Posib bod Neil Foden wedi cam-drin am dros 40 mlynedd

Neil Foden yn cyfrannu i raglen BBC yn y 90au
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n bosib fod troseddu Neil Foden - yma yn y 90au - wedi dechrau'n llawer cynt na'r hyn oedd yn cael ei gredu

  • Cyhoeddwyd

Rhybudd: Mae cynnwys isod allai beri gofid

Mae'n bosib bod y pedoffeil Neil Foden wedi cam-drin disgyblion am dros 40 mlynedd, gyda phedair gwaith yn fwy o ddioddefwyr na'r hyn oedd yn cael ei gredu yn flaenorol.

Cafodd y cyn-brifathro ei garcharu am gam-drin pedwar o blant yng ngogledd Cymru rhwng 2019 a 2023.

Ond mae ymchwiliad gan raglen BBC Wales Investigates wedi clywed am honiadau o gam-drin yn dyddio yn ôl i 1979.

Yn ôl dwy fu'n siarad â BBC Cymru, fe gafon nhw wybod gan yr heddlu bod tua 20 o ddioddefwyr posib.

Mae pryderon difrifol hefyd wedi eu codi am adolygiad sydd wedi'i gynllunio i "ddysgu gwersi" o'r achos, er i Gyngor Gwynedd addo y byddai’r panel sy'n ei oruchwylio yn "cael yr holl wybodaeth sydd ei hangen".

Mae'r cyngor yn wynebu achosion cyfreithiol sifil gan ddioddefwyr Foden, allai gostio "miliynau" i'r awdurdod.

Roedd Jo - nid ei henw iawn - yn cyfnewid negeseuon gyda Foden hyd at y diwrnod y cafodd ei arestio.

Mae hi'n dweud bod ei phrifathro wedi meithrin perthynas amhriodol gyda hi am bum mlynedd.

Dywedodd fod hyn wedi dechrau pan fyddai hi'n cyfarfod ef yn ddyddiol yn ei swyddfa tra'n ddisgybl yn Ysgol Friars ym Mangor.

Byddai Foden hefyd yn ei danfon negeseuon ati o'i gyfrif e-bost personol a'i ffôn symudol.

"Mae tua 400-500 [o negeseuon] ar ei e-bost personol o i 'nghyfrif e-bost personol i," meddai Jo.

"Roedd yn ôl ac ymlaen bob dydd, yn yr ysgol, y tu allan i'r ysgol, yn y bore, gyda'r nos - unrhyw bryd.

"Roedd o'n gwneud i fi deimlo 'mod i'n sbesial."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Jo bellach wedi symud i ffwrdd o ogledd Cymru

Roedd Jo yn y system gofal ac yn cael ei hystyried yn blentyn bregus, ac mae'n dweud iddi gael ei thargedu gan Foden.

"Roedd fy iechyd meddwl ar ei isaf, ro'n i'n hunan niweidio... cael pyliau o banig bob dydd," meddai.

"Doedd gen i neb o 'nghwmpas, dim system cymorth.

"Mi fyddai o'n huggio i fi a do'n i ddim wastad eisiau nhw felly bydden i'n tynnu nôl, wedyn mi fyddai o'n tynnu fi mewn yn gryfach... a heb reswm, byddai ei ddwylo yn mynd o dan fy siwmper.

"Roedd o'n aml yn edrych ar fy mreichiau a fy nghoesau i weld os o'n i'n hunan niweidio.

"Os oedd hynny ar fy nghluniau - roeddwn i'n aml yn gwisgo sgert, ac mi fyddai o'n codi'r sgert i edrych arnyn nhw."

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Neil Foden ei garcharu am 17 mlynedd ym mis Gorffennaf 2024

Dywedodd Jo y byddai athrawon a staff eraill yn ei gweld hi yn mynd i mewn i'w gar ar ei phen ei hun.

Ychwanegodd: "Fe fydden nhw'n gwneud sylw am ba mor lwcus oeddwn i gael fo i fy ngyrru adref neu fy ngyrru i apwyntiadau.

"Byddai o'n rhoi ei law ar fy nghlun. Roedd cymaint o bethau na ddylai fod wedi digwydd."

Daeth Jo i wybod am faint ei gam-drin wedi i Foden gael ei arestio yn ei ysgol ym mis Medi 2023.

"Daeth yr heddlu ata i... roedden nhw'n dweud bod dros 20 o bobl eraill mewn sefyllfa debyg i fi," meddai.

Dywed Jo ei bod yn cael ei hystyried yn rhy fregus roi tystiolaeth yn erbyn Foden a dim ond nawr y mae hi'n dod i ddeall maint y gamdriniaeth.

