Tymor newydd i ranbarthau Cymru, ond ai hwn fydd yr olaf?

Rhanbarthau
  • Cyhoeddwyd

Mae hi wedi bod yn haf cythryblus i'r rhanbarthau, wrth i Undeb Rygbi Cymru (URC) ystyried torri nifer y timau o bedwar i ddau fel rhan o'u hadolygiad i'r gêm elît.

Mae cyfnod ymgynghori ar y cynlluniau, sy'n bygwth dyfodol Caerdydd, y Dreigiau, y Gweilch a'r Scarlets, yn cau ar ddiwedd y mis, gyda'r cyfle i ymateb i arolwg agored wedi dod i ben ddydd Gwener.

Wrth i dymor newydd y Bencampwriaeth Rygbi Unedig ddechrau y penwythnos hwn, bydd pedwar rhanbarth Cymru yn dyfalu, ai hwn fydd yr olaf iddyn nhw?

Cymaint yw'r cryfder teimlad yn erbyn yr awgrymiadau, mae cyn-chwaraewr sydd bellach yn ohebydd yn credu y gallai URC wneud tro pedol.

Mae'r undeb yn mynnu nad oes penderfyniad terfynol wedi'i wneud, ond mae disgwyl eglurder o ran beth fydd dyfodol rhanbarthau Cymru yn yr hydref.

Jac MorganFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe symudodd Jac Morgan i'r Gweilch o'r Scarlets yn 2021

Ddydd Iau daeth i'r amlwg fod Jac Morgan - capten y tîm cenedlaethol - wedi dweud wrth URC ei fod yn barod i adael y wlad pe bai'r Gweilch yn diflannu.

Daeth y manylion i'r amlwg yn ystod sesiwn drafod rhwng swyddogion y Gweilch a'r cefnogwyr yr wythnos hon.

Gyda chytundeb Morgan yn dod i ben ddiwedd y tymor mae prif hyfforddwr y Gweilch, Mark Jones, yn awyddus i'w weld yn aros.

"Mae'n fachgen gonest iawn ac mae'n caru'r Gweilch.

"Dyw e ddim wedi dweud hynny wrtha i'n swyddogol ond os yw e wedi, yna mae'n dangos faint mae'n caru ei gyd-chwaraewyr a faint mae e'n caru'r Gweilch.

"Dwi'n meddwl y dylai gael ei ganmol am hynny - os yw wedi dweud hynny.

"Byddai rygbi Cymru a'r Gweilch wrth eu boddau yn cael Jac yn y tîm hwn am flynyddoedd i ddod."

'Dan bwysau o bob cyfeiriad'

Mae'r cyn-chwaraewr a'r gohebydd rygbi, Rhodri Gomer, o'r farn y gallai pethau newid.

"Mae rhyw deimlad gyda fi fod 'na rywfaint o dro pedol yn mynd i ddod.

"Maen nhw o dan bwysau o bob cyfeiriad... falle tamed bach yn naïf i feddwl bo' nhw'n gallu gwthio hyn trwyddo mor hawdd.

"Os y'n nhw yn newid eu meddyliau, mae'n rhaid i chi eu canmol am hynny, a fi wir yn gobeithio 'na awn ni lawr i ddau ranbarth."

Disgrifiad,

Yn ôl Dwayne Peel does "dim synnwyr" i rygbi yng Nghymru barhau heb y Scarlets, tra bod Josh Adams yn dweud ei bod yn bwysig fod gan bawb lais yn yr ymgynghoriad

Pen arall i Afon Llwchwr, yr un yw'r pryder ynglŷn â'r cynigion radical i ailwampio rygbi proffesiynol.

Mae'r argymhellion wedi achosi llawer o ansicrwydd, yn enwedig ymhlith chwaraewyr a hyfforddwyr - pobl y mae eu bywoliaeth yn ddibynnol ar y gêm.

Dywedodd Dwayne Peel, prif hyfforddwr y Scarlets ei fod yn "credu bod pryder ymhlith y staff a'r chwaraewyr a'r cefnogwyr".

"Ni 'di trio bod yn glir gyda'r chwaraewyr beth y'n ni'n trafod a beth yw trafodaethau'r clwb gyda'r undeb.

"I fod yn deg, mae'r trafodaethau wedi bod yn iach hyd yn hyn."

Ychwanegodd ei fod yn "gweld dim synnwyr bod y gêm yn mynd 'mlaen yng Nghymru heb glwb fel y Scarlets".

Josh MacleodFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n rhaid i chwaraewyr "ganolbwyntio ar y gêm dydd Sadwrn, wythnos nesaf a'r wythnos ar ôl", medd Josh Macleod

Dywedodd Josh Macleod, capten y Scarlets, nad y chwaraewyr sy'n gwneud y penderfyniad.

