Gigs mis Mehefin 2024

  • Cyhoeddwyd

Gyda thymor y gwyliau wedi dechrau'n gadarn ym mis Mai, mae'r baton wedi'i basio i fis Mehefin gyda sawl gŵyl gerddorol i ddod dros y pedair wythnos nesaf.

Yn ogystal â hynny bydd llawer o sêr mwya'r byd yn dod i Gymru mis yma.

Cynan Evans o dîm Gorwelion sydd wedi casglu rhai o'r uchafbwyntiau ynghyd.

Gŵyl Tawe

Ffynhonnell y llun, Gŵyl Tawe

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe - 8/6/24

Bydd llawer o dalentau cerddorol Cymru i'w gweld yng Ngŵyl Tawe, sy'n cael ei chynnal yn Amgueddfa Genedlaethol Y Glannau, ac yn para trwy’r dydd Sadwrn.

Ymhlith y perfformwyr mae Bitw, Breichiau Hir, Ci Gofod, a HMS Morris sydd ar ganol taith o Brydain ar hyn o bryd. Hefyd, a hwythau newydd ddychwelyd o Showcase Cymru yng ngŵyl The Great Escape yn Brighton bydd artistiaid megis Mellt ac N’Famady Kouyaté yn perfformio.

Am y tro cyntaf eleni, bydd yr ŵyl yn digwydd dros ddeuddydd, gan orffen gyda pharti yn y Bunkhouse, Abertawe ar nos Sul, 9 Mehefin, yng nghwmni'r grŵp Melin Melyn a’u cyfuniad unigryw o surf-rock, gwerin a pop seicedelig.

Gig Gŵyl Cefni

Ffynhonnell y llun, Gŵyl Cefni

Llangefni - 8/6/24

Mae Bwncath yn dychwelyd i Ŵyl Cefni unwaith eto eleni, y tro yma ar dop y bil!

Yn cefnogi Bwncath ar ddydd Sadwrn yr ŵyl flynyddol yn Llangefni mae'r hogia' lleol, Fleur De Lys, ac hefyd Y Cledrau, Ffatri Jam a llawer mwy o dalentau o'r ardal.

Hwn yw'r gig sy'n cloi'r ŵyl sy'n dechrau ddydd Mercher, 5 Mehefin. Bydd llawer yn digwydd yn y dref dros y pedwar diwrnod gan gynnwys gweithdai clocsio, cwis tafarn, nosweithiau comedi, lansiadau llyfrau a gemau chwaraeon fel rhan o weithgareddau’r wythnos.

Yws Gwynedd a Pys Melyn

Nid yw’r post yma ar YouTube yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar YouTube
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys YouTube.
I osgoi fideo youtube gan Lwp

Caniatáu cynnwys YouTube?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys YouTube.
Diwedd fideo youtube gan Lwp

Madryn, Chwilog - 8/6/24

Mae Yws Gwynedd a'i fand wedi hen ennill eu lle fel un o brif fandiau'r wlad, yn adnabyddus am eu caneuon bywiog a'u perfformiadau trydanol.

Daw'r gig hwn yn fuan wedi rhyddhau y sengl newydd, Bae, a chyn haf prysur o wyliau cerddorol i'r band.

Yn perfformio yn y gig hefyd mae'r band o Ben Llŷn, Pys Melyn, sydd wedi bod yn perfformio gyda'i gilydd ers yr oedden nhw yn yr ysgol.

Cafodd eu halbwm cyntaf, Bywyd Llonydd, ei enwi ar restr fer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig 2021.

Ym mis Awst cafodd eu hail albwm, Bolmynydd, ei ryddhau ac maent wedi teithio'n eang yn perfformio'n fyw ers hynny.

Chroma a Loose Articles

Ffynhonnell y llun, chroma

Clwb Ifor Bach, Caerdydd - 9/6/24

Cyn mentro ar lwyfan enfawr Stadiwm Emirates yn cefnogi Foo Fighters ar 13 Mehefin, bydd Chroma yn perfformio yn rhywle maen nhw'n hen gyfarwydd ag o sef Clwb Ifor Bach.

Rhyddhaodd Chroma eu halbwm cyntaf, Ask For Angela, y llynedd ar ôl blynyddoedd o gigio'n helaeth.

Mae Loose Articles, fydd hefyd yn cefnogi Foo Fighters, yn fand o Fanceinion.

Mae’r gig yma yn rhan o’u taith “Road To Foos Tour” a hwn fydd gig olaf y bandiau cyn eu noson fawr ym Manceinion.

Adjua

Ffynhonnell y llun, clwb ifor bach

Clwb Ifor Bach, Caerdydd - 14/6/24

Mae Adjua, sydd wedi derbyn clod am ei sain unigryw, yn cyfuno pop, soul, ac R&B.

Daw o ardal Splott yng Nghaerdydd. Mae'n cyfansoddi cerddoriaeth ers 2021 ac yn ddiweddar fe ryddhaodd hi EP o'r enw Self.

Mae hi'n cynhyrchu ei cherddoriaeth ei hun a dywedodd ei bod yn cael ei dylanwadu gan brofiadau bywyd a'i hysbrydolrwydd.

Yn ymuno ag Adjua ar y noson fydd Miss Faithee, Sahala a Generation Feral.

Gigs mawr yng Nghymru

Ffynhonnell y llun, John Shearer/TAS24
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Taylor Swift yn dod â'r Eras Tour i Gaerdydd ar 18 Mehefin

Take That, Olly Murs

Stadiwm Swansea.com – 6/6/24

P!nk

Stadiwm Principality – 11/6/24

The Smashing Pumpkins + Weezer

Castell Caerdydd – 14/6/24

Taylor Swift

Stadiwm Principality - 18/6/24

Bryan Adams

Llangollen – 18/6/24

Foo Fighters

Stadiwm Principality – 25/6/24

Manic Street Preachers a Suede

Llangollen – 28/6/24

Gwyliau eraill

Ffynhonnell y llun, roc y ddôl

Ffiliffest

Caerffili – 8/6/24

Gŵyl Maldwyn

Llangadfan – 21/6/24

Gŵyl Roc y Ddôl

Bethesda – 22/6/24

Gŵyl y Gwylliaid

Dinas Mawddwy – 28/6/24

Gŵyl Rhuthun

Rhuthun – 29/6/24