Ffynhonnell y llun, Ffotograffwyr Buchanan
Disgrifiad o’r llun,

Mae un dioddefwr wedi dweud wrth BBC Cymru iddi gael ei cham-drin gan Neil Foden nôl yn 1979

Nia - nid ei henw iawn - oedd un o'r disgyblion cyntaf i Foden addysgu yn Ysgol Dyffryn Ogwen yn 1979.

Dywedodd y byddai Foden yn ei thargedu pan oedd y ddau ar eu pen eu hunain yn ei ystafell ddosbarth.

"Roedd o wedi dod i'r ddesg, sefyll tu ôl i fi... fel arfer byddai ei fraich dde yn rhwbio i fyny yn erbyn fy mron a ro'n i'n teimlo 'mod i ddim yn gallu symud," meddai.

"Fel plentyn 13 oed, do'n i ddim yn gwybod yn union beth oedd yn digwydd.

"O’dd gen i ofn ohono fo. Ro'n i'n fregus yr oedran yna ac yn naïf, ac roedd o'n gwybod hynny."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Nia wrth ein gohebydd Elen Wyn (dde) fod Foden wedi ei cham-drin am ddwy flynedd

Doedd Nia ddim wedi gwneud cwyn am Foden ar y pryd am ei bod hi'n meddwl na fyddai unrhyw un yn ei chredu, ond fe siaradodd gyda'r heddlu ar ôl iddo gael ei arestio yn 2023.

"Mae'r cam-drin yma wedi bod yn digwydd ers degawdau," meddai.

"Dydych chi ddim yn deffro yn sydyn yn 2019 ac yn penderfynu dod yn bedoffeil.

"Yr hynaf dwi'n mynd, y mwyaf dwi'n cydnabod beth sy'n digwydd i mi mewn perthnasoedd, gyda phartneriaid.

"Dydw i ddim yn gallu ymddiried yn unrhyw un... mi fydd hynny efo fi am oes."

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd Neil Foden yn euog o gam-drin pedair merch rhwng 2019 a 2023

Wedi i Foden gael ei garcharu am 17 mlynedd, dywedodd Cyngor Gwynedd y byddai adolygiad annibynnol yn "nodi pa wersi sydd i'w dysgu" er mwyn atal achosion tebyg.

Ond mae Jo a Nia yn dweud nad oes unrhyw un sy'n rhan o'r adolygiad hwnnw wedi cysylltu â nhw.

"Yn bendant mae angen iddyn nhw wneud rhywbeth mwy - dal pawb oedd yn atebol," meddai Jo wrth raglen BBC Wales Investigates.

"Dydi o ddim yn ddigon jyst i ddweud bod angen iddyn nhw wneud yn well - mae'n rhaid iddyn nhw gael eu gorfodi i wneud yn well."

Dywedodd bwrdd yr Adolygiad Ymarfer Plant eu bod yn "gwbl ymwybodol y gallai fod llawer o ddioddefwyr neu oroeswyr eraill" a'u bod eisiau clywed ganddyn nhw.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Kathryn Yates y gallai Cyngor Gwynedd gael "bil am filiynau" mewn iawndal am droseddau Foden

Mae Katherine Yates yn gyfreithwraig sy'n cynrychioli dwsin o bobl sy'n dweud eu bod nhw wedi dioddef oherwydd Foden, ac yn dwyn achosion cyfreithiol sifil yn erbyn ei gyflogwr Cyngor Gwynedd ar eu rhan.

"Mae cymysgedd o gam-drin rhywiol difrifol, cam-drin corfforol a cham-drin emosiynol," meddai.

"Mae'r cleient cyntaf bellach yn ei 50au, fy ieuengaf yw 14... mae'r cyngor yn atebol am weithredoedd eu gweithwyr."

Pe bai'r hawlio am iawndal yn llwyddiannus, yn ôl Ms Yates fe allai gostio miliynau o bunnoedd i'r cyngor.

"Mae ei weithredoedd [Foden] wedi cael effaith ar gymaint o fywydau - bywydau plant, eu teuluoedd, staff.

"Rwy'n credu y gallai ac y dylai fod wedi cael ei atal yn llawer cynt."

Adroddiad cyfrinachol

Yn ystod achos Foden daeth i'r amlwg bod uwch aelod o staff wedi codi pryderon am agosrwydd Foden at rai merched yn eu harddegau yn 2019 - gan rybuddio ei fod yn creu risg o fod yn destun cyhuddiadau.

Cafodd y pryder ei basio i Gyngor Gwynedd, ond penderfynwyd na fyddai ymchwiliad ffurfiol gan nad oedd honiadau penodol wedi eu gwneud.

Roedd 2019 yn flwyddyn bwysig yn y stori yma.

Tra fod Foden - fel yr ydyn ni bellach yn gwybod - yn cam-drin merched, honiadau ei fod o’n bwlio staff oedd yn cymryd sylw swyddogion Cyngor Gwynedd.

