'Mae gen i brofiad o anhwylderau bwyta - a nawr dwi'n helpu eraill'

Cafodd Rhi ei chyfeirio at gwasanaeth anhwylder bwyta yn 22 oed
- Cyhoeddwyd
Fe gymrodd hi dair blynedd i Rhi Rennie-Morgan gael cymorth am anhwylder bwyta am nad oedd hi'n credu ei "bod hi'n ddigon tenau".
Saith mlynedd yn ddiweddarach, mae hi'n gweithio fel mentor i'r un gwasanaeth â chefnogodd hi.
"Rwy'n gwybod pa mor anodd yw cael anhwylder bwyta ac rwy'n gwybod beth mae fy mywyd i fel nawr," meddai Rhi, sy'n 29 oed.
"Byddaf yn dewis fy mywyd nawr dros un ag anhwylder unrhyw ddiwrnod."
- Cyhoeddwyd22 Chwefror
- Cyhoeddwyd27 Chwefror 2023
Datblygodd Rhi anhwylder bwyta yn 19 oed cyn cael ei chyfeirio at y gwasanaeth yn 22 oed.
Cafodd ei rhyddhau pan oedd hi'n 25 ac mae bellach yn briod gyda dau o blant.
"Mae anhwylder bwyta am dy feddylfryd, nid dy bwysau," meddai Rhi, sy'n gweithio i Seds ym Mwrdd Iechyd Aneurin Bevan.
Mae'r gwasanaeth arbenigol yn ehangu i dderbyn hunangyfeiriadau, gydag amseroedd aros am gefnogaeth mor isel â phedair wythnos.
"Dydy ein gwasanaeth ni ddim yn cael criteria BMI neu unrhyw beth," ychwanegodd Rhi.

Mae Emma-Jayne yn cydnabod bod cymaint o bobl yn byw gydag anhwylder bwyta "gael unrhyw gymorth"
Dywedodd Emma Jayne Hagerty, arweinydd clinigol y gwasanaeth yn ne-ddwyrain Cymru, bod ystadegau diweddar yn dangos bod gan un ym mhob 50 o bobl anhwylder bwyta.
Mae'n gweld bod dynion a menywod "o bob oedran, maint, siâp a phwysau" ond hefyd yn dweud "dydyn ni ddim yn gwybod gwir raddfa" y mater.
Pan ddechreuodd y gwasanaeth yn 2011, dim ond pobl oedd yn "cyflwyno risg uchel" oedd yn derbyn y gefnogaeth, meddai, tra bod cleifion risg isel mewn cyswllt gyda thimoedd iechyd meddwl yn y gymuned.
Gofal gyda geiriau
Dros y blynyddoedd mae cyllid gan Lywodraeth Cymru wedi caniatáu iddyn nhw ehangu'r gwasanaeth.
"Yn 2011, dechreuon ni fel tîm o bedwar gyda tua 30 o gleifion," meddai Emma.
"Nawr ry'n ni'n dîm o 25 gyda bron i 200 o gleifion – a dim ond canran bach ohonyn nhw sydd yn risg uchel.
"Does dim angen i chi gyrraedd y pwynt isaf i gael help. Y cynhara' allwn ni helpu pobl, y gorau oll."
Yn fwy diweddar, mae'r gwasanaeth wedi recriwtio gweithwyr cymorth gyda phrofiad o anhwylderau bwyta - naill ai fel claf neu gofalwr.

Dywed Ann y gallai geiriau o gefnogaeth gael eu camddehongli gan bobl sydd ag anhwylder bwyta
Fel y gweithiwr cymorth cyntaf ar gyfer anhwylderau bwyta yng Nghymru, dywedodd Ann Knapman, cyn-ddylunydd gwisg briodas, ei bod wedi "manteisio ar bob cefnogaeth" pan ddatblygodd ei merch ei hun anorecsia chwe blynedd yn ôl.
Mae ei merch Shauna, 24, bellach wedi cael ei rhyddhau o dîm Seds.
"Mae hi'n gwneud yn dda iawn ac yn bwyta'n iach," meddai Ann.
"Dydw i ddim yn mynd i ddweud nad yw'r meddyliau hynny byth yn codi, ond mae ganddi'r sgiliau i ymdopi â nhw a pheidio â gweithredu arnynt fwyach.
"Mae hynny'n anhygoel clywed o safbwynt mam, achos roedd 'na adegau pan roeddet ti'n poeni bod rhywun yn mynd i ddweud rhywbeth y byddai hi yn gweithredu arno".
Esboniodd y gallai hyd yn oed eiriau o gefnogaeth sydd â bwriad da gael eu camddehongli.
"Efallai y bydd rhywun yn dweud 'rydych chi'n edrych yn dda iawn' ond yn anffodus gall rhywun sydd ag anhwylder bwyta glywed hynny mewn ffordd hollol wahanol."
'Lwcus i gael cyllid cyson'
Mae Emma-Jayne yn cydnabod bod y gwasanaeth yn Aneurin Bevan wedi bod yn lwcus i gael cyllid cyson, ac nid yw pob gwasanaeth ar draws Cymru wedi bod mor ffodus.
Mae cyfeiriadau yn y rhan hon o Gymru yn cael ymateb ar unwaith ac asesiad dros y ffôn, gydag uchafswm aros o bedair wythnos i ddechrau ar raglenni ymyrraeth cynnar, sy'n cael eu symud o amgylch y pum bwrdeistref i wella mynediad.
Mae hi hefyd yn gweithio gyda Gweithrediaeth y GIG ar gynlluniau i ehangu sgiliau staff gofal iechyd ledled Cymru, yn ogystal â datblygu model Cymru gyfan ar gyfer ymyrraeth gynnar.
Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.