Y Corn Hirlas - beth ydi o, ac ydych chi'n gymwys i'w gario?
- Cyhoeddwyd
Ydych chi'n gallu symud yn urddasol a gosgeiddig i gyfeiliant telyn ac yn rhydd ddechrau Awst 2026? Os felly mae'n bosib y byddwch chi'n gymwys i gario'r Corn Hirlas yn seremonïau'r Eisteddfod Genedlaethol.
Mae Gorsedd Cymru yn chwilio am unigolion i lenwi nifer o swyddogaethau yn Sir Benfro flwyddyn nesaf - gan gynnwys Cyflwynydd y Corn Hirlas.
A bydd unrhyw ddarpar ymgeisydd yn falch o gael gwybod bod Cymru Fyw wedi gwneud rhan o'u gwaith cartref ynglŷn â chefndir y rôl - a chael gair efo rhywun sydd wedi bod yn rhan o'r seremonïau fel Archdderwydd a bardd cadeiriol…
Felly beth ydi'r Corn Hirlas? Yn syml - corn anifail.
Corn Buelyn oedd yr hen enw - sy'n dod o'r gair bual, yr ych gwyllt oedd yn arfer byw ym Mhrydain.
Corn anifail sy'n cael ei ddefnyddio hyd heddiw. Mae un llai yn cael ei ddefnyddio gan Orsedd Llydaw, sy'n ffodus i urddas y ddefod o bosib gan fod hwnnw yn cael ei lenwi gyda seidr.
Mae'n cael ei gario gan Gyflwynydd y Corn Hirlas - Mam y Fro tan y newidiadau diweddar i'r Orsedd - a'i gynnig i'r Archdderwydd yn seremoni'r Cyhoeddi. Yn ystod seremonïau'r Orsedd yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol, y llenorion buddugol sy'n cael y cynnig i 'yfed' o'r corn a hynny ar ôl y ddawns flodau.
Mae'r ddefod yn symbol o groeso ac yn hen draddodiad ers ymhell cyn i'r Eisteddfod ei fabwysiadu. Mae cyfeiriadau at gyrn mewn gwleddoedd yng nghywyddau Beirdd yr Uchelwyr ac yn awdlau Beirdd y Tywysogion, ond mae'r arferiad yn llawer hŷn.
Fel cyn-Archdderwydd ac un sydd wedi ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith, mae Myrddin ap Dafydd yn hen gyfarwydd â'r seremonïau ac yn dweud bod gan y Corn Hirlas rôl bwysig iawn.
"Mae'n ein cysylltu gyda'r croeso traddodiadol - cynnig dracht i westeion," meddai. "Mae'n mynd â ni yn ôl i lysoedd y tywysogion Cymreig ac i gyfnod y llwythau Celtaidd.
"Yn y Cyhoeddi yn Aberteifi - y tro cyntaf i mi weinyddu'r ddefod - mi dderbyniais y Corn drwy ddweud 'Iechyd da!' wrth y cyflwynydd. Roedd hynny yn swnio'n hollol naturiol i mi. Mi gadwais at hynny wedyn ymhob defod."
Does dim rhaid i'r Archdderwydd na'r beirdd buddugol ddweud na gwneud dim byd penodol - ac mae'n gallu amrywio.
Meddai Myrddin: "Mae'n ddifyr gweld sut mae Prifeirdd yn ymateb i gael cynnig y Corn yng nghanol defod coroni, cadeirio neu fedal. Mae rhai yn gwenu a nodio a dyna fo. Bydd eraill yn ymestyn eu breichiau, cyffwrdd y corn a thynnu yn ôl.
"Alan Llwyd ym Moduan oedd yr un wnaeth roi gwên ar fy wyneb i. Mi gydiodd yn y corn, ei gymryd oddi ar y Cyflwynydd, a'i godi a'i wagio yn ei ddychymyg cyn ei ddychwelyd. Dyna sut mae ennill tair cadair!"
Y dyddiad cau i wneud cais ydi 23 Ionawr a bydd clyweliadau a chyfweliadau yn cael eu cynnal fis Chwefror.
Felly beth yw'r gofynion a rôl y cyflwynydd?
Mae'n rhaid dod o fro'r Eisteddfod (sef Penfro yn 2026) a chael ymroddiad i gefnogi gwaith yr eisteddfod o hyrwyddo'r iaith a diwylliant Cymraeg.
Bydd angen bod ar gael ar gyfer y Seremoni Cyflwyno fis Mai ac wythnos yr Eisteddfod ddechrau Awst. Mae angen gallu symud yn "urddasol a gosgeiddig i gerddoriaeth araf y delyn" a llefaru'r cyflwyniad ar eu cof - gan gynnwys:
"Hybarch Archdderwydd, yn enw Aelwydydd Sir Benfro, gofynnwn i ti yfed o win ein croeso i'r Orsedd a'r Eisteddfod."
Pob lwc!
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Awst 2024
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2024