'Cynlluniau Undeb Rygbi Cymru yn gyrru talent o Gymru'

Chwaraewyr rygbi Cymru yn JapanFfynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Buddugoliaeth Cymru yn erbyn Japan ym mis Gorffennaf oedd eu buddugoliaeth brawf gyntaf ers trechu Georgia yng Nghwpan Rygbi'r Byd ym mis Hydref 2023

Mae Cymdeithas Chwaraewyr Rygbi Cymru (CCRC) wedi dweud wrth Undeb Rygbi Cymru (URC) bod eu cynigion ar gyfer y gêm elitaidd yn mynd i "yrru talent o Gymru".

Ar hyn o bryd mae cyfnod ymgynghori ar y cynlluniau sy'n bygwth torri nifer y timau dynion proffesiynol o'r pedwar presennol sef Caerdydd, y Dreigiau, y Gweilch a'r Scarlets i ddau.

Mae URC yn bwriadu cyhoeddi y penderfyniad terfynol ddiwedd mis Hydref ac mae hynny'n golygu y bydd rhan gyntaf y Bencampwriaeth Rygbi Unedig (PRU) yn cael ei chwarae ynghanol ansicrwydd.

Fe wnaeth y CCRC gwrdd â'r corff llywodraethu nos Lun a'i gwneud yn glir nad oeddent yn cytuno â'u "datrysiad gorau posibl".

"Mae barn y chwaraewyr yn glir - nid oes cefnogaeth i'r model dau glwb arfaethedig," meddai Prif Weithredwr CCRC, Gareth Lewis.

Mae chwaraewyr yn credu bod y cynlluniau yn:

  • Lleihau cyfleoedd chwarae proffesiynol yng Nghymru, yn enwedig i chwaraewyr iau;

  • Lleihau'r gronfa chwaraewyr sydd ar gael i'r tîm cenedlaethol;

  • Peryglu dieithrio cefnogwyr a niweidio'r diwylliant hanesyddol a'r cystadlaethau sy'n diffinio rygbi Cymru;

  • Cyfyngu ar lwybrau datblygu a gyrru talent o Gymru.

Yr wythnos diwethaf, anogodd y Dreigiau i'r URC i ailystyried eu cynlluniau gyda'r cadeirydd David Wright yn dweud "mae rygbi Cymru yn haeddu gwell".

Mae'r CCRC yn annog yr Undeb i lunio cynllun arall.

"Rydym yn teimlo ei bod yn bwysig ar hyn o bryd yn ystod yr ymgynghoriad bod y teimladau cryf ymhlith chwaraewyr yn glir i bob rhanddeiliad a'r gymuned rygbi ehangach," meddai Lewis.

"Gyda diddordeb parhaus y cyfryngau a chefnogwyr, rydym am sicrhau bod llais y chwaraewyr i'w glywed ac yn cyfrannu'n adeiladol at y trafodaethau parhaus am ddyfodol ein gêm.

"Gan edrych ymlaen, mae chwaraewyr yn credu bod yn rhaid adeiladu dyfodol rygbi Cymru ar fodel sy'n amddiffyn cyfleoedd chwarae, yn meithrin llwybrau, yn cadw hunaniaeth ac yn cryfhau'r gêm ar gyfer cenedlaethau i ddod.

"Rydym yn cydnabod safbwynt Undeb Rygbi Cymru bod pob opsiwn yn parhau i gael ei ystyried nes bod yr ymgynghoriad wedi dod i ben.

"Bydd yr CCRC yn parhau i ymgysylltu'n agored ac yn adeiladol, gan weithio ochr yn ochr ag Undeb Rygbi Cymru, clybiau, a'r gymuned rygbi ehangach i helpu i lunio dyfodol cynaliadwy a llwyddiannus i rygbi Cymru."

Hyderus 'na fydd streic'

Mae'r PRU yn dechrau ar 26 Medi ac mae Undeb Rygbi Cymru yn anelu at gyflwyno eu penderfyniad terfynol i'r bwrdd ddiwedd mis Hydref, cyn gemau rhyngwladol yr hydref.

Dywedodd cyfarwyddwr rygbi a pherfformiad elitaidd URC, Dave Reddin, fis diwethaf ei fod yn obeithiol na fydd argyfwng fel un 2023 - yr adeg honno roedd chwaraewyr Prawf Cymru yn bygwth mynd ar streic cyn gêm y Chwe Gwlad yn erbyn Lloegr.

"Rydym am ymgysylltu'n agos â'r chwaraewyr fel eu bod yn deall y persbectif a'r cyfle," meddai Reddin wrth ddatgelu'r cynlluniau.

"Rydym yn gobeithio, ac mae'r arwyddion cynnar yn gadarnhaol, y bydd pobl wir eisiau gwrando a bod rhan o'r hyn sy'n cael ei gynnig yng Nghymru.

"Rydym am weithio'n agos iawn a chyfathrebu â nhw oherwydd byddai streic yn drychineb i bawb, profais hynny gyda rygbi Lloegr flynyddoedd lawer yn ôl, ac nid wyf yn credu y byddai'n symud ein hagenda ymlaen."