Roedden nhw wedi colli dau dribiwnlys cyflogaeth oherwydd Foden, felly fe gafodd adroddiad cyfrinachol ei gomisiynu i edrych ar y ffordd roedd yr ysgol yn cael ei rhedeg.

Mae sawl ffynhonnell wedi rhannu'r ddogfen yma gyda'r BBC. Doedd yr un o’r rheiny yn un o’r awduron, felly aeth BBC Cymru i chwilio amdanyn nhw.

Disgrifiad o’r llun,

"Ella 'sa petha' wedi bod yn wahanol" pe bai'r cyngor wedi gweithredu argymhellion yr adroddiad, meddai Michael Sol Owen

Roedd Michael Sol Owen o Bwllheli yn un. Fe dreuliodd dros ddeufis yn ymchwilio i Foden a'i ysgol.

"Roedd Foden, y llywodraethwyr ac i bob pwrpas y cyngor hefyd wedi colli achos yn y tribiwnlys, a be' oeddan nhw isio ni 'neud oedd sbïo ar yr amgylchiadau, ac ella yn fwy pwysig oedd llunio ffordd ymlaen allan o’r cawlach 'ma," meddai.

Dywedodd fod yr adroddiad wedi gwneud chwech o argymhellion, a phe bai'r cyngor wedi dilyn yr argymhellion hynny, "ella 'sa petha' wedi bod yn wahanol".

Ychwanegodd ei fod yn "synnu ei fod o [Foden] wedi cael gymaint o raff" o ystyried y rhybuddion.

"'Sa nhw [y cyngor] wedi gweithredu'r chwech argymhelliad oeddan ni wedi eu gwneud, ella fysa fo wedi cael ei ffrwyno," meddai.

"Dwi’m yn gwybod be' ddigwyddodd i’r adroddiad, ond efallai erbyn i Foden fynd i’r carchar, o'dd yr adroddiad ella yn hel llwch."

Yna yn 2020 cafodd Foden ei geryddu gan y rheoleiddiwr addysgu a'i wahardd gan ei undeb.

Ond flwyddyn yn ddiweddarach cafodd ei benodi'n bennaeth strategol ar Ysgol Dyffryn Nantlle, gan olygu ei fod yn goruchwylio dwy ysgol wahanol yng Ngwynedd.

Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch chi mae cymorth a chefnogaeth ar gael yma.

Dywedodd un aelod o staff, Rose - nid ei henw iawn - iddi siarad â Foden yn ei swyddfa ym mis Rhagfyr 2022 am fater personol.

"Roeddwn i wedi esbonio'r sefyllfa iddo... ac yna gofynnodd gwestiwn i mi am ryw - 'naeth hynny ddrysu fi ychydig," meddai.

"Byddai dy gyflogwr di ddim fel arfer yn gofyn cwestiwn i chi am ryw. Dydi hynny ddim yn rhywbeth normal, nac ydy?

"Roedd y cwestiynu wedyn fel 'O, druan a ti', ac fe roddodd o hug i fi, ac yna fe symudodd pethau i... wel ymosodiad rhywiol, i bob pwrpas...

"Fe wnaeth o jyst rhoi ei law lawr fy nhrowsus."

Dywedodd Rose na wnaeth hi adrodd y digwyddiad ar y pryd, ac er iddi siarad gyda'r heddlu ar ôl i Foden gael ei arestio, a arweiniodd at ei gyhuddo, ni chafodd ei hachos hi ei ddefnyddio yn y llys yn y pendraw.

Beth yw ymateb Cyngor Gwynedd?

Ar hyn o bryd mae Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru yn cynnal Adolygiad Ymarfer Plant i weld pa wersi sydd i’w dysgu.

O’r herwydd mae Cyngor Gwynedd yn dweud nad ydi’n briodol gwneud sylw, gan ychwanegu eu bod yn adolygu eu prosesau diogelu yn gyson i wneud yn siŵr fod pob ysgol yng Ngwynedd yn ddiogel.

Doedd yr Adolygiad Annibynnol ddim yn gwybod am Jo a Nia nes i dîm rhaglen Wales Investigates gysylltu efo nhw - maen nhw’n awyddus i siarad efo’r ddwy.

Mae Cyngor Gwynedd wedi gwrthod sawl cais am gyfweliad gan BBC Cymru.

Mewn datganiad dywedodd fel cyngor y bydd "dim carreg heb ei throi" i sicrhau y bydd bwrdd yr Adolygiad Ymarfer Plant yn cael "yr holl wybodaeth berthnasol sy'n cael ei chadw gan y cyngor ynglŷn â'r holl bryderon a godwyd".

"Ni fyddai'n briodol i Gyngor Gwynedd wneud sylw ar y mater penodol yma nes bod y Panel wedi gorffen eu gwaith," ychwanegodd llefarydd.

Pynciau cysylltiedig