'Mwy o dipio anghyfreithlon' os yn cau canolfan ailgylchu

  • Cyhoeddwyd
Canolfan Rhydeinion
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd oriau agor Canolfan Rhydeinion eu cwtogi yn 2018

Mae yna bryder o'r newydd yn ardal Llanarth ger Aberaeron y bydd canolfan ailgylchu a gwastraff i'r cartref yn gorfod cau fel rhan o arbedion ariannol Cyngor Sir Ceredigion, ac y gallai hynny arwain at gynnydd mewn tipio gwastraff anghyfreithlon.

Roedd yna fygythiad i ganolfan Rhydeinon yn 2018, ond yn hytrach na'i chau, fe gwtogwyd yr oriau agor i dridiau'r wythnos.

Nawr, mae yna bryder y bydd trigolion lleol yn gorfod teithio i safleoedd yn Aberystwyth, Llanbedr Pont Steffan neu Aberteifi os ydy'r ganolfan yn cael ei chau.

Yn ôl Cyngor Sir Ceredigion, maen nhw'n adolygu'r trefniadau presennol ar gyfer safleoedd gwastraff cartrefi ond does dim penderfyniad wedi ei wneud eto.

Ar ddiwedd mis Chwefror, fe bleidleisiodd mwyafrif o gynghorwyr Ceredigion o blaid cynnig i gau un o'r pedwar safle presennol, ac i adolygu oriau'r safleoedd eraill.

Roedd hynny'n rhan o ymdrech i arbed £100,000, er doedd yna ddim manylion pellach ynglŷn â pha safle fyddai'n cau.

Clywodd y cyfarfod i osod y gyllideb bod yna fwlch ariannol o £14m, ac y byddai angen pecyn o 70 o fesurau i arbed arian.

Fe bleidleisiwyd hefyd dros gynyddu treth y cyngor 11.1%.

Disgrifiad o’r llun,

Mae dros 1,300 o bobl wedi arwyddo deiseb ar-lein yn gwrthwynebu unrhyw gynlluniau i gau'r safle

Os ydy'r ganolfan yn Rhydeinon yn cau, fe fydd pobl yr ardal yn gorfod teithio i Lanbedr Pont Steffan, Aberteifi neu Aberystwyth, taith o rhwng 25 a 40 munud.

Yn ôl yr awdurdod lleol, dangosodd astudiaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn 2020/2021 mai "Ceredigion oedd yn darparu'r nifer uchaf o safleoedd y pen o'r boblogaeth allan o'r 22 cyngor, a bod nifer o gynghorau eraill wedi lleihau eu darpariaeth ers hynny".

Mae yna bryder cynyddol ymhlith trigolion ardal Llanarth taw eu canolfan leol newydd yn Rhydeinon fydd yn cael ei thargedu, ac mae dros 1,300 o bobl wedi arwyddo deiseb ar-lein yn gwrthwynebu unrhyw gynllun i'w chau.

Disgrifiad o’r llun,

Mae pobl yn teithio o bell i ddefnyddio'r ganolfan yn Rhydeinion, meddai Mair Jones

Mae'r Cynghorydd Mair Jones o Gyngor Cymuned Llanarth o blaid cadw'r ganolfan ar agor.

"Maen nhw'n dod o ddalgylch o 15 milltir. O Landysul, Talgarreg, Aberaeron, Llannon. Maen nhw'n dod o bell. Mae'n fishi iawn yna," meddai.

"Mae'n hollbwysig, gyda'r holl bwyslais ar ailgylchu. Mae shwd gymaint o bwyslais nawr ar carbon footprint. Chi'n gofyn i bobl fynd gymaint â ni ymhellach?

"Chi'n gwybod beth, flytipping fydd y broblem nesaf. Mae honno yn mynd i fod yn broblem. Dy' nhw ddim yn mynd i drafaelu 20 milltir yn ychwanegol.

"Mae'n mynd i gael effaith andwyol ar gefn gwlad. Mae twristiaeth yn mynd ei chael hi. Fydd pob man yn cael ei anharddu. Mae gwrthwynebiad cryf i gael."

'Rhagor o dipio anghyfreithlon ar draws y sir'

Pan oedd y safle dan fygythiad yn 2018, dywedodd arweinydd presennol y cyngor, y Cynghorydd Bryan Davies, wrth BBC Cymru ei fod yn pryderu y byddai cau'r ganolfan yn Llanarth yn arwain at adael mwy o sbwriel a gwastraff yng nghefn gwlad.

"Fel cynghorydd sir, dwi'n eistedd ar weithgor tipio anghyfreithlon. Pe byddai safle fel hyn yn cau, rwy'n ofni y byddai rhagor o dipio anghyfreithlon yn digwydd ar draws y sir."

Dywedodd Cyngor Ceredigion mewn datganiad: "Mae adolygiad o'r trefniadau presennol sy'n ymwneud â safleoedd gwastraff cartrefi ledled Ceredigion yn cael ei gynnal gyda'r bwriad o weithredu cynigion i gyflawni'r arbedion cyllideb a nodwyd ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25.

"Nid oes penderfyniad wedi'i wneud gan y cyngor hyd yn hyn ac bydd unrhyw gynigion a gyflwynir yn cael eu hystyried ar ôl cwblhau'r adolygiad yn amodol ar brosesau gwneud penderfyniadau'r cyngor."

Pynciau cysylltiedig