'Mae mwy i'r WI na gwneud Jam a chanu Jerwsalem'

Audrey Jones
Disgrifiad o’r llun,

Audrey Jones MBE, sydd wedi bod yn aelod o Sefydliad y Merched ers 50 mlynedd

  • Cyhoeddwyd

"Dwi wedi rhoi fy mywyd i'r WI"

Dyna eiriau Mrs Audrey Jones o Rostrehwfa, Ynys Môn sydd wedi bod yn aelod o Sefydliad y Merched ers 50 mlynedd.

Mae'r sefydliad eleni yn dathlu 110 ers ei sefydlu am y tro cyntaf ym Mhrydain yn Llanfairpwll ar Ynys Môn.

Mae Mrs Jones wedi cael cyfnod fel Cadeirydd Cymru, wedi derbyn MBE gan y Frenhines ac yn parhau i weithredu gyda'r sefydliad heddiw.

Sefydlu Sefydliad y Merched

Ar 16 Mehefin 1915 gydag anogaeth gan y Cyrnol Stapleton Cotton, fe wnaeth grŵp o ferched, dan arweiniad Mrs Alfred Watt gyfarfod yn Llanfairpwll.

Dyma ffurfio cangen gyntaf Sefydliad y Merched ym Mhrydain.

Roedd rhaid aros tan fis Medi'r flwyddyn honno nes i'r cyfarfod agored cyntaf ddigwydd, ble etholwyd pwyllgor a hynny ym Mhlasty'r Graig yn Llanfairpwll.

Yn ogystal â bod yn aelod, mae Mrs Audrey Jones hefyd wedi ymchwilio'n drylwyr i hanes y Sefydliad.

Dywedodd: "Fe wnaeth Syr Horace Plunkett gyrraedd Caergybi o'r Iwerddon i annerch cyfarfod Cymdeithas Trefniant Amaeth ym Mhrifysgol Bangor ym mis Hydref 1911.

"Roedd o'n canmol ei fod wedi ffurfio Cymdeithas Merched Gwyddelig Undebol oedd yn cysylltu Canada, Iwerddon a Phrydain Fawr.

"Cadeirydd y cyfarfod hwnnw ym Mangor oedd y Cyrnol Stapleton. Mae ei gysylltiad o reit bwysig i'r hanes.

"Yn 1913 daeth Mrs Alfred Watt. neu Madge, i Brydain o Ganada, roedd hi eisoes yn aelod o Sefydliad y Merched yn Ontario, ei syniad oedd i drio sefydlu rhywbeth tebyg yma dan enw Cymdeithas Trefniant Amaeth.

"Fe fethodd hi mewn sawl ardal, nes iddi ddod i Fangor a chwrdd â Chyrnol Stapelton, a'i syniad ef oedd y dylai'r mudiad ddechrau yng Nghymru.

"A dyna a fu, fe wnaeth roi Mrs Watt mewn cysylltiad efo merched lleol yn Llanfairpwll, a dyna'r cyfarfod cyntaf yn digwydd," meddai.

W.IFfynhonnell y llun, Sefydliad y Merched
Disgrifiad o’r llun,

Llun o gyfarfod cyntaf Sefydliad y Merched drwy Brydain ar dîr plasty'r Graig, Llanfairpwll ym mis Medi 1915

'Jam a Jerusalem'

Mae adeilad gwreiddiol Sefydliad y Merched yn dal i sefyll ym mhentref Llanfairpwll a dal yn weithredol hefyd.

Cafwyd diwrnod agored yno i ddathlu'r 110, gydag aelodau o sawl cangen yn cynnig paned a chacen i ymwelwyr.

Mrs Glynne Owen yw Cadeirydd Ynys Môn: "Mae camsyniad a stereoteip gan sawl person mai merched sy'n gwneud Jam a chanu Jerwsalem yw aelodau o'r WI. Ond dyw hynny ddim yn wir.

"Mae 'na ferched o wahanol gefndiroedd, ac mae'r ymgyrchoedd mae'r WI wedi ymgymryd â nhw dros y degawdau wedi bod yn bellgyrhaeddol iawn.

"Cadw Prydain yn Daclus, er enghraifft. Sefydliad y Merched oedd yn lobïo'r Llywodraeth nol yn y 1950au am hyn ac fe gafodd rhywbeth ei wneud amdano.

"Yn y 1975 wedyn roedd y Sefydliad yn pwysleisio pwysigrwydd i ferched gael sgrinio ar gyfer canser y Fron, ac mae hynny wedi bod yn effeithiol iawn hefyd. Fe lobïwyd y llywodraeth a daeth y sgrinio cenedlaethol i fodolaeth ar ddiwedd y 1980au.

"Erbyn heddiw mae ymgyrchoedd fel atal trais yn erbyn menywod sydd wedi bod yn effeithiol iawn ac wedi achub sawl un sydd wedi bod mewn trybini.

