Anhwylderau bwyta: Galw am wella'r gofal 'anghyson' yng Nghymru

Byddai sefydlu canolfannau dydd yng Nghymru yn "gam yn y cyfeiriad cywir", yn ôl Lara Rebecca sydd wedi byw gydag anorecsia
- Cyhoeddwyd
Mae galwadau i gynyddu cyllid ar gyfer gwasanaethau anhwylderau bwyta yng Nghymru er mwyn gallu sefydlu canolfannau triniaeth dydd dwys "hollbwysig".
Ar hyn o bryd, mae canolfannau o'r fath ar gael yn Lloegr, ond ddim yng Nghymru, gyda'r elusen BEAT yn dweud y byddai'r canolfannau yn galluogi cleifion i dderbyn triniaeth yn eu cymunedau eu hunain.
Yn ôl Lara Rebecca, 24, gafodd driniaeth am anorecsia yn ei harddegau, byddai clinigau o'r fath "yn gam i'r cyfeiriad cywir".
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod astudiaeth ar uned anhwylderau bwyta ar gyfer Cymru gyfan yn cael ei chynnal ar hyn o bryd, ac y bydd opsiynau eraill hefyd yn cael eu hystyried, gan gynnwys triniaethau dydd dwys.

Dywedodd Lara nad oedd y driniaeth gafodd hi yn edrych "ar yr elfennau seicolegol wnaeth arwain at yr anhwylder bwyta yn y lle cyntaf"
Cafodd Lara Rebecca o Gaerdydd diagnosis o anorecsia pan yn 15 oed.
Wedi iddi gael diagnosis, dechreuodd dderbyn triniaeth fel claf allanol yn yr ysbyty, ond doedd y driniaeth ddim yn canolbwyntio ar yr elfen seicolegol, yn ôl Lara.
"Ges i driniaeth ond roedd y ffocws yn bennaf ar fy mhwysau, ar y bwyta ac ar y meal plans, yn hytrach nag edrych ar yr elfennau seicolegol wnaeth arwain at yr anhwylder bwyta yn y lle cyntaf," meddai.
'Pawb yn y teulu yn dioddef'
Fel rhan o'r driniaeth sy'n cael ei chynnig mewn canolfannau triniaeth dydd dwys yn Lloegr, mae triniaeth seicolegol a therapi teulu yn aml ar gael i gleifion.
Mae Lara yn credu y byddai hynny wedi bod o help mawr iddi hi.
"Er bod anhwylder bwyta yn rhywbeth mae'r unigolyn yn ei ddioddef, mae pawb yn y teulu yn dioddef hefyd," meddai.
"Fi'n cael trafodaethau nawr gyda fy nhad a gweld pa fath o impact cafodd e arno fe, a sut mae'r teulu yn ceisio helpu chi.
"Weithiau mae'n anodd achos dydyn nhw ddim yn gwybod sut i helpu, felly fi'n credu ei fod e'n daith y mae'n rhaid i'r holl deulu fynd arno."

Mae Lara bellach wedi sefydlu podlediad sy'n trafod iechyd meddwl, anhwylderau bwyta, iechyd a lles
Mae Lara yn dweud ei bod mewn "lle llawer gwell" bellach, ac mae hi wedi sefydlu podlediad i drafod iechyd meddwl, anhwylderau bwyta a iechyd a lles.
Yn eu hadroddiad diweddaraf ar wasanaethau anhwylderau bwyta dwys yng Nghymru, mae'r elusen BEAT yn nodi mai dim ond un bwrdd iechyd sy'n darparu'r lefel o ofal anhwylderau bwyta arbenigol sy'n cael ei argymell.
Mae'r adroddiad yn amlygu – oherwydd diffyg darpariaeth – bod 26 o oedolion sy'n byw yng Nghymru wedi cael eu symud i unedau y tu allan i'r wlad yn 2022/2023.
Fe gostiodd hyn £2,525,330 i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru.
Mae'r elusen yn galw am sefydlu canolfannau triniaeth dydd dwys yng Nghymru, gan ddweud y byddai'n "llawer rhatach i'r GIG".
Ychwanegodd yr elusen fod cleifion sy'n derbyn triniaethau dydd dwys yn aml yn gwella'n well, gan ganiatáu i gleifion barhau i fyw gartref a chadw cysylltiad â theulu a ffrindiau.

Tra'n derbyn triniaeth am anorecsia, cafodd Molly Leonard ei chyfeirio at ysbytai arbenigol ar draws y DU
Cafodd Molly Leonard, 26 o'r Rhws, ddiagnosis o anorecsia pan yn 19 oed.
Tra'n derbyn triniaeth ddwys, cafodd Molly ei chyfeirio at ysbytai arbenigol ar draws y DU, gan gynnwys canolfannau ym Mryste a Glasgow.
Mae'n credu y byddai wedi gwella'n gynt pe bai wedi gallu cael mynediad i uned o'r fath yn ei chymuned ei hun.
"Fe allwn i wir fod wedi gwneud gyda system gefnogaeth yn lle roeddwn i'n byw, gyda theulu a ffrindiau o'n nghwmpas", meddai.
"Pe bai hynny ar gael dydw i ddim yn meddwl y byddwn i wedi dioddef am gyment o amser.
"Pan fyddwch chi'n mynd mor bell i ffwrdd, rydych chi mewn swigen, ac nid yw'n teimlo'n real, nid ydych chi'n teimlo fel chi'ch hun, felly mae'n anodd iawn dychwelyd i unrhyw fath o normalrwydd."

Mae'r driniaeth sydd ar gael yng Nghymru yn "anghyson", meddai Jo Whitfield, arweinydd cenedlaethol BEAT yng Nghymru
Dywedodd Jo Whitfield, arweinydd cenedlaethol BEAT yng Nghymru, fod y driniaeth ddwys sydd ar gael yng Nghymru yn "anghyson" ac mae hi'n galw am fwy o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru.
"Nid yw'n deg. Mae angen mynediad cyfartal i driniaeth ddwys i bobl ifanc ledled Cymru," meddai.
Ychwanegodd fod uned anhwylderau bwyta wyth gwely i fenywod wedi'i sefydlu yng Nglynebwy, ond "nad yw hynny'n ddigon".
"Rydym yn cydnabod ei fod yn cymryd amser, ond nid yw'n ddigon. Ni'n galw am fuddsoddiad penodol ar lefel genedlaethol ar gyfer canolfannau dydd dwys i drin anhwylderau bwyta, fel bod modd sefydlu rhwydwaith o'r canolfannau hynny ledled Cymru, fel y gall pobl dderbyn y driniaeth honno yn y gymuned."
'Parhau i ystyried yr holl opsiynau sydd ar gael'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi bod yn datblygu model triniaeth ymyriad cyntaf ar gyfer pob bwrdd iechyd.
"Bydd hyn yn canolbwyntio ar salwch sy'n dod i'r amlwg yn ystod y cyfnodau cynnar, gyda'r nod o atal yr angen am ofal cleifion mewnol a thriniaeth dydd dwys," meddai'r llefarydd.
"Yn ogystal, mae gwaith yn parhau ar yr astudiaeth ddichonoldeb ar uned anhwylderau bwyta Cymru gyfan a bydd yn ystyried y dewisiadau eraill, megis triniaethau dydd dwys.
"Rydyn ni'n gwybod mai dim ond un opsiwn yw triniaethau cymunedol a thriniaethau dydd dwys, a bydd ein byrddau iechyd yn parhau i ystyried yr holl opsiynau sydd ar gael i sicrhau bod pawb sydd angen triniaeth yn ei gael."
Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd27 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2021