Newidiadau URC: Galw am eglurder i rygbi yn y gogledd

Rygbi Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer yn gofyn beth fydd y dyfodol i ranbarth Rygbi Gogledd Cymru fel rhan o unrhyw newidiadau

  • Cyhoeddwyd

Wrth i Undeb Rygbi Cymru (URC) ymgynghori ar ddyfodol y gêm broffesiynol, mae cyn-gadeirydd y sefydliad yn galw am fwy o eglurder i'r haenau o dan y lefel elît.

Yn y gogledd mae nifer yn gofyn beth fydd y dyfodol i ranbarth Rygbi Gogledd Cymru (RGC), a gafodd ei sefydlu 15 mlynedd yn ôl i ddatblygu chwaraewyr proffesiynol.

Bydd ymgynghoriad URC yn dod i ben ddiwedd y mis.

Dywedodd Undeb Rygbi Cymru fod rygbi yn y gogledd yn "bwysig iawn" a'u bod wedi bod yn rhoi dros £1m y flwyddyn i'r gogledd.

'Canolbwyntio fwy ar egluro'

Yn ôl Gareth Davies, fu'n gadeirydd URC tan 2020, mae angen "negeseuon positif" gan yr undeb i'r gymuned rygbi y tu hwnt i'r lefel broffesiynol.

"Fydden ni'n meddwl dylen nhw ganolbwyntio fwy ar trial egluro beth sy'n mynd 'mlân," meddai.

"Ar y funud 'na gyd ni'n gael yw'r headlines fel petai, o beth yw'r opsiynau'n mynd i fod.

"Lot o bwyslais ar bedwar neu ddau neu dri rhanbarth, ac wrth gwrs mae lot o rygbi tu cefn i hwnna - y gêm gymunedol, y gêm ieuenctid, y gêm yng ngogledd Cymru.

"Felly fydden i'n dweud bod angen fwy o siarad a mwy o negeseuon positif i fynd mas i'r gymuned rygbi."

Gareth Davies
Disgrifiad o’r llun,

"Os na ddigwyddith dim byd positif i rygbi yng ngogledd Cymru, fe fyddai hi'n dipyn o drueni," meddai Gareth Davies

Dywedodd Mr Davies ei fod yn enwedig yn awyddus i weld mwy yn cael ei wneud i wella'r systemau rygbi yn y gogledd fel rhan o unrhyw newidiadau posib.

"Os na ddigwyddith dim byd positif i rygbi yng ngogledd Cymru, fe fyddai hi'n dipyn o drueni," meddai.

"Chi'n edrych ar draean y boblogaeth, ac er falle nad oes cymaint yn chwarae'r gêm â sy'n y de, falle bo' cyfrifoldeb [ar yr undeb] i edrych i wella pethau yn y gogledd a gobeithio - o dan unrhyw ailstrwythuro - y bydd 'na rywfaint o ganolbwyntio, o bwyslais ar rygbi yn y gogledd."

Beth yw'r opsiynau?

Fis diwethaf, fy gyhoeddodd Undeb Rygbi Cymru eu bod nhw'n ymgynghori ar ailstrwythuro'r lefel broffesiynol, gyda phedwar model yn cael eu cynnig.

Mae'r undeb yn ffafrio haneru nifer y rhanbarthau presennol o bedwar i ddau fydd â chyllid cyfartal (Model D).

Yr opsiynau eraill sy'n cael eu cynnig yw pedwar clwb proffesiynol gyda chyllid anghyfartal (Model A), tri chlwb proffesiynol gyda chyllid cyfartal (Model B) neu dri chlwb proffesiynol gyda chyllid anghyfartal (Model C).

Byddai Model A ac C yn cynnwys rhanbarthau datblygu, sef y statws sydd gan ranbarth RGC ar hyn y bryd.

Billy McBride
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Billy McBride, mae chwaraewyr RGC yn poeni am eu dyfodol

Yn ôl un o chwaraewyr y rhanbarth hwnnw, Billy McBryde, mae'r ansicrwydd presennol yn golygu bod rhai chwaraewyr yn debygol o fynd i chwarae mewn gwledydd eraill.

"Mae'n anodd. Fel chwaraewr, 'dan ni'n poeni amdan dyfodol ni yma.

"Os ti'n 17, 18 oed yn tyfu fyny, ti'm yn gweld y golau ar hyn o bryd, a mae hwnna'n pwsho pobl i fynd dros y bont [i Loegr] neu i Ffrainc a llefydd fel 'na."

Caio Parry
Disgrifiad o’r llun,

Mae Caio Parry yn dweud y byddai'n dda cael gwybod beth yw bwriad Undeb Rygbi Cymru gyda RGC

Un o chwaraewyr y rhanbarth ers pan yn ei arddegau ydy Caio Parry.

"Fysa fo'n neis gallu gwybod be' ydy'r plan," meddai.

"Gallu gwbod be' ydy dyfodol gogledd Cymru o ran, ydy o'n mynd i fod yn 'pro' region neu ddim?

"Achos dyna ydy gôl ni fel tîm ydy gallu bod yn broffesiynol."

Alun Pritchard
Disgrifiad o’r llun,

"Does dim trafodaethau wedi bod gyda ni hyd yma," medd Alun Pritchard

Dydy'r rhanbarth ddim wedi cael unrhyw gyswllt gan URC hyd yn hyn ynglŷn â'r ymgynghoriad, yn ôl rheolwr cyffredinol RGC, Alun Pritchard.

"Does dim trafodaethau wedi bod gyda ni hyd yma.

"Mae'n anodd, o ran cyllidebau, strwythur staffio.

"Ond be' 'dan ni'n trio wneud ydy canolbwyntio ar yr elfennau positif.

"'Dan ni'n gweld hyn fel cyfle go iawn i rygbi yng ngogledd Cymru.

"Petai chi'n cymharu'r cryfderau a'r gwendidau yma, mae 'na gyfle gwirioneddol i'r gamp yn y gogledd."

Geraint John
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Geraint John o URC fod rygbi yn y gogledd wedi bod yn derbyn dros £1m y flwyddyn

Yn ôl Geraint John, cyfarwyddwr cymunedol i Undeb Rygbi Cymru, maen nhw'n cydnabod fod "y gogledd yn bwysig iawn".

"Ni'n gwybod bod llawer o chwaraewyr a chlybiau yn y gogledd - mae lot o bobl yn chwarae 'na.

"Ond hefyd dros y 10 mlynedd ddiwethaf ni wedi rhoi llawer o arian i Rygbi Gogledd Cymru - dros £1m bob blwyddyn i helpu talu am y staff, helpu'r chwaraewyr, helpu academi'r bechgyn a'r merched, ysgolion.

"Mae e'n bwysig i ni fel undeb."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.