Jac Morgan ddim am chwarae yng Nghymru os yw'r Gweilch yn diflannu

Jac MorganFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe symudodd Morgan i'r Gweilch o'r Scarlets yn 2021

  • Cyhoeddwyd

Mae Jac Morgan wedi dweud wrth Undeb Rygbi Cymru (URC) na fyddai'n aros i chwarae yng Nghymru os yw'r Gweilch yn diflannu.

Mewn cyfarfod gyda chefnogwyr yr wythnos hon, dywedodd prif weithredwr y Gweilch fod capten Cymru wedi rhoi rhybudd clir i'r undeb - sy'n ystyried cynlluniau i haneru nifer y timau proffesiynol ar hyn o bryd.

Morgan - un o'r unig ddau Gymro i gael eu cynnwys yng ngharfan y Llewod dros yr haf - yw'r chwaraewr presennol amlycaf i leisio'i anfodlonrwydd â'r cynlluniau.

Mae cytundeb y blaenasgellwr 25 oed gyda'r Gweilch yn dod i ben ar ddiwedd tymor 2025-26.

Mae URC yn dweud mai torri nifer y clybiau rygbi proffesiynol o bedwar i ddau ydy'r "cam radical" sydd ei angen i achub y gêm yng Nghymru.

Ond mae'r corff yn ystyried modelau ariannu eraill hefyd, wrth iddyn nhw gynnal cyfnod ymgynghori a ddaw i ben ar ddiwedd y mis.

Mae Cymdeithas Chwaraewyr Rygbi Cymru (CCRC) wedi dweud wrth yr undeb bod eu cynigion ar gyfer y gêm elitaidd yn mynd i "yrru talent o Gymru".

Mae disgwyl penderfyniad terfynol ar ddyfodol y rhanbarthau proffesiynol erbyn diwedd mis Hydref.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.