint o sôn am brentisiaethau so falle dim ond clywed gan rai athrawon neu gweld ar-lein."

Mae Taliesin, disgybl ym mlwyddyn 12 eisoes wedi dechrau ar gais cwrs prentisiaeth oherwydd dyna'r "syniad gorau" iddo, meddai.

"Fi yng nghanol cais prentisiaeth llinellau uwch National Grid – fi eisiau dysgu a chael profiad gwaith ac ennill arian ar yr un pryd."

Ap Prentis+
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ap yn dangos yr holl gyrsiau prentisiaeth cyfagos sydd ar gael i bobl ifanc

Mae ffigyrau diweddaraf yn dangos bod y nifer sy'n dechrau cwrs prentisiaid yn llai eleni o'i gymharu â'r adeg yma llynedd gyda chyrsiau lefel 4 yn gweld y cwymp mwyaf.

Rhwng Chwefror ac Ebrill 2023 dechreuodd 1,100 ar gwrs prentisiaeth uwch. Yn 2024, disgynnodd y ffigwr yma i 905, sy'n gwymp o 22%.

Yn ôl Gwenllian Roberts, Uwch Gyfarwyddwr Datblygiadau Masnachol Grŵp Llandrillo Menai o Golegau Cymru, mae'r "hinsawdd a chyd-destun yn heriol iawn".

Mae'n rhybuddio bod potensial i golli hyd at 6,000 o brentisiaid heb fuddsoddiad digonol.

Gwenllian Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Gwenllian Roberts fod angen cyllidebau digonol i ateb galw'r economi

"'Da ni wedi gweld mewn termau real, toriadau o ran faint o brentisiaethau 'da ni'n medru rhoi drwy'r system yn y sectorau sydd hefo demand," meddai.

Mae'r rhagolygon ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf, meddai, yn dangos 10 mil yn llai o brentisiaid ar draws Cymru.

"Ar ddiwedd y dydd mae'n rhaid ca'l cyllidebau digonol i sicrhau darpariaeth sydd yn ymateb i'r galw sydd yn yr economi.

"Y sectorau o bwys a'r sector sy'n bwysig i ni fel cymdeithas ac hefyd sydd yn bwysig o ran blaenoriaethau'r llywodraeth iechyd a gofal a'r economi werdd ma'n rhaid ni fuddsoddi yn ein pobl ifanc i fedru diwallu anghenion y sectorau yna a hefyd wirioneddol sicrhau'r budd i ni yma yng Nghymru."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae ein cyllid craidd ar gyfer prentisiaethau wedi codi bob blwyddyn ers 2020 - o £97m i £144m yn y gyllideb ddrafft ddiweddaraf.

"Mae'r data diweddaraf (Ebrill 2024) yn dangos ein bod wedi cefnogi bron i 56,000 o brentisiaethau newydd yn dechrau hyd yma yn ystod tymor y Senedd hon ac rydym yn parhau'n hyderus o gyrraedd ein targed o 100,000 o brentisiaethau newydd yn dechrau erbyn diwedd y tymor.

"Rydym yn parhau i hyrwyddo a blaenoriaethu buddsoddiad yn y sectorau sy'n cefnogi twf economaidd a chydlyniant cymunedol gan gynnwys y rhai mewn sectorau mwy technegol, cefnogi prentisiaethau STEM a pharodrwydd sero net, a chynyddu nifer y prentisiaethau gradd."

Pynciau cysylltiedig