"Roedd y cyfarfodydd 110 o flynyddoedd yn ôl yn llawn Merched oedd eisiau gwneud gwahaniaeth ac yn actifyddion ac oedd eisiau rhoi llais i Ferched yn y cyfnod yna. Dyna sydd dal yn bodoli heddiw yn y bôn.

"Mae'n grŵp chwyldroadol o ferched sy'n cyflawni pethau da yn hytrach na dim ond rhai sy'n gwneud paneidiau a chacennau," meddai.

Glynne Owen
Disgrifiad o’r llun,

Mrs Glynne Owen yw Cadeirydd Ynys Môn yn sefyll y thu allan i neuadd Sefydliad y Merched yn Llanfairpwll

Yn wreiddiol yn Llanfairpwll, roedd aelodau o Sefydliad y Merched yn rhoi cymorth i famau ifanc yr ardal oedd yn ei gweld hi'n anodd ymdopi oherwydd diffyg arian ac adnoddau i fagu plentyn.

"Roedd clinigau yn cael eu cynnal ac roedd 'na ymgyrch fawr i gael merched i ddysgu sut i goginio a chreu gyda nodwyddau mewn ysgolion," meddai Mrs Jones.

Er mai yn Llanfairpwll y ffurfiwyd y pwyllgor cyntaf, mae niferoedd y canghennau yn dirywio, gydag Ynys Môn yn enghraifft o hynny ac mae pryder am y dyfodol.

"Ar un adeg roedd 'na dros 50 o ganghennau ar Ynys Môn yn unig, dim ond 12 sydd 'na erbyn heddiw.

"Mae o'n cael ei weld fel rhyw sefydliad Seisnig, wrth Gymreig, ond tydan ni ddim. Mae' Sefydliad pellgyrhaeddol sy'n rhoi pwysau ar y llywodraeth i wneud gwahaniaeth."

Dyw Mrs Jones ddim yn teimlo ei bod hi'n deg cymharu Sefydliad y Merched gyda sefydliad Merched y Wawr.

"Dwi wedi bod yn aelod o Ferched y Wawr fy hun, ond nes i adael yn yr 80au cynnar. Dos nelo'r WI ddim a'r iaith, dwi ddim yn hoffi'r casineb, dwi'n siarad Cymraeg pur a dwi'n hapus iawn bod yn aelod o'r WI.

"Rydan ni wastad yn edrych am aelodau newydd. Ers talwm roedd 'na feini prawf er mwyn gallu ymuno, ond mae'r rheiny wedi hen fynd ac rydan ni'n croesawu unrhyw un sydd eisiau dod aton ni," meddai.

Sefydliad y MerchedFfynhonnell y llun, Sefydliad y Merched
Disgrifiad o’r llun,

Clinig i fabanod wedi'i sefydlu yn Llanfairpwll gan Sefydliad y Merched

Mae'r neuadd sy'n rhan o adeilad y tollty yn Llanfairpwll yn parhau i sefyll ac mae amgueddfa yno yn adrodd hanes y Sefydliad, o'i wreiddiau ar Ynys Môn at heddiw.

Roedd Glynne Owen yno hefyd yn trafod egwyddorion y Sefydliad:

"Erbyn heddiw dyma'r sefydliad merched mwyaf ym Mhrydain gyda 168,000 o aelodau.

"Mae'n anodd credu fod y merched yna yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf wedi creu sefydliad mor rhyfeddol sydd wedi bod mor llwyddiannus i fod wedi esblygu dros y 110 mlynedd diwethaf.

"Fe sefydlwyd yn 1915 i i sicrhau fod merched yn chwarae rôl effeithiol yn eu cymunedau ac i wella a datblygu safon byw ar gyfer pawb, gan ddylanwadu ar faterion lleol a chenedlaethol sydd o bwys i'w haelodau," meddai.

A hithau wedi bod yn aelod ers dros 50 mlynedd, does gan Mrs Audrey Jones ddim bwriad roi gorau iddi.

"Dwi wedi rhoi fy mywyd i'r WI ac mae wedi chwarae rôl bwysig yn fy mywyd i. Yr uchafbwynt oedd cael bod yn Gadeirydd Cymru rhwng 2001-05 a chael cyfarfod y Frenhines, oedd yn aelod ei hun yn 2017 pan ges i'r MBE.

"Dwi wedi cael cymaint allan o'r WI ac mi faswn i wrth fy modd yn gweld aelodau newydd er mwyn sicrhau dyfodol iach i'r Sefydliad am y ganrif nesaf," meddai.

WI Llanfairpwll
Disgrifiad o’r llun,

Roedd aelodau Sefydliad y Merched wedi dod at ei gilydd ac yn croesawu pobl i ddiwrnod agored yn Llanfairpwll i ddathlu'r garreg filltir.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig