Cartrefi Cymru â'r nifer fwyaf o finiau gwastraff yn y DU
- Cyhoeddwyd
Mae gan gartrefi yng Nghymru y nifer uchaf o finiau yn y DU ar gyfartaledd, yn ôl ymchwil, gyda rhai trigolion yn dweud eu bod yn hyll ac yn beryglus.
Ar hyn o bryd, mae Cymru'n ail yn y byd o ran ailgylchu gwastraff cartref, ac mae Llywodraeth Cymru’n dweud mai’r rheswm am hyn yw’r broses o wahanu deunyddiau.
Ond mae hynny’n golygu hyd at 10 bin fesul cartref, gyda Blaenau Gwent, Merthyr Tudful a Chastell-nedd Port Talbot ymhlith y lleoedd gyda’r mwyaf o wastraff i’w ddidoli yn y DU.
Dywedodd rhai trigolion ym Mlaenau Gwent fod biniau’n aml yn cael eu cadw ar balmentydd gan nad oes lle arall ar eu cyfer, gan rwystro llwybrau cerdded ac anharddu'r ardal.
Ond mae eraill yn credu bod yr opsiynau ailgylchu yng Nghymru yn “dda iawn”.
- Cyhoeddwyd5 Mehefin
- Cyhoeddwyd16 Chwefror
- Cyhoeddwyd3 Ebrill
Dywedodd y cyngor fod chwe bin yn cael eu darparu yn gyffredinol - papur, plastigau, caniau, gwydr, cardbord a bwyd - ynghyd â gwastraff na ellir ei ailgylchu.
Gall trigolion hefyd ddewis cael biniau ar gyfer tecstilau, batris, eitemau trydanol bach, gwastraff gardd a chewynnau.
Yn ôl ymchwil diweddar gan y grŵp ymgyrchu diwygio trethi Taxpayers’ Alliance, Blaenau Gwent a Merthyr Tudful oedd â'r nifer uchaf o finiau posib yn y DU, sef 10.
Dywed hefyd fod cyfartaledd Cymru o chwe bin fesul cartref yn uwch na’r un rhanbarth arall yn y DU.
Ond yn ôl rhestrau safonol y cynghorau, Castell-nedd Port Talbot sydd â'r nifer fwyaf o finiau posib yng Nghymru, sef naw, a Gwynedd y lleiaf, sef pump.
Dyw'r ffigyrau hyn ddim yn cynnwys casgliadau dewisol o eitemau penodol.
Yn ogystal, cyflwynodd Llywodraeth Cymru reoliadau ailgylchu gwastraff newydd ym mis Ebrill, sy’n golygu bod gwastraff swyddfeydd, busnesau a llety gwyliau hefyd yn gorfod cael ei ddidoli i’w ailgylchu.
'Amhosib llusgo'r biniau i gyd trwy’r tŷ'
Roedd gan drigolion ym Mlaenau, Blaenau Gwent, farn gymysg am effeithiolrwydd y system finiau.
Un sy'n anhapus gyda'r sefyllfa yw Keziah Jones, 35. “Roedd gyda ni fagiau o’r blaen, oedd yn llawer mwy ymarferol... ro'n i’n gallu eu cadw nhw yn fy nghypyrddau cegin," meddai. "Mae’r rhain mor hyll.”
Er bod troli wedi’i darparu ar gyfer pentyrru’r cynwysyddionm mae'n dweud "allen ni ddim cael rhai yn eu lle mwyach, ac maen nhw’n torri’n aml yn y gwynt.”
Does dim dewis, meddai, ond cadw’r biniau y tu allan i’w drws ffrynt yn barhaol.
"Alla' i ddim llusgo'r rheiny i gyd trwy’r tŷ ar ben fy hun - mae'r gegin ar yr ail lawr.
“Mae fy mam-gu yn byw ar y stryd yma hefyd, ac mae’r [biniau] yma mor anymarferol. Fedar hi ddim llusgo’r drol yma o gwmpas, mae’n hunllef i’r henoed.”
Ychwanegodd y gallai’r biniau fod yn “beryglus” gan eu bod yn blocio’r palmentydd.
“Pan roedd fy mab bach yn iau ac mewn bygi, roedd yn rhaid i mi fynd allan i’r ffordd,” meddai.
Dyw didoli eitemau "ddim yn broblem" i Stephen Pegler, 68, ond "mae cymaint o sibrydion am ailgylchu achos dan ni'n gweld nhw'n dadlwytho...
"Yr hyn sy’n fy nghorddi - 'dan ni'n mynd i'r dreffaerth o wahanu popeth ac mae’r cyfan wedyn yn mynd i’r un lle.”