"Mae just rhaid i ni ganolbwyntio ar beth sy'n digwydd o ddydd i ddydd," meddai.

"So, mae'n rhaid i ni ganolbwyntio ar y gêm dydd Sadwrn, wythnos nesaf a'r wythnos ar ôl.

"Beth bynnag sy'n dod mas o' fe - ni'n gallu delio gyda fe wedyn," meddai Macleod.

Bydd barn cefnogwyr y Scarlets i'w chlywed yn glir brynhawn Sadwrn, wrth i orymdaith gael ei threfnu cyn y gêm yn erbyn Munster.

Filo TiatiaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Filo Tiatia, mae carfan y Dreigiau'n canolbwyntio ar yr hyn y maen nhw'n gallu ei reoli

Wedi gemau cyfeillgar yr haf, mae'r Dreigiau'n edrych ymlaen at eu gêm gystadleuol gyntaf o'r tymor nos Wener oddi cartref yn erbyn Ulster.

Mae'n gyfle i ganolbwyntio ar faterion ar y cae yn lle'r holl drafod cyhoeddus a dyna maen nhw'n canolbwyntio arno, yn ôl y Prif Hyfforddwr, Filo Tiatia.

"Rydym yn canolbwyntio ar wella ein crefft fel grŵp a dyna beth allwn ei reoli" meddai.

Dywedodd fod ganddyn nhw chwaraewyr sydd wedi bod yn rhan o'r ymgynghoriad ac yn rhan o Gymdeithas Chwaraewyr Rygbi Cymru (WRPA).

"O ran beth sy'n digwydd gyda URC, ni am adael hwnna i'n Cadeirydd a'n Prif Swyddog Gweithredol ac fe newn nhw ymladd y frwydr" meddai.

Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Hannah (chwith), chwaer Gareth (dde) yn poeni y bydd yn colli rhan ohoni hi ei hun pe bai'r Dreigiau'n diflannu

Mae Gethin wedi bod yn rhan o gymuned y Dreigiau ers 12 mlynedd ac yn chwarae dros y tîm dan 18 oed.

Dywedodd fod "hyfforddwyr fel Ceri Jones yn helpu hybu fy nhalent a fy niddordeb mewn rygbi ac mae hwn yn rhywbeth all ddiflannu - oherwydd mae'r timau yn mynd lawr i ddau.

"Os neith hynny ddigwydd gall gyrfa neu gyrfa potensial fi mewn rygbi ddiflannu o fewn eiliadau" meddai.

Mae ei chwaer, Hannah, yn poeni am golli'r gwmnïaeth sydd ynghlwm â'r rhanbarth:

"Mae'n teimlo fod colli'r Dreigiau fel colli rhan o'n teulu ni. Mae'n rhywbeth ni'n neud sy'n dod â ni at ein gilydd ac mae'n rhywbeth fi a Geth yn gallu siarad amdano a bron bondo dros.

"Ac mae'n teimlo fel bod rhan o' fi yn cael ei golli wrth golli'r Dreigiau.

"Dwi ddim yn chwarae ond dwi'n cefnogi a fi'n rhan o'r gymuned ac mae mor bwysig i'r teulu a fi methu dychmygu colli hwnna," ychwanegodd.

Josh AdamsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Josh Adams yn dweud bod ymarfer wedi bod yn dda a bod y garfan yn edrych ymlaen at chwarae

Yn y brif ddinas, mae tipyn o newidiadau wedi bod eisoes - yr undeb sydd yng ngofal y rhanbarth bellach ar ôl i'r clwb fynd i ddwylo'r gweinyddwyr.

Hefyd, ddeuddydd yn ôl fe adawodd eu prif hyfforddwr Matt Sheratt er mwyn ymuno â thîm hyfforddi Cymru'n llawn amser gyda rhai'n cwestiynu amseriad y cyhoeddiad.

Yn ôl asgellwr Cymru a Chaerdydd, Josh Adams, "'sdim amser perffaith i ddweud y gwir, os mae'n cael ei wneud dechrau'r tymor, diwedd y tymor, hanner ffordd trwyddo - mae'n mynd i ddigwydd".

Ond, o ran "y ffordd ni'n ware nawr bydd dim byd yn newid," ychwanegodd.

"Mae'n bwysig fod pawb yn cael llais yn hwn (yr ymgynghoriad) a s'mo fi'n credu bod e'n newid ysbryd ni, ni'n really edrych 'mlaen at ware a ni moyn dechre'n dda.

"Mae ymarfer 'di bod yn dda, mae chwaraewyr just ishe ware rygbi," pwysleisiodd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.