Geid i ogledd Cymru... yn ôl 'Tad Twristiaeth' yr 1700au
- Cyhoeddwyd
Eisiau teithio gogledd Cymru fel twrist o'r 18fed ganrif? Wel dyma eich cyfle...
Yn 1784, cyhoeddodd Thomas Pennant A Tour in Wales, oedd yn trafod ei deithiau ledled y wlad. Roedd y gyfrol yma, ynghyd â rhai o'i gyfrolau teithio eraill, yn cael eu defnyddio gan dwristiaid y cyfnod, a fyddai'n ail-greu ei deithiau.
Mary-Ann Constantine, Athro yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd sy'n ein tywys ar daith i rai o'r lleoedd oedd yn cael eu crybwyll yn y llyfr, gan roi blas i ni o farn Thomas Pennant amdanyn nhw:
Thomas y teithiwr
Pwy oedd Thomas Pennant? Ffigwr pwysig yn hanes Cymru, os braidd yn anghofiedig erbyn hyn. Yn ystod y ddeunawfed ganrif daeth yn naturiaethwr, awdur a hynafiaethydd o fri, gan gyhoeddi cyfres o deithiau arloesol drwy Ynysoedd Prydain.
Plasty Downing ger Treffynnon, Sir y Fflint, oedd stad y teulu, ac yno y bu'n byw tan ei farwolaeth yn 1798.
Roedd yn sylwebydd craff am fyd natur, a chasglai sbesimenau o blanhigion, mwynau, adar a chregyn; llawer ohonynt bellach dan ofal yr Amgueddfa Naturiaeth yn Llundain. Roedd ganddo rwydwaith rhyngwladol eang yn cynnwys gwyddonwyr mwyaf blaenllaw ei gyfnod.
Ond mae’n adnabyddus heddiw hefyd am ei ddisgrifiadau o deithiau yn yr Alban yn 1769 ac 1772 (Tours in Scotland) ac am ei deithiau yng Nghymru yn 1778-1784.
Teithiai ar gefn ceffyl, ar droed ac, yn Ynysoedd y Gorllewin yn yr Alban, mewn cychod, i lefydd nad oeddynt yn gyfarwydd i lawer iawn o bobl Brydeinig.
Cydweithiodd â’r arlunydd Moses Griffith ac eraill i sicrhau fod y disgrifiadau ysgrifenedig yn ymddangos ochr yn ochr â delweddau o dirluniau, adeiladau neu greaduriaid.
Bu’r ysgrifau hyn yn hynod ddylanwadol ar deithwyr diweddarach i Gymru a’r Alban – dyma un rheswm dros alw Pennant yn ‘Dad Twristiaeth’.
Dewch ar daith i ymweld â rhai llefydd sydd bellach yn hen gyfarwydd i dwristiaid ein dyddiau ni a’u gweld yn newydd, trwy lygaid y gorffennol.
Castell Caernarfon
Lle amwys ydy Castell Caernarfon, wrth reswm: adeilad ysblennydd, ond safle hanesyddol sy’n crynhoi cymhlethdodau hanes Cymru ar adeg tyngedfennol. Mae Pennant yn hanesydd synhwyrol, sydd yn cydnabod y ffaith bod sawl persbectif ar drais y gorffennol; mae hyn i'w weld yn rhai o’i sylwadau treiddgar am dref a chastell Caernarfon.
This town is justly the boast of North Wales, for the beauty of situation, goodness of the buildings, regularity of the plan, and, above all, the grandeur of the castle, the most magnificent badge of our subjection.
...
It was built within the space of one year, by the labour of the peasants, and at the cost of the chieftains of the country, on whom the conqueror imposed the hateful task.
Ffynnon Gwenffrewi, Treffynnon
Dyma Pennant yn ymhyfrydu mewn safle arbennig, rhyfeddol, yn ei filltir sgwâr ei hun. Yn ôl y chwedl, crëwyd ffynnon newydd pan dorrwyd pen Gwenffrewi. Gosododd ei hewythr, Sant Beuno, ei phen yn ôl ar ei hysgwyddau a daeth y ffynnon yn lle pererindod hyd heddiw.
Mae Pennant yn adrodd y chwedl yn ddigon bywiog, ond mae’n ofalus, fel gwyddonydd, i daflu dŵr oer ar y gwyrthiau, gan ganmol rhinweddau ymdrochi mewn dŵr ffres.
Mae’n rhoi sylw manwl at y planhigion sy’n tyfu yn y ffynnon, ac i ddiwydiant brysur y melinau a’r gweithfeydd sy’n cael eu gyrru gan rym ac egni’r nant.
THE severed head took its way down the hill, and stopt near the church. The valley, which, from its uncommon dryness, was heretofore called Sych nant, now lost its name.
A spring of uncommon size burst from the place where the head rested. The moss on its sides diffused a fragrant smell. Her blood spotted the stones, which, like the flowers of Adonis, annually commemorate the fact, by assuming colors unknown to them before.
Copa’r Wyddfa
Tybed faint o bobl sydd wedi dringo’r Wyddfa a chael eu siomi gan y niwl? Roedd disgrifiad Pennant o’i daith i fyny yn hynod boblogaidd, efallai am ei fod wedi cyfuno dau achlysur gwahanol: un ar ddiwrnod hynod glir a braf, pan welodd y cyfan ‘extended like a map beneath us, every rill visible’ - ond y llall dan amgylchiadau tra gwahanol!
ON this day, the sky was obscured very soon after I got up. A vast mist enveloped the whole circuit of the mountain. The prospect down was horrible. It gave an idea of numbers of abysses, concealed by a thick smoke, furiously circulating around us.
Very often a gust of wind formed an opening in the clouds, which gave a fine and distinct vista of lake and valley. Sometimes they opened only in one place; at others, in many at once, exhibiting a most strange and perplexing sight of water, fields, rocks, or chasms, in fifty different places.
They then closed at once, and left us involved in darkness: in a small space, they would separate again, and fly in wild eddies round the middle of the mountains, and expose, in parts, both tops and bases clear to our view.
Traeth Mawr
Nid o gopa'r Wyddfa yn unig oedd cael golygfeydd cyffrous. Wrth groesi tywodydd peryglus Traeth Mawr – hen lwybr rhwng Sir Gaernarfon a Meirionnydd, a oedd yn cael ei ddefnyddio pan oedd y llanw ar drai - mae Pennant yn rhyfeddu at uchder a grym y mynyddoedd pan y gwelodd nhw o lefel y môr.
The view from the middle of the sands towards Snowdonia is most extravagantly wild. Mountain rises above mountain, exposing the most savage and barren aspect imaginable, naked, precipitous, and craggy.
Mae Teithiau Pennant yn ein hatgoffa am hen ffyrdd o groesi Cymru, llwybrau sydd wedi diflannu wrth i adeiladwaith y wlad newid a moderneiddio. Nid yw twristiaid heddiw yn darganfod tirweddau Cymru yn yr un modd â’r rhai a ddaeth o’u blaenau ganrifoedd yn ôl.
Ond mae’n hwyl, weithiau, cymryd darn o ysgrifau Pennant a cheisio ei ddilyn cam wrth gam; weithiau gan synnu at drawsnewidiadau rhyfeddol hanes; weithiau gan adnabod y llefydd yn ei ddisgrifiadau fel hen ffrindiau.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd11 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd4 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd5 Mawrth 2024