Mae Elizabeth Gething, 77, yn byw ar ei phen ei hun ac yn dweud nad oes ganddi ddigon o wastraff i lenwi’r holl finiau ailgylchu.
“Dydi pawb ddim yn golchi a gwahanu [pethau i'w hailgylchu]. Mae’n dibynnu os oes gan bobl yr amynedd ai peidio.”
A hithau'n ddiwrnod gwlyb a gwyntog, roedd Ms Gething yn codi sbwriel o’r stryd.
“Mae’n 10 o’r gloch nawr, a dydi'r dynion sbwriel dal ddim yma. Mae’n ofnadwy. Dyle nhw ddod yn gynharach o lawer.”
'Mae'n dda i'r amgylchedd'
Dywedodd Paul Harrington, 72, ei fod yn adeiladu storfa finiau wrth adnewyddu ei gartref.
“Rwy’n lwcus oherwydd dwi yng nghanol gwneud y gwaith yma beth bynnag, ond rhaid i lawer o bobl eraill eu cael yn sownd tu allan i’w drysau ffrynt,” meddai.
“Does dim ots 'da chi sortio popeth - mae'n dda i'r amgylchedd.”
Symudodd Mark Underdown, 42, i Flaenau tua thri mis yn ôl o Surrey, lle “maen nhw’n ei wneud e'n hollol wahanol”.
“Rwy’n meddwl bod ailgylchu yng Nghymru yn dda iawn i fod yn onest,” meddai. “'Dan ni'm hyd yn oed yn defnyddio ein biniau du oherwydd ry'n ni'n ailgylchu popeth.”
Yn ôl prif weithredwr y Taxpayers’ Alliance, John O’Connell, mae cynghorau yng Nghymru'n "rhoi baich aruthrol ar aelwydydd trwy’r system gwahanu gwastraff sy’n aml yn hurt o gymhleth".
Ond dywedodd grŵp ymgyrchu Cymru’n Ailgylchu bod peidio gwahanu gwastraff yn golygu bod cynghorau’n "llai tebygol o allu gwerthu deunyddiau ailgylchu i fusnesau sydd angen deunyddiau ansawdd da i greu cynhyrchion newydd".
Mae Dr Tommaso Reggiani, uwch ddarlithydd yn Ysgol Fusnes Prifysgol Caerdydd, wedi cynnal ymchwil mewn economeg ymddygiadol.
Tra bod ailgylchu, meddai, yn gallu “ymddangos yn rhad ac am ddim”, mewn gwirionedd mae llawer o gostau cysylltiedig.
Maen nhw'n cynnwys costau corfforol, fel dod o hyd i le ar gyfer biniau amrywiol, ond hefyd costau seicolegol fel amser a thensiwn posib o fewn aelwydydd.
“Fel bodau dynol, rydym wastad yn tueddu i leihau costau,” meddai.
“Mae biniau niferus yn cynyddu cost cydymffurfio â’r rheolau - gall pobl deimlo braidd yn llethol a'r canlyniad anfwriadol wedyn yw mwy o ddefnydd o’r bin du.”
Fe allai pobl gael eu digalonni ymhellach, ychwanegodd, gan yr elfen o “ddaioni cyffredinol”, gan deimlo bod eu hymdrech yn ofer os maen nhw'n gwneud eu gorau i ailgylchu pan fo eraill ddim yn trafferthu.
Awgrymodd Dr Reggiani er mai dirwyon yw'r ymateb yn aml, gallai gorfodi mwy cadarnhaol ar sail gwobrwyo, fel gostyngiadau yn y dreth gyngor, arwain at ganlyniadau gwell.
Enghraifft dda o hynny, meddai, yw'r cynlluniau ad-dalu poteli, lle mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu gwobrwyo, hyd yn oed os ydyn nhw wedi talu am y botel ymlaen llaw.
Ychwanegodd bod angen profi cynlluniau’n wyddonol, ac addysgu pobl ynghylch ailgylchu o oedran ifanc.
Dywedodd Cyngor Blaenau Gwent: “Mae gwahanu eitemau ailgylchu wrth ymyl y ffordd yn arwain at lefelau heintio is ac o ganlyniad mae’r deunyddiau'n werth mwy yn y pen draw.”
Yn ôl Llywodraeth Cymru mae sefyllfa ailgylchu Cymru o ganlynad “cadw deunyddiau ar wahân i gynyddu cyfraddau ailgylchu a lleihau’r gwastraff rydym yn ei anfon i’w losgi ac i safleoedd tirlenwi.”